Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 29 Ionawr 2019.
A gaf i ddiolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad? Rwy'n croesawu llawer o'r sylwadau ac, yn amlwg, gynnwys y cyfraniadau y prynhawn yma. Yn amlwg, gan ganolbwyntio ar yr arwyddocâd hanesyddol yn gyntaf, y Parchedig Griffith Jones o Landdowror yn Sir Gaerfyrddin a sefydlodd ysgolion Sul cylchynol yn y ddeunawfed ganrif fel templed ar gyfer pob ysgol fodern. Roedd yr ysgolion cylchynol mor llwyddiannus fel mai Cymru oedd un o'r gwledydd mwyaf llythrennog o wledydd Ewrop gyfan, ar y pryd, yng nghanol y ddeunawfed ganrif, i'r graddau y gwnaeth Catherine Fawr, Ymerodres Rwsia, anfon cennad yma i Gymru fach i ddarganfod sut yr oedd yr ysgolion hynny'n gweithredu. Efallai na fyddwch yn dod o hyd i hynny wrth chwilio yn Google, a dyna pam mae angen inni addysgu hanes Cymru yn ein hysgolion yng Nghymru. Felly, byddwn yn gwneud y ple hwnnw, ond, yn amlwg, rwyf wedi gwneud hynny o'r blaen.
O ran amser, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un pwynt yn eich Papur Gwyn, ac mae'n bwynt y cyfeiriwyd ato eisoes gan Suzy a Siân Gwenllian. O ran y ddyletswydd ar yr holl ysgolion—rwy'n ei weld o dan adran 3.79 yma, pwynt bwled 4:
'Dyletswydd ar bob ysgol a Lleoliad Meithrin a Gyllidir i addysgu Saesneg fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru.'
Gallaf ddeall hynny o safbwynt cydraddoldeb, ond mewn gwirionedd nid yw'n digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddai'n gam yn ôl pe byddai ein meithrinfeydd a'n grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg a'r blynyddoedd cynnar mewn ysgolion yn dechrau cyflwyno Saesneg nawr oherwydd mae hyn yn ymwneud â throchi iaith. Mae'n sefyllfa anghyfartal ar hyn o bryd. Rwy'n siarad fel cadeirydd llywodraethwyr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, lle mae 92 y cant o'r plant yn dod o gefndir di-Gymraeg. Maen nhw'n dibynnu ar yr ysgol i ddysgu Cymraeg. Felly, dim ond 8 y cant ohonyn nhw sydd â rhywfaint o Gymraeg yn y cartref, ac, yn wir, dim ond hanner o'r rheini sydd ag un rhiant. Felly, mewn geiriau eraill, mae gan 4 y cant un rhiant yn siarad Cymraeg. Felly, mae 92 y cant o gefndir hollol ddi-Gymraeg. Mae'n sefyllfa anghyfartal wedyn, oherwydd mae'n ymwneud â dysgu iaith yn gynnar a throchi yn yr iaith honno.
Roedd yr ysgol yr wyf i bellach yn gadeirydd y llywodraethwyr ynddi—yn arfer bod, dros 20 mlynedd yn ôl, yn ysgol ddwyieithog. Nid ysgol cyfrwng Cymraeg oedd hi, roedd hi'n ddwyieithog—Cymraeg a Saesneg. Yr hyn a ganfuwyd gennym oedd nad oedd rhai o'r plant bob amser yn siarad Cymraeg yn rhugl yn y pen draw, erbyn eu bod yn 11 oed. Maen nhw erbyn hyn. Maen nhw'n dechrau, mae popeth yn Gymraeg, mae Saesneg yn cael ei chyflwyno pan fydd y plant yn saith oed—erbyn eu bod nhw'n 11, mae pawb yn ddwyieithog, ac yn dod o'r cefndir 92 y cant di-Gymraeg hwnnw neu beidio. Ac, yn amlwg, mae'n haws dysgu iaith arall fel Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg, yn enwedig os caiff ei chyflwyno ar lefel cynradd. Felly, byddwn yn erfyn arnoch—mae'r holl brofiad rhyngwladol ynghylch dysgu iaith mewn sefyllfa leiafrifol yr ydym ni ynddi nawr, nid yw'n gyfartal, ac mae'n rhaid inni unioni'r anghydraddoldeb hwnnw drwy wneud yn siŵr mai Cymraeg yn unig a geir hyd at saith oed, ac yna rydych chi hefyd yn cyflwyno ieithoedd eraill ar ôl hynny, oherwydd bod ganddyn nhw'r dylanwad Saesneg llethol hwnnw yn y cartref, o'u cwmpas i gyd, ar y teledu. Maen nhw'n dibynnu ar yr ysgol am y Gymraeg. Edrychwch eto, os gwelwch yn dda, Gweinidog, ar adran 3.79. Diolch yn fawr.