Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 29 Ionawr 2019.
Diolch, unwaith eto, Dirprwy Weinidog, am gyfarfod â mi y bore 'ma i'm rhoi ar ben ffordd ynghylch hyn, a chydweithwyr eraill ar draws y Siambr mae'n debyg, ac am eich datganiad. Rydym ni ers tro bellach wedi darparu hafan ddiogel i ddioddefwyr erledigaeth, trais, glanhau ethnig a hil-laddiad o bedwar ban byd, a hir y pery hynny, oherwydd os collwn ni hynny fyth, byddwn wedi colli ein dynoliaeth a'n gwir hunaniaeth.
Yn eich cynllun, rydych chi'n darparu diffiniadau o geiswyr lloches a ffoaduriaid, sy'n dangos bod ceisiwr lloches yn unigolyn sy'n ffoi rhag erledigaeth yn ei famwlad. Ffoadur yw unigolyn sydd, oherwydd ofn rhesymol o gael ei erlid ar sail hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol arbennig neu farn wleidyddol, yn teimlo ei fod mewn perygl gartref. Rydych chi'n nodi hefyd bod y term 'ffoaduriaid' yn cynnwys unigolion, nas cydnabyddir eu bod nhw'n ffoaduriaid ond sydd wedi cael caniatâd amhenodol i aros.
Fel y rhybuddiais wrthych y bore 'ma, fe'ch holaf felly ar sail pryderon a godwyd â mi gan geisiwr lloches aflwyddiannus yn ystod digwyddiad i goffau'r Holocost ddydd Gwener diwethaf yn Wrecsam, sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy'r broses apelio. A fyddai unigolion o'r fath felly yn cael eu cynnwys yn hyn neu beidio? Os na fydden nhw, a fyddech chi'n ystyried hyn eto i weld pa un a yw hi'n bosibl eu cynnwys?
Rai misoedd yn ôl, ym mis Mehefin, wrth ymateb i ddatganiad gan arweinydd y tŷ ar y pryd ar Gymru—cenedl noddfa, nodais ffigurau o'r flwyddyn flaenorol a oedd wedi dangos darlun cymysg iawn o ailsefydlu ffoaduriaid ledled Cymru. Dangosodd bryd hynny nad oedd Merthyr Tudful na Chastell-nedd Port Talbot wedi derbyn unrhyw ffoaduriaid, Sir Gaerfyrddin oedd yr uchaf gyda 51 ac Abertawe gyda 33. Yn y gogledd, roedd gan Sir Ddinbych 21 ond dim ond pump yn Sir y Fflint a dau yng Nghonwy. Atebodd arweinydd y tŷ ar y pryd,
Cododd yr Aelod y pwynt pam y ceir anghysondeb yn y nifer a fanteisiodd ar y cyfle...ond, wrth gwrs, nid ydyn nhw'n ystadegau parhaus.
A ydych chi'n gallu darparu nawr neu yn nes ymlaen ddarlun cyfredol, neu mor gyfredol â phosibl, o'r ystadegau i'r Aelodau fel y gallwn sefydlu pa un a yw'r sefyllfa yn gwella yn yr ardaloedd lle bryd hynny roedd hi'n ymddangos y ceid mwy o rwystrau?
Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at ymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, Clymblaid Ffoaduriaid Cymru a phobl sy'n ceisio lloches i gyflawni canlyniadau gwell, ac wrth gwrs fe wnaethoch chi ddefnyddio'r gair cydgynhyrchu. Cyfeiriasoch hefyd at eich prosiect integreiddio ffoaduriaid, ReStart, i gyflawni rhaglen uchelgeisiol i gefnogi integreiddio ar gyfer ffoaduriaid yn bennaf yng Nghymru ar gyfer clystyrau didoli lloches a datgan hefyd bod sicrhau bod pobl sy'n ceisio lloches yn gallu datblygu eu gwybodaeth am fywyd yng Nghymru a deall hawliau a chyfleoedd, yn hanfodol i'w helpu i integreiddio a dod yn rhan o'r gymdeithas.
Sut ydych chi hefyd yn bwriadu ymgysylltu â'r boblogaeth ehangach, gan ei bod yn amlwg yn broses ddwy ffordd? Oni bai inni dorri'r rhwystrau rhag deall gartref, yna ni waeth pa mor dda yr ydym yn ceisio integreiddio ein cymdogion newydd, bydd y rhwystrau hynny yn parhau. Felly, mae hyn wirioneddol yn broses dwy ffordd.
Mae'r gwaith caib a rhaw eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru, yn aml am y nesaf peth i ddim, gan fyrdd o gyrff y trydydd sector a phartneriaethau rhwng y trydydd sector ac eraill. Felly, sut ydych chi'n bwriadu ymgysylltu â phrosiectau o'r fath? Fe rof i ychydig o enghreifftiau ichi. Rwy'n credu fy mod i wedi sôn wrthych y bore yma fy mod i'n Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn cyflawni'r agenda hon dros nifer o flynyddoedd. Fis Mai diwethaf, yn y Cynulliad cynhaliais y digwyddiad Gadewch inni Integreiddio Drwy Gerddoriaeth a Chelf a gyflwynwyd gan Gymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru a KIRAN o Gwmbrân, y rhwydwaith perthynas ac ymwybyddiaeth rhwng cymunedau ar sail gwybodaeth, sydd â'r nod o ddileu'r rhwystrau sy'n cadw pobl ar wahân a hybu'r cyd-ddealltwriaeth sy'n dod â phawb at ei gilydd. Fis Mai diwethaf, cefais gyfarfod yn y Cynulliad gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru a gwasanaethau cymorth personol CAIS i siarad ynghylch sut y gallwn ni weithio mewn partneriaeth i chwalu rhwystrau a chynyddu dealltwriaeth o ddiwylliannau ein gilydd.
Fis Hydref diwethaf, siaradodd Julie James a minnau yn nigwyddiad NWAMI Dathlu Blynyddol Diwrnod Integreiddio Rhyngwladol yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Fe wnes i gloi'r digwyddiad drwy bwysleisio unwaith eto pwysigrwydd integreiddio drwy ddathlu gyda'n gilydd ein hamrywiaeth odidog, gan adeiladu cydlyniant cymunedol a chymdeithas oddefgar drwy ymgysylltu diwylliannol. Rwy'n gobeithio felly, y gwnewch chi amlinellu'n ehangach sut bydd eich cynllun yn ymgysylltu a chofleidio'r prosiectau hynny sydd eisoes yn gweithredu ar draws y genedl, yn gwneud y gwaith caib a rhaw i godi pontydd o'r ddau ben.
Yn olaf, os caf, dim ond cwestiwn ynghylch sut y gallwn ni gefnogi o fewn yr agenda hon y mentrau dinas a thref lleol sydd hefyd yn codi stêm. Fe gofiwch yn dda sut y daeth Cymru yn genedl fasnach deg wrth i ddarnau'r jig-so ddechrau ar wahân ac yna dod at ei gilydd, a Wrecsam y dref fasnach deg gyntaf ac eraill yn dod at ei gilydd cyn y gallai Cymru ddod yn genedl fasnach deg gyfan. Nawr, yn yr achos hwn, yr haf diwethaf er enghraifft, Synergedd yn Sir y Fflint, yn gweithio gyda'i gilydd i wneud Sir y Fflint yn noddfa i ffoaduriaid a'r rhai a oedd yn dianc rhag trais ac erledigaeth, yn uno nid yn unig aelodau Synergedd, ond Dinasoedd Noddfa Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, cynrychiolwyr yr eglwys, elusenau a grwpiau gweithredu, Theatr Clwyd a hamdden a llyfrgelloedd Aura—unwaith eto, gwaith ar lawr gwlad a allai elwa'n ychwanegol ar weithio gyda'ch cynllun chi.
Ac yn olaf—