Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:49, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddileu TB mewn gwartheg a bywyd gwyllt erbyn 2036 ac mae ffermwyr yn derbyn bod hyn yn golygu llawer o gyfyngiadau ar y ffordd y maent yn gweithio ac yn gweithredu ac yn arwain at gostau sylweddol iddynt hefyd, ond mae hynny'n gwbl angenrheidiol er mwyn cyflawni'r nod a rennir gan bob un ohonom. Ond er bod ffermwyr yn gwneud llawer i atal a rheoli TB ar ffermydd gyda'u gwartheg, mae llawer yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd ati yr un mor egnïol i ddatrys y broblem mewn bywyd gwyllt. Ac yng nghanlyniadau'r difa a awdurdodwyd yng Nghymru, a ymddangosodd yn ddiweddar yn y llythyrau a ddatgelwyd yn answyddogol ac a oedd yn destun cwestiynau gan Paul Davies yr wythnos diwethaf, daeth yn amlwg mai pum mochyn daear sydd wedi eu difa ers mis Hydref 2017, o gymharu â'r 10,000 o wartheg y bu'n rhaid eu difa yn y flwyddyn hyd at fis Medi diwethaf. Felly, mae llawer o bobl yn credu mai geiriau gwag yn unig yw polisi Llywodraeth Cymru ar reoli bywyd gwyllt. Tybed a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni yn awr ar yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud i gyfiawnhau ei safbwynt.