6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Pensiynau Allied Steel and Wire

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 4:00, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, mae'r ddadl hon wedi bod yn mynd rhagddi ers blynyddoedd lawer. Canfu gweithwyr Allied Steel and Wire yng Nghaerdydd eu bod yn wynebu colli eu pensiynau yn 2002. Roedd ASW yn gyflogwr mawr yng Nghaerdydd, ac mae'n hawdd anghofio yn awr, gyda'r newidiadau sydd wedi digwydd yn y ddinas hon, sut roeddem yn denu'r cyflogwyr diwydiannol mawr hynny. Gweithiodd rhai o'r gweithwyr sydd yma heddiw yn ASW am 40 mlynedd cyn i'r cwmni fynd i'r wal. Roeddent wedi talu tuag at bensiynau y credent eu bod yn ddiogel. Roeddent yn credu y caent eu gwobrwyo am eu blynyddoedd o waith caled â phensiwn ymddeol a fyddai'n adlewyrchu eu blynyddoedd o wasanaeth, ac roeddent yn anghywir.

Rwy'n deall bod hon yn ddadl a gawsom o'r blaen yn y Cynulliad. Yn wir, sefydlais grŵp trawsbleidiol gyda llawer ohonoch yn y Siambr hon yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad i geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Ac rwy'n deall hefyd nad yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Buaswn o ddifrif yn gobeithio, pe bai'n fater wedi'i ddatganoli, y byddem wedi cywiro'r anghyfiawnder hwn ac y byddem wedi gwneud rhywbeth gwahanol iawn yn wir. Ond nid yw'n fater datganoledig, a diben y ddadl hon yma heddiw yw ceisio gweithio gyda'r ymgyrchwyr a chodi hyn yn uwch eto ar yr agenda wleidyddol. Rwyf wedi dweud mewn nifer o ddadleuon a gawsom—boed ar faterion rhyngwladol, boed ar faterion nad ydynt wedi'u datganoli—fod yn rhaid inni ddangos arweiniad moesol ar y materion hyn os na allwn wneud y penderfyniadau gwleidyddol yma yng Nghymru.

Nawr, pan oeddwn yn ymwneud ag anghydfod pensiynau Visteon o'r blaen—neu Ford, fel y byddai llawer o'r ymgyrchwyr ar y pryd wedi'i alw—roeddwn i ac eraill yn dweud mai cyflog wedi'i ohirio yw pensiwn, nid bonws hawdd, nid taliad diswyddo, nid parasiwt aur. Cyflog gohiriedig ar ffurf cyfraniad gweithwyr ydyw er mwyn sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd yn eu henaint. Mae pawb ohonom yn disgwyl hynny. Mae pawb ohonom eisiau hynny. Yn wir, dyna a drafodwyd gennym yn y ddadl flaenorol yma heddiw, ynglŷn â sut rydym eisiau'r parch hwnnw pan fyddwn yn hŷn. Ond pam na wnawn ni hynny yn achos gweithwyr ASW sy'n haeddu'r hawl i gael y pensiwn hwnnw? Felly, ar gyfer pobl megis pensiynwyr ASW, gweithwyr Visteon, neu'r rhai sy'n gysylltiedig ag Equitable Life a chynifer o gwmnïau eraill sydd wedi colli rhan o'u pensiynau, dyma beth y dylem ei alw; dylem ei alw'n lladrad gan y cwmnïau hynny sy'n cymryd y cyflogau haeddiannol hynny, y pensiynau haeddiannol hynny allan o bocedi'r bobl y dylent fod yn eu cynnal. A dylem gadw hynny mewn cof drwy'r ddadl.

Credaf ei bod yn werth mynd drwy linell amser yr ymgyrch hon yn fyr iawn, er mwyn inni atgoffa ein hunain pa mor galed yw hi wedi bod ar yr ymgyrchwyr hyn. Felly, aeth ASW i'r wal a mynd i law'r derbynnydd yn 2002. Cafodd y rhan fwyaf o'r gweithwyr eu diswyddo, ac er i'r cwmni Sbaenaidd Celsa gaffael y ffatri flwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn rhy hwyr i lawer o'r rhai a gyflogid yn flaenorol. Daeth yn amlwg yn ystod trafodaethau rhwng ASW, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU ar y pryd fod diffyg o £21 miliwn yng nghronfeydd pensiwn y cwmni. Er bod rhywun wedi prynu'r safle, nid oedd hyn yn cynnwys enillion pensiwn gwarantedig ar gyfer gweithwyr a ddiswyddwyd. Yn y pen draw, cyngiwyd oddeutu 40 y cant o werth disgwyliedig eu pensiwn i'r rhan fwyaf o'r gweithwyr—nad oedd yn agos at yr hyn a haeddent. Felly, dechreuwyd ymgyrch, ac roedd llawer yn credu ei bod wedi llwyddo pan gyhoeddodd Llywodraeth Lafur y DU ar y pryd gynllun cymorth ariannol, a'r gronfa diogelu pensiynau flwyddyn yn ddiweddarach.

