Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 29 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae cynllunio yn fater dadleuol yn aml. Un o'r pethau yr ydych chi wedi ei wneud wrth ffurfio eich Llywodraeth yw symud cynllunio i'r adran llywodraeth leol a thai. Rwy'n credu bod y cam hwnnw yn beth da yn ddamcaniaethol: i gael yr un Gweinidog yn gyfrifol am dai, am lywodraeth leol ac am gynllunio. Y gobaith yw y gallai hyn arwain at ddull mwy cydgysylltiedig. Nawr, tybed a yw'r cam hwn yn arwydd bod eich Llywodraeth yn credu bod yn rhaid i'r broses gynllunio yng Nghymru fod yn fwy ymatebol i ddymuniadau pobl leol?