Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 23 Ionawr 2019.
Byddai—[Torri ar draws.] Os caf fwrw ymlaen, os yw'r Aelod yn caniatáu i mi wneud, o ystyried fy mod yn sefyll ar y pwynt hwn yn y broses i gefnogi cynnig yr Aelod, ac i argymell i'r Cynulliad ein bod yn caniatáu i'r ddeddfwriaeth hon fwrw yn ei blaen ar y cam hwn. Dylwn ddweud, yng ngrŵp Plaid Cymru, y byddwn yn cael pleidlais rydd ar hyn, a bydd yr Aelodau, fel y teimlaf sy'n briodol ar gyfer deddfwriaeth meinciau cefn, yn penderfynu ar y rhinweddau yn eu barn hwy.
Credaf fod budd mewn egwyddor i'r hyn y mae Darren Millar yn ei gynnig. Mae gennym dystiolaeth o effeithiolrwydd ymgorfforiad rhannol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae'r Aelodau'n gwybod, fel y crybwyllodd y Gweinidog eisoes, am fy nghynnig ein bod yn ystyried cynnwys y confensiwn ar hawliau pobl anabl. Fel y dywedodd y Gweinidog, cytunaf yn llwyr â hi, a'r achos y mae Darren Millar wedi'i nodi, am y gwahaniaethu difrifol y mae pobl hŷn yn ei ddioddef mewn llawer o amgylchiadau, er bod rhaid inni hefyd gydnabod bod pobl hŷn weithiau ymysg y rhai mwyaf breintiedig a mwyaf llwyddiannus yn ariannol, felly nid yw'n wir bob amser. Ond cefais fy synnu, er enghraifft, wrth weld enbydrwydd rhai o'r gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl, ac mae rhai o'r cartrefi gofal yr ymwelais â hwy wedi bod yn hollol waradwyddus. Dylwn ddweud hefyd fy mod wedi ymweld â rhai lleoliadau sydd wedi bod yn eithriadol, ac yn aml, nid y rhai mwyaf moethus yw'r rheini, nid y rhai mwyaf costus, ond y rhai lle y ceir gofal o'r ansawdd uchaf.
Felly, rwy'n cydnabod disgrifiad Darren Millar o rai o'r heriau a wynebwn wrth sicrhau bod pobl hŷn yn gallu arfer eu hawliau. A'r cwestiwn i'r Cynulliad hwn fydd: ai'r ddeddfwriaeth hon yw—neu ai'r ddeddfwriaeth hon fydd, oherwydd, nid ydym wedi ei gweld eto wrth gwrs—ai'r ddeddfwriaeth hon fydd y fwyaf effeithiol a'r fwyaf tebygol o lwyddo i fynd i'r afael â'r ystod eang honno o heriau y mae Darren Millar yn gywir yn ei nodi?
Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn am y trafodaethau a gefais gyda Gweinidogion Cymru, gyda Julie James a gyda Jane Hutt, yn dilyn fy nghynnig mewn perthynas â'r confensiwn ar gyfer pobl anabl, ynghylch yr agenda ehangach y mae'r Gweinidog wedi'i gosod i ni heddiw, a diddorol iawn oedd darllen barn y Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â hyn. Fel y dywedodd y Gweinidog yn gywir, nid ydym yn gwybod eto, os a phan fydd Brexit yn digwydd, sut y bydd hynny'n effeithio ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb, oherwydd mae deddfwriaeth y DU, wrth gwrs, yn seiliedig ar apêl yn y pen draw i'r llysoedd Ewropeaidd, ac ni fyddai hynny'n wir mwyach. Felly, mae llawer o ffactorau anhysbys yn y sefyllfa hon. A buaswn yn siomedig iawn pe bai'r gwaith y mae'r Gweinidog wedi'i amlinellu yn cael ei lesteirio mewn unrhyw ffordd gan hynt y Bil arfaethedig hwn. Fodd bynnag, lle nad wyf yn cytuno â'r Gweinidog ar hyn o bryd yw nad wyf yn derbyn y byddai caniatáu i'r Bil hwn symud ymlaen i'r cam nesaf yn gorfod bwrw'r gwaith hwnnw oddi ar y cledrau o reidrwydd. Yn wir, gallwn ddychmygu sefyllfa lle y gallem fwrw ymlaen gyda'r ddeddfwriaeth hon, ac ar gam pellach, gallai'r Llywodraeth ddewis ymgymryd â hi a'i hymgorffori mewn gwaith pellach y maent yn ei wneud, fel y gwnaethpwyd, er enghraifft, pan gyflwynais Fesur hawliau gofalwyr mewn Cynulliad blaenorol, Mesur a gafodd ei fabwysiadu wedyn gan y Llywodraeth a'i roi mewn darn ehangach o waith yr oeddent yn ei wneud ar hyrwyddo hawliau gofalwyr.
Hoffwn ddweud yn glir iawn heddiw wrth y Llywodraeth nad wyf yn credu y gallwn ddefnyddio Deddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant, fel y mae yn awr, i symud yr agenda hon yn ei blaen. Ni ellir sicrhau iawn i'r unigolyn o dan y Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant, ac mae'r Comisiynydd ei hun yn ei gwneud yn glir na all wneud dim heblaw enwi a chodi cywilydd. A gwn fod Gweinidogion yn edrych ar yr anghysondeb rhwng pwerau ein comisiynwyr gwahanol, a hefyd yn edrych ar y ffordd y mae'r pwerau hynny wedi neu heb gael eu defnyddio. Ac unwaith eto, gwn y caiff hynny ei ymgorffori yn y gwaith y mae'r Gweinidog wedi'i amlinellu heddiw. Ond unwaith eto, ni welaf fod hwnnw'n rheswm ar hyn o bryd o reidrwydd i'r Cynulliad hwn beidio â chaniatáu i gynnig Darren Millar symud yn ei flaen.
Bydd yn ddiddorol iawn gweld manylion y Bil. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y mater a gododd Suzy Davies ynglŷn â gorfodadwyedd oherwydd fe wyddom—ac rwy'n edrych ar Jane Hutt, ein Gweinidog cydraddoldeb, sy'n gwybod yn iawn, oni bai fod gan unigolion fecanweithiau y gallant eu defnyddio, mecanweithiau nad ydynt yn dibynnu ar y Llywodraeth, nad ydynt yn dibynnu ar gomisiynydd annibynnol, ond y gallant eu defnyddio eu hunain i orfodi'r hawliau hynny, mae'n bosibl na chaiff yr hawliau hynny eu gorfodi yn y pen draw. Ac mae gennym brofiad o geisio gweithredu deddfwriaeth cydraddoldeb rhywiol sy'n gwneud hynny'n glir.
Rwy'n credu ein bod—gallwn weld o'r ddadl hon—yn unedig yn ein dymuniad yn y Siambr hon i fynd i'r afael â gwahaniaethu sydd, heb amheuaeth, yn wynebu pobl hŷn. Credaf y dylem aros i weld manylion y Bil hwn cyn dod i gasgliad pa un ai hon yw'r ffordd iawn ymlaen ai peidio. Ac ar sail hynny, rwy'n cymeradwyo cynnig Darren Millar i'r tŷ.