Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 23 Ionawr 2019.
Carwn allu dweud 'gwnaf' i hynny—rwy'n ystyried y mater. Rwyf ar fin cyfarfod â Crisis i drafod ein sefyllfa mewn perthynas â hynny, ac rwyf wedi comisiynu briff ar fy nghyfer fy hun. Mae tai yn faes newydd i mi, ac nid wyf ond wedi bod yn y swydd ers faint bynnag o wythnosau—chwe wythnos neu rywbeth. Felly, rwyf wedi comisiynu briff ar fy nghyfer fy hun mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw i ddeall ein sefyllfa ar hyn o bryd, ac i weld beth yw'r ffordd ymlaen. Felly, nid wyf am wneud unrhyw ymrwymiad heddiw, ond rwy'n ystyried o ddifrif i weld beth y gallwn ei wneud ar hynny.