Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 29 Ionawr 2019.
Credaf fod yn rhaid i ni gydnabod bod hwn yn fater hynod wleidyddol. Ac er na allai neb yn y Siambr hon fyth amau ymrwymiad personol Mark Isherwood i'r materion hynny y mae ef newydd fod yn eu codi â'r Gweinidog, mae'n ddyletswydd arnom ni i dynnu sylw at y ffaith ei fod yn eistedd yn y Siambr hon yn enw'r blaid sy'n gyfrifol am yr amgylched gelyniaethus, ac sy'n gyfrifol, er enghraifft, am yr amodau echrydus a wynebir gan bobl sy'n ceisio lloches mewn rhai o'r lletyau a ddarperir gan y Swyddfa Gartref, er enghraifft. Gwn i ei fod yn draddodiadol yn y Siambr hon, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cefnogi hynny, i geisio bod yn gydsyniol pan y gallwn, ond ni allwn, byddwn yn ei awgrymu i'r Gweinidog, fynd i'r afael â'r materion eithriadol o anodd hyn oni bai ein bod yn cydnabod yr amgylchedd gelyniaethus—ac nid wyf i'n sôn yn unig am yr amgylchedd gelyniaethus penodol, ond yr amgylchedd anodd iawn drwyddi draw.
Felly, gofynnaf i'r Gweinidog, o ran fy nghwestiwn cyntaf: beth all pob un ohonom ni ei wneud i geisio unioni rhai o'r camdybiaethau hyn a rhai o'r rhagfarnau a arweiniodd yn uniongyrchol at rai o'r heriau y mae pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru yn eu wynebu? Mae datganiad y Gweinidog yn crybwyll bod cyd-gynhyrchu wedi bod yn allweddol wrth ffurfio'r cynllun hwn, a byddai diddordeb gennyf mewn clywed ychydig mwy am sut y mae ceiswyr lloches eu hunain wedi cymryd rhan yn natblygiad y cynllun a beth, os oes o gwbl, sydd wedi newid o ran y cynigion o ganlyniad i'w cyfraniad. Rwyf yn siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi bod hyn yn hollbwysig.
Soniodd y Gweinidog yn ei hymateb i Mark Isherwood am rai o'r problemau a wynebir ynghylch y llety ar gyfer ceiswyr lloches. Gwyddom fod rhywfaint ohono o ansawdd gwael iawn, iawn. Fe'm calonogwyd o glywed y Gweinidog yn dweud ei bod yn ceisio parhau i allu cymryd rhan mewn gosod y contract newydd hwnnw, ac roeddwn i'n meddwl tybed os gallwch chi roi gwybod ychydig mwy i ni heddiw am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud ynglŷn â hynny, oherwydd mae'n ymddangos i mi nad yw er budd neb, budd y Swyddfa Gartref hyd yn oed, na ddylid caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd rhan mewn gosod y contract hwnnw a sicrhau bod y llety a ddarperir o'r safon y byddem yn ymgyrraedd ato, fel y nodir yn y cynllun y mae'r Gweinidog yn ei gyhoeddi heddiw.
Yn gysylltiedig â'r mater hwn, mae datganiad y Gweinidog hefyd yn cyfeirio at y mater pwysig o ddigartrefedd ymhlith ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r cynlluniau uchelgeisiol a lansiwyd gan Crisis y llynedd i roi terfyn ar ddigartrefedd ar draws y DU. Gwn fod fy nghyd-Aelodau wedi codi hyn gyda'ch rhagflaenydd ac roeddwn i'n meddwl i ba raddau tybed y mae'r uchelgeisiau a'r camau gweithredu a awgrymwyd gan Crisis wedi llywio'r materion llety yr ydych chi'n eu codi yn yr adroddiad. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn ymrwymo ein hunain, i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y pen draw, ac yn enwedig ar gyfer y grŵp hwn sy'n hynod agored i niwed, pobl yr wyf yn hapus, ac yr wyf yn siŵr y byddai'r Gweinidog yn hapus i'w galw'n gyd-ddinasyddion, oherwydd maen nhw'n gyd-ddinasyddion os ydyn nhw yma yn fy nhyb i .
