Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 29 Ionawr 2019.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid'. Mae'r cynllun yn cynnwys ystod o gamau gweithredu i wella bywydau pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru, ac mae'r camau gweithredu hyn yn rhychwantu ar draws Llywodraeth Cymru a thu hwnt. Maen nhw'n adlewyrchu'r dull cydgysylltiedig sydd ei angen i wella profiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Mae'r cynllun yn cynrychioli cam sylweddol tuag at ein huchelgais o wneud Cymru'n genedl noddfa. Mae'r enw yr ydym wedi ei roi ar y cynllun hwn yn ddatganiad clir o'n bwriad. Mae gan Gymru hanes hir a balch o groesawu ffoaduriaid, ond rydym ni eisiau symud y tu hwnt i groesawu unigolion, drwy ddefnyddio eu sgiliau a chyfoethogi ein cymunedau.
Cyhoeddwyd ein cynllun cyflawni blaenorol ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid ym mis Mawrth 2016. Ers hynny, arweiniodd y pryder dyngarol a ysgogwyd gan argyfwng ffoaduriaid Syria i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gynnal ymchwiliad i hyn. Roedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chynllun i ddiwallu anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn well. Fel Llywodraeth Cymru, roeddem ni hefyd eisiau dangos arweinyddiaeth a chyfeiriad cryfach yn y maes hwn, ac fe wnaethom ni gytuno i ddatblygu ac ymgynghori ynghylch fersiwn ddiwygiedig o'r cynllun.
Datblygwyd cynllun cenedl noddfa drwy gydgynhyrchu. Fe wnaethom ni gyfarfod a gwrando ar bobl a oedd yn ceisio lloches ac ymgysylltu â'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli, cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad. Roedd eu cyfranogiad a'u barn yn hollbwysig wrth greu cynllun diwygiedig ac fe hoffwn i ddiolch i bob un ohonyn nhw am neilltuo amser ac am gefnogi'r broses hon. Fe wnaeth yr ymgysylltiad hwn ein helpu ni i ddeall yn well yr heriau presennol sy'n wynebu'r unigolion hyn yn ddyddiol, sy'n hollbwysig os ydym ni am ddarparu cymorth effeithiol i ddatrys y problemau hyn. Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am eu hadroddiad rhagorol, 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun', a'i argymhellion, a greodd sylfaen gref ar gyfer ein trafodaethau gyda'r rhai hynny sy'n ceisio lloches.