Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 29 Ionawr 2019.
Wel, bydd yn rhaid i mi wirio fy e-bost oherwydd nid wyf i'n meddwl fy mod i wedi cael fy ngwahodd i'r cyfarfod hwnnw fel Aelod Cynulliad rhanbarthol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod diffyg buddsoddiad enbyd yn rheilffyrdd y de-orllewin. Nododd adroddiad a dderbyniwyd gan Bwyllgor yr Economi a Seilwaith, gan Rowland Pittard, bod, a dyfynnaf, hanes maith o addewidion o wasanaeth bob hanner awr o Faesteg, ac mae'n awgrymu bod llwybrau bysiau i'r ardal yn dipyn o draed moch hefyd. Beth mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud i gynyddu hygyrchedd cludiant cyhoeddus i bobl yn fy rhanbarth i sydd wedi bod yn aros am gryn amser am gynnydd yn y maes hwn?