Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 23 Ionawr 2019.
Cefais sgwrs gychwynnol gyda swyddogion ynglŷn â hynny. Fe fyddwch yn deall nad yw'r pwerau gennyf i sicrhau bod hynny'n digwydd, ac yn sicr, mae rhai cartrefi gofal yn caniatáu hynny, ond yn yr un modd, ceir cartrefi gofal nad ydynt yn caniatáu hynny. Felly, nid wyf wedi symud ymlaen ymhellach ar hyn, ond rwy'n cytuno'n llwyr, ac yn sicr, ar ôl dod yn berchennog—wel, fy merch, nid fi—ar gi bach a ddaeth gyda ni i gartref gofal i weld perthynas adeg y Nadolig, gallwch weld y pleser y mae pethau o'r fath yn ei roi i bobl, ond fel y dywedwch, pan fydd rhywun yn symud i gartref preswyl neu gartref nyrsio ac mae ganddynt anifail anwes, gall hynny beri problemau sylweddol, yn amlwg. Ond efallai yr hoffech fy ngwahodd i gynghrair Cats Protection Pen-y-bont ar Ogwr hefyd.