Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 29 Ionawr 2019.
Wel, Llywydd, mae Gareth Bennett yn iawn wrth ddweud mai diben rhoi llywodraeth leol, cynllunio a thai yn yr un portffolio yw gwneud popeth a allwn i wneud y pethau hynny'n fwy cydgysylltiedig a gwneud y system gynllunio yn fwy effeithiol o ran cyflawni rhai o'n prif uchelgeisiau polisi yma yng Nghymru, gan gynnwys y ddarpariaeth o dai newydd a fforddiadwy, a dyna, yn wir, yw'r sail i'r penderfyniad i ddod â'r materion hynny ynghyd mewn un portffolio.