Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 23 Ionawr 2019.
Diolch, Weinidog. Mae'n dra hysbys fod gan eich rhagflaenydd berthynas heriol weithiau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llywodraeth leol yn gyffredinol. Yn wir, dyfynnir eich cynghorydd arbennig yn y newyddion yn dweud bod y Gweinidog blaenorol yn dibynnu ar ffeithiau amgen yn aml iawn ar gyfer seilio ei benderfyniadau ynghylch llunio polisi. A allwch gadarnhau na fyddwch yn dibynnu ar ffeithiau amgen ac y byddwch yn seilio eich penderfyniadau ar yr hyn sydd er budd gorau cymunedau ledled Cymru a bod sicrwydd i lywodraeth leol yn un o'r prif bethau sy'n eu galluogi i ddarparu'r gwasanaethau y maent yn gyfrifol am eu darparu?