Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 29 Ionawr 2019.
Diolch. Croesawaf yn fawr y nifer sylweddol o gwestiynau gan Helen Mary Jones ar ran Plaid Cymru. Hoffwn ddweud, o ran ymgysylltu a chyd-gynhyrchu ac ymgynghori eang, bod 150 o bobl sy'n ceisio lloches wedi ymgysylltu â ni yn ystod datblygiad y cynllun. Ond yn amlwg, rwyf wedi sôn bod y gynghrair o sefydliadau ar Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, Cynghrair Ffoaduriaid Cymru ac awdurdodau lleol wedi dangos cryn ddiddordeb yn sgil adroddiad y pwyllgor. Yn 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun' dywedodd y Pwyllgor bod yn rhaid ceisio barn ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a dyna beth yr ydym wedi bod yn ceisio ei wneud.
Mae eich pwyntiau ynglŷn â materion ynghylch tai yn bwysig iawn, yn arbennig oherwydd mai dyna ble mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb clir. Ac rydym ni wedi ceisio gweithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran llety newydd i geiswyr lloches a chontractau cymorth, ond, yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud, mae'n ymddangos bod llawer o'n hargymhellion wedi cael eu gwrthod. A byddwch yn gwybod, rwy'n siŵr, bod adroddiad diweddar gan y prif arolygydd annibynnol ffiniau a mewnfudo yn nodi bod 18.6 y cant o'r tai lloches â arolygwyd yng Nghymru a de-orllewin Lloegr yn dai na ellid byw ynddynt neu'n anniogel. Felly, o ran eich galwad i graffu ar y pwyntiau hynny—y byddaf, wrth gwrs, yn mynd â nhw ac yn eu codi â Llywodraeth y DU, oherwydd, yn rhy aml, gorfodir pobl i fyw mewn tai gwael, neu nid ydyn nhw'n cael cynnig llety o gwbl. Mae hynny'n gwbl groes i'n nodau o ran y genedl noddfa.
Ond rwyf eisoes wedi sôn ein bod yn gwneud mwy i gefnogi'r Prosiect Tai i Ffoaduriaid, ac rydym yn holi dro ar ôl tro—a diolch i chi unwaith eto am eich cefnogaeth yn hyn o beth—Llywodraeth y DU i ymestyn y cyfnod symud ymlaen i 56 diwrnod, oherwydd mae hynny'n ei gysoni â chymorth digartrefedd arall, yng Nghymru a Lloegr. Ond hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod mabwysiadu ein hargymhellion. Nid yw'r rhain yn fawr o gymorth o ran y ffaith fod yna deimlad negyddol, er ein bod yn ennill parch mewn sawl ffordd, fel y gwelsoch chi gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig o ran y ffordd yr ydym yn defnyddio'r pwerau a'r sgiliau sydd gennym, gan gydnabod rhinweddau'r bobl sy'n dod a sut y byddan nhw'n ychwanegu at ein cymunedau yng Nghymru, a sut yr ydym ni wedi eu croesawu, ac wedi gwrthweithio'r canfyddiadau negyddol nad ydynt, wrth gwrs, o gymorth o gwbl.
Dywedais yn fy natganiad bod hinsawdd heriol iawn i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yn wir, oherwydd y drafodaeth wleidyddol, mae gan y cyfryngau ran i'w chwarae yn ogystal â pholisïau'r Llywodraeth. Credaf fod angen i ni fynd yn ôl unwaith eto, mae arnaf ofn, at rai o'r datganiadau a newidiadau deddfwriaethol sydd wedi arwain at y polisïau amgylchedd gelyniaethus, sydd, yn anffodus, yn cael eu gweithredu, ac maen nhw wedi eu cynnwys, wrth gwrs, yn Neddf Mewnfudo 2014. Cyfeirir ato nawr fel 'polisi amgylchedd cydymffurfiol', ond roedd hyn yn ymwneud â mesurau i nodi a lleihau nifer y mewnfudwyr yn y DU. Gwn fod Pwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin wedi mynd i'r afael â hyn.
Yn olaf, gwnaf y pwynt am fwlio, oherwydd bod hwn yn fater lle, unwaith eto, ynghyd â'r Gweinidog Addysg, ein gweledigaeth, yn amlwg, yw mynd i'r afael â bwlio mewn ffordd gyfannol, mynd at wraidd y mater, gan gynnwys y rhai o deuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yr hyn sy'n wych am Gaerdydd Dinas Noddfa yw fy mod i'n credu, erbyn hyn, bod sefydliadau yn cael eu hachredu. ysgol gyfun Llys-faen hyd yn oed, rwy'n credu—fy nghyd-Aelod o Ogledd Caerdydd. Mae eraill yn cael y math hwnnw o gydnabyddiaeth. Mae angen i ysgolion fod yn rhan ohono.
Ac o ran eich pwynt olaf ynghylch meddygon a gwrthod fisâu, rwyf yn falch iawn o'r ffaith ein bod ni, yng Nghymru, wedi goresgyn llawer o rwystrau i feddygon sy'n ffoaduriaid—a dywedais hynny yn fy natganiad—i ddod i weithio, ers i mi fod yn Weinidog iechyd, i sicrhau bod gennym ni erbyn hyn nifer fawr o feddygon sy'n ffoaduriaid, sydd eisoes, mewn gwirionedd, wedi eu derbyn gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a bellach yn ymarfer ledled y DU.