Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 23 Ionawr 2019.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, er y byddai'n well gennyf pe na bai ei hangen. Mae rhai ohonom wedi bod yn Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ers amser hir iawn—ers y diwrnod cyntaf, mewn gwirionedd—fel roedd fy nghyn gyd-Aelod Plaid Cymru, Owen John Thomas, a oedd yn groch ei gefnogaeth i ymgyrchwyr pensiwn Allied Steel and Wire ar hyd yr amser.
Yn 2003—sef 16 mlynedd yn ôl—sicrhaodd Plaid Cymru ddadl plaid leiafrifol yn Nhŷ Hywel—roeddem yn yr hen adeilad ar y pryd, cofiwch—ar sgandal yr hyn a oedd wedi digwydd i bensiynau Allied Steel and Wire. Yn y ddadl honno, dywedodd Owen John Thomas:
Mae hwn yn gyfle perffaith i'r Llywodraeth Lafur hon ddangos ei phenderfyniad i roi chwarae teg i weithwyr. Deddfwriaeth Dorïaidd, a gyflwynwyd gan Margaret Thatcher, a achosodd y llanastr hwn drwy gyflwyno rheolau sy'n caniatáu i gwmnïau dalu eu holl gredydwyr eraill cyn anrhydeddu eu hymrwymiadau pensiwn wrth i gwmni gael ei ddirwyn i ben.
Roedd hynny amser maith yn ôl, ac rydym yn dal yma. Roedd y cynllun diogelu pensiynau a gefnogwyd gan y Llywodraeth yn gyflawniad arwyddocaol ar y pryd, ac roedd y ddeddfwriaeth i'w gweld yn newid blaengar gan Lywodraeth Lafur. Nid dyna fel y mae pethau wedi datblygu, ac ers blynyddoedd, ni wnaeth Llywodraethau Blair a Brown ddim byd o gwbl i unioni unrhyw anghyfiawnder a wynebai'r rhai o fewn y cynllun cymorth ariannol. Yn wir, gadawodd y Farwnes Ros Altmann y Blaid Lafur oherwydd y mater hwn yn 2007, mater a alwai'n 'sgandal'. Gwelliant ymylol a welwyd yn y cynllun cymorth ariannol ar ôl i'r Llywodraeth ar y pryd orfod mynd i'r llys, wedi iddi apelio ar ôl ei chael yn euog gan yr ombwdsmon o gamarwain pensiynwyr. Nid oedd y modd yr oedd y Llywodraeth Lafur flaenorol wedi trin pensiynwyr yn ennyn llawer o glod. Daeth y Llywodraeth ar y pryd o dan lach y Campaign for Plain English am fod yn ddauwynebog. Daeth y Ceidwadwyr i rym yn 2010 gyda'r disgwyliad y byddent yn cywiro'r problemau hyn yn y gyfraith pan gâi'r cynllun cymorth ariannol ei sefydlu. Ni wnaethant ddim heblaw cynnig cydymdeimlad mewn gwirionedd. Fe wnaethant benodi'r Farwnes Altmann i fod yn Weinidog pensiynau, ond nid oeddent yn barod i ddarparu iawndal i'r ymgyrchwyr hyn ac i eraill yn y cynllun cymorth ariannol. Y peth sy'n peri pryder yw nad yw'r Llywodraeth bresennol yn y DU wedi gwneud unrhyw beth i sicrhau iechyd hirdymor pensiynau preifat.
Nid yw ymgyrchwyr Allied Steel and Wire yn mynnu pethau ychwanegol; maent eisiau tegwch. Maent eisiau i'w cyfraniadau cyn 1997 gael eu hamddiffyn rhag chwyddiant. Maent eisiau i'r rhai yn y cynllun cymorth ariannol gael eu trin gyda'r un lefel o degwch a diogelwch â'r rhai sydd yn y gronfa diogelu pensiynau, a dileu cap ar daliadau ac iawndal fel y gallant gael yr hyn a gymerwyd oddi arnynt. Fel y dywedodd eraill—. Rydym wedi cael cyfraniadau go rymus y prynhawn yma: Bethan, roeddech yn wych wrth agor y ddadl; Andrew R.T. a Mick, aruthrol. Ceir emosiynau pwerus ynglŷn â hyn o hyd, ac fel y dywedodd Bethan, gan ddyfynnu llawer o bobl dros y blynyddoedd, nid bonws ar ddiwedd gwaith yw cyfraniad pensiwn, ond rhan ohiriedig o gyflog rhywun; mae ei gymryd yn lladrad.
Bu Plaid Cymru'n ymladd dros gyfiawnder i'r gweithwyr hyn ac eraill ers blynyddoedd, fel y clywsom. Sylwadau Owen John Thomas yn 2003 oedd y rheini. Roedd yn dal wrthi yn 2007, a dyfynnaf—mewn dadl gan Owen John a oedd yn dal yma ar y pryd:
Rhaid i Lywodraeth y DU wneud newidiadau i'r Cynllun Cymorth Ariannol fel bod cyn-weithwyr ASW yn cael yr hyn y byddai hawl ganddynt ei gael. Mae yma anghyfiawnder ofnadwy yn arbennig i'r rhai sydd o dan 50 oed ond sydd efallai wedi gweithio hyd at 35 mlynedd yn y gwaith dur, ond sy'n mynd i fethu cael unrhyw gymorth ariannol.
Roedd hynny 12 mlynedd yn ôl. Roedd hynny ynddo'i hun bum mlynedd wedi i'r mater hwn godi ei ben am y tro cyntaf, ac Allied Steel and Wire, ffatri anferth sydd ond dafliad carreg oddi yma—. Beth allwn ni ei wneud am y peth? Diolch yn fawr.