Nawr, mae'n hawdd anghofio nad oedd y system bresennol sydd gennym yn bodoli yn 2002. Ar y pryd, roedd bwgan cynyddol yr hyn a elwid yn drefniadau dirwyn i ben—lle nad oedd gweithwyr mwyach yn cael y pensiynau a addawyd iddynt ac y talasant i mewn iddynt yn seiliedig ar hyd gwasanaeth a'u cyflog terfynol adeg ymddeol, a lle y byddent yn lle hynny yn cael beth bynnag y gallai'r cynlluniau fforddio ei dalu ar ôl sicrhau bod pensiynau'r rhai a oedd eisoes yn bensiynwyr wedi'u diogelu. Pwynt trefniadau dirwyn i ben oedd bod yn ddull sydyn ac uniongyrchol o dorri costau ar draul gweithwyr, lladrata oddi wrth y gweithwyr, gyda rhai ohonynt wedi bod yn talu i'r cynlluniau pensiwn ers llawer iawn o flynyddoedd. Cafodd degau o filoedd o weithwyr ledled y DU mewn amrywiol ddiwydiannau eu heffeithio mewn rhyw ffordd gan gau safleoedd, gan gwmnïau a'r modd yr aent i'r wal, a dyna sut y cafodd eu pensiynau eu trin mor amharchus.

Felly, mae'r ffaith bod ymgyrch gref a chyhoeddus gweithwyr ASW, gyda chefnogaeth pobl megis Ros Altmann—y Farwnes Ros Altmann bellach—wedi llwyddo i newid y gyfraith a chyflwyno cynlluniau diogelu pensiynau wedi'u cefnogi gan y Llywodraeth yn gamp aruthrol. Gwn y bydd Aelodau yma heddiw'n arswydo wrth feddwl am yr hyn a allai fod wedi digwydd i nifer fawr o weithwyr Cymru pe bai cynllun fel y gronfa diogelu pensiynau heb gael ei sefydlu, er mor amherffaith yw'r cynllun hwnnw. Ond ni chafodd gweithwyr ASW gyfran deg na thriniaeth deg gan Lywodraethau olynol y DU, er gwaethaf gwaith caled yr ymgyrchwyr. Felly, y sefyllfa heddiw o hyd yw nad yw ymgyrchwyr wedi cael unrhyw beth yn debyg i 90 y cant o werth eu pensiynau. Mewn gwirionedd, nid yw'r ymgyrchwyr sydd bellach yn y cynllun cymorth ariannol yn cael unrhyw amddiffyniad mynegai chwyddiant ar eu cyfraniadau cyn 1997, ychydig iawn a gânt ar gyfraniadau ar ôl 1997, ac maent yn gorfod dioddef cap ar daliadau hefyd. Po hwyaf y bu rhywun yn gweithio i'r cwmni hwn, y gwaethaf yw'r sefyllfa y maent yn debygol o fod ynddi. Mae yna bobl yn y grŵp ymgyrchu a roddodd 40 mlynedd o wasanaeth i gynhyrchu dur yng Nghaerdydd—ac nid yng Nghaerdydd yn unig. Mae yna bobl yng Nghaint sy'n wynebu sefyllfa yr un mor real, pobl sydd wedi gweithio'n galed ar hyd eu hoes mewn swyddi medrus ar gyflogau da, ac sy'n wynebu'r poen meddwl ariannol hwn yn ystod eu blynyddoedd diweddarach. Ac mae'n warthus yn fy marn i. Gwarth a anwyd yn y ddeddfwriaeth wreiddiol ac un nad yw eto wedi'i gywiro gan Lywodraeth y DU.

Nawr, rwy'n ymwybodol o'r amser, a hoffwn gau drwy ddarllen dyfyniad gan John Benson sydd wedi bod yn ddiwyd yn cadw mewn cysylltiad â mi ac ACau eraill yn yr ystafell hon ar y mater hwn. Er nad wyf yn cynrychioli ei ranbarth, gwn fod cyfiawnder pensiwn yn rhywbeth rwy'n malio'n fawr amdano, er nad wyf wedi cyrraedd oedran pensiwn fy hun eto. Er hynny, rwyf wedi gweithio'n ddiwyd, mor galed ag y gallaf, gyda'r ymgyrch hon a chyda phensiynwyr Visteon yn y gorffennol i geisio ymladd am y pensiynau y maent yn eu haeddu. Ac mae'n brofiad anhygoel bod yn rhan o ymgyrch Visteon—roedd pobl yn treulio'u holl amser wedi iddynt ymddeol yn ymgyrchu yn hytrach na mwynhau ffrwyth eu llafur. Felly, dyma'r hyn a ddywedodd John, ac fe fyddaf yn gorffen gyda hyn: 'Mae bron 17 o bobl wedi marw ac maent yn dal i gael y pensiynau y cawsant eu hannog gan y Llywodraeth i'w cynilo wedi'u dwyn oddi arnynt. Mae'r freuddwyd honno o ymddeoliad wedi ei dryllio gan ddeddfwriaeth ddiffygiol Llywodraethau. Rhaid dweud bod llawer o'r dynion a menywod gweithgar a pharchus hyn wedi cael eu bradychu mewn ffordd anynnol gan Lywodraethau olynol. Nid ydynt yn haeddu cael eu trin mor annheg; maent wedi rhoi eu ffydd mewn Llywodraethau a bradychwyd y ffydd honno.'

Mae gennym ddyletswydd i gefnogi a helpu'r cyn-weithwyr dur ASW hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn wneud cyfiawnder â'u hachos a pharhau i godi'r mater hwn ar y lefelau uchaf o ymwneud gwleidyddol, sicrhau y cymerir camau, a chefnogi John a phobl debyg iddo.