Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:50, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Cyflwynais y rhaglen ddiwygiedig i ddileu TB ym mis Hydref 2017, ac rwyf wedi ymrwymo i adrodd yn ôl i'r Cynulliad hwn ym mis Ebrill pan fydd data gennyf ar gyfer y flwyddyn galendr gyntaf. Fe fyddwch yn gwybod ein bod, drwy'r rhaglen hon, yn llunio cynlluniau gweithredu pwrpasol gyda buchesi â TB hirdymor, sef unrhyw achos dros 18 mis, ac mae'r pum mochyn daear y cyfeiriwch atynt, rhywbeth sydd wedi'i gymryd allan o gyd-destun yn gyfan gwbl yn fy marn i, yn ymwneud â'r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny. Nawr, pan roddir y cynllun hwnnw ar waith gyda'r ffermwr, gyda'u milfeddyg preifat, gyda milfeddyg y Llywodraeth, efallai nad yw bywyd gwyllt yn rhan o'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn dileu TB o'r fuches honno.