Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 29 Ionawr 2019.
Wel, Llywydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi croesawu'r cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer gwasanaeth ar y Sul o Faesteg i Gaerdydd, yn stopio ym Mhencoed, a fydd yn dechrau eleni. Bydd hi wedi croesawu'r ffaith, o hydref eleni, y bydd cerbydau wedi'u huwchraddio, gan greu cynnydd o 45 y cant i gapasiti ar gyfer teithiau boreol o Faesteg, a gwn y bydd wedi croesawu'r ffaith y bydd yr amser teithio rhwng Caerdydd a Maesteg, erbyn Rhagfyr 2023, wedi ei leihau o 55 munud i 46 munud, o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon.