Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 23 Ionawr 2019.
Diolch am eich ateb llawn i'r cwestiwn hwnnw, Weinidog. Gwyddoch fy mod, ers peth amser, wedi bod yn awyddus i Lywodraeth Cymru fabwysiadu'r holl argymhellion yn adroddiad Crisis, sy'n amlinellu'n glir iawn sut y gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd. Fodd bynnag, gwyddom fod nifer y marwolaethau ymhlith pobl ddigartref wedi codi 24 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, ac nid yw hynny'n syndod o ystyried bod mwy o bobl yn ddigartref ac yn wynebu'r sefyllfa honno. Felly, mae mynd i'r afael â chysgu allan yn argyfwng cenedlaethol, ac ni allwn aros am fwy o adolygiadau neu grwpiau gorchwyl a gorffen. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i fabwysiadu un o'r argymhellion hynny, sef: a wnewch chi gyflwyno dyletswydd i ddarparu llety brys ar unwaith i bawb heb le diogel i aros tan y caiff angen blaenoriaethol ei ddiddymu?