Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 23 Ionawr 2019.
Gallaf, nid yw'n arfer gennyf ddibynnu ar ffeithiau amgen, felly gallaf roi sicrwydd i'r Aelod nad wyf ar unrhyw frys i ddechrau gwneud hynny. Rwy'n gefnogwr hirdymor i lywodraeth leol. Gŵyr Aelodau yn y Siambr fy mod wedi treulio rhan fawr iawn o fy ngyrfa mewn llywodraeth leol. Credaf eu bod yn gwneud gwaith da mewn amgylchiadau cyfyngedig. Mae arnynt angen help a chymorth, ac weithiau, gallent gydweithio'n well, ac weithiau, rydym wedi peri problemau iddynt o ran y ffordd rydym wedi eu gorfodi i gydweithredu. Rwy'n falch iawn fy mod yn gweithio gyda gweithgor o lywodraeth leol, i ystyried sut y gallwn wneud y gorau o dalent gyfunol llywodraeth leol er mwyn sicrhau'r effaith orau ar gyfer pobl Cymru. Ond yn gyffredinol, rwy'n frwd fy nghefnogaeth i lywodraeth leol, ac rwy'n bwriadu parhau i fod.