Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 29 Ionawr 2019.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd, David Rees, am y ffordd y mae wedi arwain y pwyllgor? Rwy'n credu ei fod wedi gwneud hynny â pharodrwydd mawr. Mae hyn yn waith brys a difrifol iawn ac rwyf yn gwerthfawrogi'r ffordd yr ydych chi wedi cadeirio ein cyfarfodydd a cheisio cael consensws ymhlith aelodau'r Pwyllgor. Ond y peth cyntaf i'w bwysleisio yw, os byddwn yn gadael yr UE heb gyfnod pontio, yna mae'r tarfu yn debygol o fod yn ddifrifol, o leiaf yn y meysydd yr ydym ni'n eu canfod, ac mae hi'n bosib ein bod ni'n wynebu peryglon sylweddol, ac yn wir mae'n ymddangos bod rhai o'r peryglon hynny yn fwy difrifol yng Nghymru nag ydyn nhw mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, mae hwn yn waith difrifol iawn, iawn yn wir ac rwy'n wirioneddol—un peth sy'n codi fy nghalon yw ein bod ni wedi cael arweiniad a chefnogaeth ysgrifenyddiaeth wych o ran cynhyrchu a'n helpu ni i gynhyrchu'r adroddiadau hyn.
Fe hoffwn i hefyd ganmol Llywodraeth Cymru am fod ag, rwy'n credu, agwedd pur gyfrifol wrth geisio chwilio am ffyrdd ymarferol y gall y Cynulliad drafod gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ystod o gynlluniau wrth gefn yn barod. Rwyf yn croesawu hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n ffordd aeddfed o fynd ati.
Rwyf eisiau cyfeirio dim ond at rai o'r pryderon y mae ein Cadeirydd eisoes wedi cyfeirio atyn nhw, ond caniatewch imi ymhelaethu ar un neu ddau ohonyn nhw. O ran y porthladdoedd, mae angen inni wybod mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ymdopi â materion sy'n gysylltiedig â thraffig, yn enwedig yng Nghaergybi. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau gwneud hyn o ran porthladdoedd y sianel yn arbennig. Felly, y sensitifrwydd masnachol, nid wyf mor siŵr a ydyn nhw mor bwysig â hynny, a, beth bynnag, yr angen mwyaf yw inni gael peth gwybodaeth a dechrau cyfathrebu. Felly, rwyf yn gobeithio y gellir ailystyried hyn. Mater i Lywodraeth y DU y gall Llywodraeth Cymru roi pwysau yn ei gylch yw gallu ein porthladdoedd ar hyn o bryd i ymdrin â'r newidiadau yn y trefniadau rheoliadol a all fod yn berthnasol yn gyflym iawn, iawn. Mae hyn yn bryder mawr i'r rhanddeiliaid ac rwy'n credu, unwaith eto, bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni.
O ran gofal iechyd, fel sydd wedi'i grybwyll, mae nifer y meddyginiaethau sy'n dod i Brydain a'r nifer sy'n mynd ar draws Ewrop yn fater eithaf sylweddol mewn gwirionedd. Ac, unwaith eto, mae angen cydlynu hyn yn ofalus iawn, yn enwedig o ran y rhai sy'n dirywio'n gyflym, fel inswlin. Pwysleisiwyd hyn i ni. Rwy'n gwybod bod her barhaus am warysau. Roeddem ni eisoes yn eithaf agos at y capasiti mewn rhai agweddau fel rwy'n deall, yn arbennig gyda'r rhai y mae angen eu storio'n ofalus. Mae'r meddyginiaethau hyn yn aml eu hangen gan y mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, felly mae hynny'n broblem.
Mae'r goblygiadau staffio yn wirioneddol bwysig. Wnaf i ddim eu hailadrodd, heblaw dweud fy mod i'n credu bod Llywodraeth Cymru yn gobeithio adrodd ar hyn yn benodol ynglŷn â staffio yn y byd gofal iechyd a chymdeithasol, ac yn disgwyl cyflwyno adroddiad rywbryd ym mis Mawrth. Rwyf yn gobeithio y gall hi gyflwyno adroddiad cyn gynted â phosib. Rwyf yn sylweddoli nad ydych chi eto yn gwybod y sefyllfa wirioneddol y byddwn yn ei hwynebu, ond mae'n bwysig iawn inni gael rhywfaint o wybodaeth glir ac, unwaith eto, bod cyfathrebu ynglŷn â hynny.
Yn olaf, o ran bwyd a diod, pe gallem ni gael rhyw fath o ddiweddariad ar fater cyflenwad bwyd Tesco a'u cyhoeddiad eu bod yn poeni. Rwy'n credu bod hyn yn pwysleisio'r holl fater o adael y gymuned Ewropeaidd ar ôl 40 mlynedd, beth bynnag yw eich barn yn ei gylch. Mae patrymau economaidd a masnachu yn gadarn iawn. Rydym ni wedi cael ein Hewropeiddio yn sylweddol. Mae globaleiddio yn rhan o hyn. Mae'r cadwyni cyflenwi yn anhygoel o gymhleth, ac mae angen inni gadw hynny mewn cof, a bydd tarfu anochel os caiff y rhai hynny eu torri heb gytundeb a chyfnod pontio.
Yn olaf, rwyf yn credu bod yn rhaid inni bellach egluro'n fanwl beth sy'n debygol o ddigwydd i gig oen os nad oes gennym ni gytundeb. Byddwn yn wynebu tariff o 43 y cant. Dyna'r sefyllfa orau. Fe allem ni fod mewn sefyllfa waeth na hynny. Byddwn yn colli ein marchnadoedd dros nos yn Ewrop. Bydd llawer o'r gwledydd yna yn dechrau cynhyrchu mwy o gig oen. Nawr, bydd hynny'n cymryd peth amser iddyn nhw, ond nid yw Seland Newydd ond yn defnyddio hanner ei chwota ar hyn o bryd yn y farchnad Ewropeaidd. Mae hi'n bosib iawn y gall cystadleuydd fanteisio ar y diffyg a grëir oherwydd bod cig oen Cymru yn rhy ddrud, a gallai hyn ddinistrio ein diwydiant. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i bawb yn y Siambr hon sefyll ar eu traed mewn difrif mynd i'r afael â'r gwirioneddau hyn a'u cydnabod, oherwydd byddai gweld asgwrn cefn ein diwydiant da byw yn cael ei difrodi yn syfrdanol. Mae llawer ohonom ni yn y Siambr yn cofio digwyddiad Chernobyl a'r hyn a wnaeth hynny i lawer o'n cynhyrchiant cig oen, yn enwedig yn y gogledd. Byddai gweld dyblygu hynny ar raddfa fwy yn bosibilrwydd brawychus iawn mewn gwirionedd, a dyna pam mae angen cytundeb arnom ni.