A gaf i droi'n gyflym at ddau fater addysgol? O dan y pennawd 'Uchelgeisiol ac yn Dysgu' yn y cynllun gweithredu, mae cam gweithredu 8 yn cyfeirio at fynd i'r afael â bwlio, yn amlwg mewn ysgolion, ac mae'n rhaid bod hynny i'w groesawu'n fawr. Rwyf yn siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi bod y bwlio yn aml yn deillio o'r anwybodaeth a'r rhagfarn y cyfeiriais atyn nhw gynnau a dyna'r union ddiwylliant hynod niweidiol yr ydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef. A gafodd y Gweinidog y cyfle i drafod â'r Gweinidog Addysg sut bydd y cwricwlwm newydd—yr ymrwymiad yn y cwricwlwm newydd i helpu ein pobl ifanc i dyfu i fod yn ddinasyddion da—sut y gallwn ni fynd i'r afael â rhywfaint o'r rhagfarn a'r gwahaniaethu hwn drwy'r cwricwlwm newydd hwnnw ac yn wir drwy fesurau eraill cyn daw'r cwricwlwm newydd i rym, a pha fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, yn enwedig i herio twf yr asgell dde eithafol? Rwyf yn meddwl yn arbennig yma am bobl ifanc yn bod yn agored i'r negeseuon hynny pan eu bod yn eu clywed ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae cryn bwyslais, a hynny'n gwbl briodol, yn y cynllun ar integreiddio ac annog pobl i gymryd rhan yn y gymuned. Wrth gwrs, mae ceiswyr lloches yn gallu cael cyfle i ddysgu Cymraeg a Saesneg yn hanfodol i hynny. Wrth gwrs, mae'r penderfyniad wedi ei wneud i ddileu'r grant mawr, a oedd yn fodd hollbwysig o alluogi ysgolion i addysgu ieithoedd i newydd ddyfodiaid. Sut yr ydym ni am sicrhau bod yr adnoddau ar gael, yn enwedig ar gyfer ysgolion, a hefyd ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion, er mwyn sicrhau y gall pobl gael y cyfle i ddysgu dwy iaith y wlad hon? Oherwydd heb hynny, ni fydd unrhyw ymgais i integreiddio yn bosibl.
Rwyf wedi pwyso ar y Gweinidog i weithio'n agos â'r Gweinidog Addysg ynghylch y cymorth statudol i fyfyrwyr. Credaf ei fod yn gwbl hanfodol fod y newidiadau hynny y mae hi'n sôn amdanyn nhw yn ei datganiad yn cael eu gweithredu, a bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gallu cael mynediad at addysg uwch yng Nghymru. Ar wahân i unrhyw beth arall, nid yw er ein budd ni ein hunain i beidio â defnyddio'r sgiliau hynny.
Ac yn olaf, rydym ni'n gwybod bod Lywodraeth y DU wedi gwrthod fisâu i dros 2,000 o feddygon yn yr hyn yr wyf yn ei ystyried, a dweud y gwir, yn bolisi mewnfudo hurt a hunan-ddinistriol. Gwyddom gymaint mae angen y gweithwyr proffesiynol tra chymwysedig hyn arnom yma yng Nghymru. Hyd yma, mae eich plaid chi wedi gwrthod ein galwadau ar Lywodraeth Cymru i geisio cael cyhoeddi fisâu ei hun yn seiliedig ar ein hanghenion o ran y gweithlu, ac rwy'n meddwl tybed, yng ngoleuni'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud heddiw, Weinidog, pa un a fyddech chi'n ystyried ailedrych ar hyn. Diolch.