Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 29 Ionawr 2019.
Fe geisiaf fod yn gyflym iawn yn y fan yma. Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu uchelgais ac ysbryd y datganiad hwn, a hefyd gwaith y pwyllgor yr wyf bellach yn aelod ohono, a'i adroddiad blaenorol, 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun', sydd wedi rhoi sail ar gyfer peth o'r drafodaeth hon. Rwy'n croesawu hyn gan ei fod yn cydnabod bod y rhai sy'n ceisio lloches, y rhai sy'n ffoaduriaid, yn gaffaeliad, yn rhodd i ni ac nid yn faich. Yn hytrach na'u trin fel unigolion y mae'n rhaid inni eu cymryd o dan ein hadain yn gyndyn ac yn erbyn ein hewyllys, ein bod yn gweld mewn gwirionedd eu galluoedd a'r hyn y gallan nhw ei gynnig i ni hefyd. A fyddai hi'n cytuno â mi y gall rhai o'r enghreifftiau gorau o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru, mewn cymunedau unigol, ddangos y ffordd i ni, mewn gwirionedd?
Fe siaradais yn Ystradgynlais ym mis Mehefin y llynedd, yn neuadd lles y glowyr yno, mewn digwyddiad a oedd yn rhan o Sefydliad Josef Herman gan gydweithio gydag uned ffilm sydd wedi gweithio yno i adrodd stori bywyd Josef Herman, un oedd wedi ffoi rhag erledigaeth y Natsïaid o wlad Pwyl yn ystod yr ail ryfel byd i'r gymuned Cymoedd de Cymru honno, heb adnabod neb. Ymgartrefodd yno, cafodd ei wahodd yno, ac erbyn hyn, mae'n un o'r artistiaid Cymreig-Pwylaidd enwocaf gyda'i gelfyddyd i'w weld yn yr oriel genedlaethol ac mewn mannau eraill hefyd, yn ogystal â'r Sefydliad. Ond fe adroddwyd y stori gan blant sy'n ffoaduriaid o Syria—ganddyn nhw y clywsom y stori. Ac roedd y gymuned honno wedi agor ei breichiau unwaith eto. Roedd cymuned Cymoedd de Cymru wedi agor ei breichiau a dweud, 'Rydym nid yn unig yn eich croesawu chi, rydym yn eich croesawu chi a'r rhoddion a ddowch gyda chi a'r hyn yr ydych yn ei gyfrannu i ni hefyd.' A dyna'r hyn yr wyf yn ei hoffi am y datganiad hwn; yr ysbryd sydd ynddo yn ogystal â'i weithrediad ymarferol hefyd.
A fyddai hi'n cytuno â mi, yn ogystal â symud ymlaen i weithio gyda Llywodraeth y DU, rhywbeth y credaf fod angen i ni ei wneud—a fyddai hi'n ymrwymo i dynnu sylw mewn gwirionedd at yr hyn y mae angen iddyn nhw wneud yn sylweddol well hefyd? Nid yn unig o ran safonau llety a'r amgylchedd elyniaethus yr ydym wedi ei drafod, ond pethau fel gwelliant Dubs ar gyfer plant ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae angen inni nodi hefyd y mannau hynny lle maen nhw'n methu os ydym ni am fod yn DU groesawgar yn ogystal â Chymru groesawgar.
Fe soniwyd am y wefan noddfa. Gaf i ofyn am eglurder ynglŷn â phryd y bydd honno'n weithredol? Oherwydd bydd hynny'n ddefnyddiol iawn. Gaf i ddweud yn olaf, Dirprwy Lywydd, fy mod i'n croesawu hynny hefyd gan nad yw'n dangos unrhyw agwedd hunanfodlon? Mae'n cydnabod bod hyn yn gam mawr ymlaen, ond fod yna fwy o waith i'w wneud. Nid yw'n hunanfodlon. Felly, beth yw ein camau nesaf, lle gall hi ein harwain i ddweud, ar lefel Cymru, ond hefyd o fewn cymunedau lleol, awdurdodau lleol, y trydydd sector, a phartneriaid eraill—ble ddylem ni fod yn ceisio gwneud mwy i ddod y genedl groesawgar hon sy'n cydnabod y bobl yma am y rhodd y maen nhw'n ei roi i Gymru ac i'n cymunedau?