Capasiti Ffyrdd a Rheilffyrdd Pencoed

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

1. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch materion capasiti ffyrdd a rheilffyrdd Pencoed? OAQ53287

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 29 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'm trafodaethau gydag ef fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfarfod gydag Aelodau Cynulliad, cynghorwyr ac Aelodau Seneddol ddydd Llun i drafod capasiti ffyrdd a rheilffyrdd mewn cysylltiad â Phencoed.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac a gaf i, drwyddo ef, gyfleu fy niolch i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth? Mae wedi cael ei lobïo yn ddiddiwedd gennyf i, ac rwyf i wedi dod â dirprwyaethau o arweinydd y cyngor, cynghorwyr tref o gyngor tref Pencoed ac eraill, ac mae wedi ymgysylltu'n adeiladol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda ni.

Mae dwy ochr y dref hon wedi eu gwahanu erbyn hyn gan groesfan rheilffordd a all fod ar gau yn ystod cyfnodau brig am hyd at 40 munud mewn awr a phont ffordd gul Fictoraidd sy'n caniatáu traffig unffordd yn unig a bennir gan system goleuadau traffig tair ffordd. Gall hyn arwain at dagfa lwyr yn y dref, rhwystredigaeth enfawr i drigolion a busnesau, llygredd aer a thagfeydd, a llaw farw o ran tai a datblygu economaidd ehangach. Mae ganddo enw gwael iawn hefyd, gyda llaw—y groesfan—am ei ddamweiniau ac achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd gyda cherddwyr a thraffig, ac, wrth gwrs, mae'r darn o reilffordd hefyd yn ddrwg-enwog am farwolaethau drwy hunanladdiad, yn anffodus.

Felly, mae'r grant o £60,000 a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan grant trafnidiaeth Llywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth o ddichonoldeb i ddatrys y materion hyn yn gam pwysig ymlaen, a diolchwn o waelod calon i Lywodraeth Cymru am hyn. Prif Weinidog, rydym ni wedi treulio sawl blwyddyn i gyrraedd pwynt lle mae gennym ni'r holl garfannau priodol wrth y bwrdd: Network Rail, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cyngor tref Pencoed, cynghorwyr lleol, Aelod Seneddol, a hyd yn oed sylwedydd yn bresennol—[Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:31, 29 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn dod at ei gwestiwn.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Ydw. A hyd yn oed presenoldeb sylwedydd o Swyddfa Cymru hefyd. Ond a fyddai'n cytuno â mi pe byddai cefnogaeth gyhoeddus, a dim ond ar ôl ymgynghori priodol, bod cynllun sylweddol gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd rhagddo, y byddai hyn yn golygu bod angen i'r holl garfannau hynny chwarae eu rhan? A tybed beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i annog San Steffan a'r Adran Drafnidiaeth i ymateb i'r her hefyd.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:32, 29 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. A, Llywydd, wrth ddychwelyd yn gynnar y bore yma o Tata Steel, lle'r oedd y Gweinidog a minnau wedi bod gyda David Rees yn dathlu ailosod ffwrnais chwyth newydd rhif 5, ac yn trafod y mater hwnnw, manteisiwyd ar y cyfle i fynd oddi ar y ffordd ac i weld y groesfan reilffordd. Ac ar ôl i chi ei gweld drosoch eich hun, rydych chi'n deall yn llwyr y pwyntiau y mae Huw Irranca-Davies yn eu gwneud, a hoffwn dalu teyrnged i'r ffordd ddiflino y gwn y mae ef wedi bod ar drywydd y mater hwn, nid yn unig yn y Cynulliad hwn, ond pan yr oedd yn Aelod Seneddol hefyd, yn ceisio cael ateb i'r hyn sydd, fel y mae'r Aelodau wedi clywed, yn falltod gwirioneddol iawn ar yr angen i sicrhau gwelliant yn yr ardal honno.

Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi rhywfaint o arian ar y bwrdd i ddatrys yr anghytundeb llwyr a oedd yno fel arall, ond mae'r Aelod yn gwbl gywir wrth ddweud na fydd ein harian—y £60,000 yr ydym ni wedi ei gynnig ar gyfer yr astudiaeth o ddichonoldeb—yn dwyn ffrwyth mewn gwirionedd tan fydd canlyniadau astudiaeth ddichonoldeb yn cael eu hariannu, ac, ar gyfer hynny, byddwn angen cymorth yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain, yn ogystal â'n hadnoddau ein hunain.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:33, 29 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, bydd yn rhaid i mi wirio fy e-bost oherwydd nid wyf i'n meddwl fy mod i wedi cael fy ngwahodd i'r cyfarfod hwnnw fel Aelod Cynulliad rhanbarthol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod diffyg buddsoddiad enbyd yn rheilffyrdd y de-orllewin. Nododd adroddiad a dderbyniwyd gan Bwyllgor yr Economi a Seilwaith, gan Rowland Pittard, bod, a dyfynnaf, hanes maith o addewidion o wasanaeth bob hanner awr o Faesteg, ac mae'n awgrymu bod llwybrau bysiau i'r ardal yn dipyn o draed moch hefyd. Beth mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud i gynyddu hygyrchedd cludiant cyhoeddus i bobl yn fy rhanbarth i sydd wedi bod yn aros am gryn amser am gynnydd yn y maes hwn?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:34, 29 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi croesawu'r cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer gwasanaeth ar y Sul o Faesteg i Gaerdydd, yn stopio ym Mhencoed, a fydd yn dechrau eleni. Bydd hi wedi croesawu'r ffaith, o hydref eleni, y bydd cerbydau wedi'u huwchraddio, gan greu cynnydd o 45 y cant i gapasiti ar gyfer teithiau boreol o Faesteg, a gwn y bydd wedi croesawu'r ffaith y bydd yr amser teithio rhwng Caerdydd a Maesteg, erbyn Rhagfyr 2023, wedi ei leihau o 55 munud i 46 munud, o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon.