Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 29 Ionawr 2019.
Fel bob amser, mae'n rhaid inni gydnabod nad yw polisi lloches a mewnfudo wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Nid ydym ni'n rheoli llawer o'r dulliau dylanwadu allweddol i wneud gwahaniaeth. Mae'r cynllun yn adlewyrchu ein hymdrechion i weithredu newid cadarnhaol yn y meysydd hynny lle mae gennym ni gyfrifoldeb. Mae'n amlinellu ein hymrwymiad i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, Clymblaid Ffoaduriaid Cymru—y byddwn yn cwrdd â nhw cyn bo hir—a phobl sy'n ceisio lloches i gyflawni gwell canlyniadau.
Mae'n hinsawdd heriol iawn i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU. Mae'r sgyrsiau gwleidyddol a'r adrodd ynghylch mewnfudo ar y cyfryngau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dwysáu tensiynau rhwng cymunedau. Mae cymunedau Cymru bellach wedi croesawu'n agos at 1,000 o ffoaduriaid o Syria sydd wedi adsefydlu, gyda llawer o agweddau cadarnhaol ac ychydig iawn o ddigwyddiadau negyddol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cymunedau Cymru hefyd wedi croesawu llawer mwy o ffoaduriaid o bedwar ban byd a gyrhaeddodd drwy'r llwybr lloches digymell. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r system ddwy-haen, sy'n cosbi'r rhai sy'n cyrraedd drwy'r llwybr lloches. Hefyd, rydym ni'n gwrthwynebu cau cynllun Dubs, a oedd yn darparu llwybr cyfreithlon i ddiogelwch ar gyfer plant sy'n ffoaduriaid yn Ewrop. Yn ogystal â hyn, rydym ni'n parhau i wrthwynebu'r polisïau amgylchedd gelyniaethus neu gydymffurfiol, sy'n mynd yn erbyn ein rhwymedigaethau rhyngwladol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydym yn credu'n sylfaenol mewn rhoi pobl yn gyntaf ac nid defnyddio statws mewnfudo i rwystro cymorth. Rydym ni'n clodfori'r cymorth a roddwyd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ni waeth beth fyddai eu gwlad wreiddiol, a'n nod yw eu helpu i gyfrannu at gymdeithas Cymru mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn meddu ar brofiad a sgiliau sydd o werth i Gymru. Os rhown ni'r gefnogaeth iawn i'r unigolion hyn, gallwn ni ddatgloi eu potensial er budd mawr i'r wlad hon. Un o'r ffyrdd allweddol o wella cefnogaeth dros y ddwy flynedd nesaf fydd drwy ein prosiect integreiddio ffoaduriaid, sef ReStart, a fydd yn darparu rhaglen uchelgeisiol i gefnogi integreiddio ar gyfer ffoaduriaid, yn bennaf yn y pedwar clwstwr didoli lloches yng Nghymru. Bydd y prosiect yn cynyddu cyfleoedd i gael hyfforddiant iaith, cymorth cyflogadwyedd a gwybodaeth ddiwylliannol leol i hybu integreiddio. Bydd o leiaf 520 o ffoaduriaid yn cael asesiad cyfannol o'u hanghenion a rhoddir cymorth wedi'i dargedu i helpu eu hymdrechion i integreiddio i'r gymdeithas.
Mae'r cynllun cenedl noddfa yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol i helpu pobl sy'n ceisio lloches i integreiddio. Caiff ei gefnogi gan ein gwefan noddfa a fydd yn cael ei lansio'n fuan. Bydd y wefan yn darparu cyfoeth o wybodaeth berthnasol mewn un lleoliad hygyrch ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae sicrhau y gall pobl sy'n ceisio lloches ddatblygu eu gwybodaeth am fywyd yng Nghymru a deall eu hawliau a'r cyfleoedd yn hanfodol i'w helpu i ddod yn rhan o gymdeithas. Mae'r wefan yn cynnwys adrannau ar iechyd, addysg a chyflogaeth, yn ogystal ag iaith a gwybodaeth gyffredinol am ddiwylliant a hanes Cymru.
Mae'r cynllun yr wyf yn ei lansio heddiw yn tynnu sylw at amrywiaeth o gymorth wedi ei dargedu sy'n briodol yn ddiwylliannol ac sy'n gweddu orau ar gyfer anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynllunio a darparu gwasanaethau sy'n ystyried yr anghenion hyn: gwasanaethau iechyd meddwl sy'n mynd i'r afael â phrofiadau anodd ac unigol pobl sy'n ceisio lloches; ymyraethau i liniaru'r perygl o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn disgyn i amddifadedd a chamau gweithredu i atal yr unigolion sy'n agored i niwed hyn rhag camfanteisio arnynt; a chefnogaeth i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu diogelu, yn enwedig plant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Er enghraifft, rydym ni wedi darparu cyllid i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol i geisio sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwasanaeth gwarcheidiaeth i blant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw alw am wasanaeth o'r fath a sut y gallai edrych. Mae'r cyllid hefyd ar gael ar gyfer hyfforddi gweithiwr cymdeithasol i asesu oedran, a hyfforddiant mewn cyfraith fewnfudo ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
Rydym ni'n credu bod y cynllun yn gam arall i'r cyfeiriad cywir a chaiff ei fonitro'n drylwyr i gyflawni'r amcanion a'r camau gweithredu. Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud. Byddaf yn parhau i edrych am ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau mwy cynhwysol i bobl sy'n ceisio lloches, ac rydym yn bwriadu cynnal y momentwm yn dilyn cyhoeddi'r cynllun.
Nid yw atal unigolion rhag ceisio manteisio ar gyfleoedd ac ychwanegu at amrywiaeth ein cymunedau o fudd i neb. Mae ffoaduriaid cymwys ac aelodau o'u teuluoedd yn gallu cael gafael ar gymorth statudol i fyfyrwyr. Mae'r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau bod ein swyddogion hefyd yn ymchwilio i newidiadau posibl i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyllid myfyrwyr statudol i alluogi ceiswyr lloches i elwa ar y cymorth sydd ar gael.
Rydym yn cydnabod bod ceiswyr lloches yn aml wedi'u hynysu, ac y gall eu hiechyd meddwl ddirywio oherwydd nad oes ganddyn nhw'r hawl i weithio a dim ond ychydig iawn o arian i gael mynediad i'r gymuned ehangach. Cadarnhaodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bod swyddogion yn ymchwilio i'r posibilrwydd y gall ceiswyr lloches ddod yn grŵp penodol o bobl sy'n elwa ar deithio ar fws am bris rhatach. Mae pobl 60 oed a hŷn neu sy'n anabl ac yn byw yng Nghymru eisoes yn gymwys i wneud cais i'r awdurdod lleol perthnasol am docyn bws, a ddylai roi'r hawl iddyn nhw deithio am ddim ar fysiau ledled Cymru.
Rydym ni'n falch iawn bod cynrychiolydd UNHCR—Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid—y DU wedi rhoi cefnogaeth lwyr i'r cynllun. Asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yw UNHCR ac mae wedi ymrwymo i achub bywydau a diogelu hawliau pobl sy'n ceisio lloches. Rydym ni'n gwerthfawrogi'r geiriau o gefnogaeth ac anogaeth gan yr UNHCR ac rydym yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth o'n hymdrechion i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rydym yn bwriadu adeiladu ar y cynllun hwn i sicrhau bod Cymru yn wirioneddol yn genedl noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, er lles pawb mewn cymdeithas.