– Senedd Cymru am 5:57 pm ar 29 Ionawr 2019.
Eitem 9 ar yr agenda yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar barodrwydd ar gyfer Brexit, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i gynnig y cynnig—David Rees.
Cynnig NDM6946 David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit—adroddiad dilynol ar barodrwydd porthladdoedd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.
2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit—Adrodd ar barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2018.
3. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit—Adrodd ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein cynnig heddiw yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi ein tri adroddiad ynglŷn â pha mor barod yw tri sector ar gyfer Brexit: porthladdoedd, gofal iechyd a meddyginiaethau, a bwyd a diod. Daw'r rhain yn sgil ein hadroddiad fis Chwefror diwethaf, a oedd yn gofyn am eglurhad ynglŷn â pharatoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adeg pan fyddai'r DU yn gadael yr UE.
Yr wythnos diwethaf fe gawsom ni gyfres o ddatganiadau gan Weinidogion ynglŷn â'r paratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn eu meysydd cyfrifoldeb, yn benodol mewn cysylltiad â Brexit heb gytundeb. Ni wnaed peth fel hyn erioed o'r blaen, ac mae hynny'n arwydd o'r pryderon sy'n bodoli yn ein cymunedau a chyrff sector cyhoeddus ynghylch sut y byddai dilyniant o ran busnes a gwasanaeth ar ôl gadael yr UE. Mae ein pwyllgor yn gobeithio y bydd heddiw'n cynnig cyfle i drafod rhai o'r materion hynny.
Mae'r adroddiadau hyn yn egluro, heb flewyn ar dafod, y risg i'r tri sector hyn o sefyllfaoedd Brexit amrywiol. A chyn i unrhyw un godi ar ei draed a dweud, 'Dyma ni eto, codi bwganod eto', mae adroddiadau'r pwyllgor yn seiliedig ar dystiolaeth a gafwyd gan arbenigwyr a rhanddeiliaid, a dyna'r sail i'n casgliadau.
Ar ôl gwrthod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol bythefnos yn ôl, nid codi bwganod yw dweud mewn difrif ein bod ni bellach yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Nawr, rwy'n sylweddoli ein bod ni'n dal i ddisgwyl canlyniad pleidleisiau heddiw yn San Steffan, a allai arwain at daro bargen ynghyd â datganiad gwleidyddol sy'n gweithio i economi Cymru a dinasyddion Cymru, ond ni allwn ni beidio ag ailadrodd y dywediad drwgenwog hynny bellach, 'Mae'r cloc yn tician', ac rydym ni'n agosau'n gyflym at yr awr dyngedfennol. Yn wir, os darllenwch chi flaen ein hadroddiad, mae'r llinellau agoriadol yn dweud:
Gyda llai na phum mis nes bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd
—heddiw, mae hi'n ddau fis cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae amser yn cerdded.
Nawr, mae gadael heb gytundeb yn rhywbeth y mae ein pwyllgor wedi rhybuddio'n gyson yn ei erbyn. Nid yw hi naill ai'n angenrheidiol nac yn ddymunol i dorri'r cysylltiadau ag Ewrop mewn ffordd mor afreolus ac o bosib anhrefnus. Felly, cyn troi at gynnwys yr adroddiadau yn fanwl, efallai y byddai'n werth atgoffa'r Siambr hon o'r hyn a olygwn ni wrth Brexit heb gytundeb, ac fe wnaf i geisio symleiddio hynny cymaint â phosib.
Byddai gadael heb unrhyw gytundeb yn gweld degawdau o gydweithredu gyda'r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben yn ddisymwth. Byddai gan hynny oblygiadau pellgyrhaeddol i sawl agwedd ar fywyd yng Nghymru. O ran masnach, byddai'n golygu ein bod yn codi llu o rwystrau masnachu newydd lle nad oes dim yn bodoli ar hyn o bryd—popeth o drethi newydd ar fewnforion ac allforion i wiriadau a rhwystrau newydd ar y ffin. Fe allem ni golli mynediad i asiantaethau a rhaglenni'r UE, rhywbeth yr ydym ni wedi elwa arno ers cryn amser. Y neges glir a phendant a gawsom ni gan randdeiliaid yn ystod ein hamser yn ystyried y materion hyn yw y dylid osgoi peidio â chael cytundeb.
Llywydd, trof yn awr at ein tri adroddiad gydag ychydig mwy o fanylder. Mae'r adroddiadau sy'n cael eu trafod heddiw yn edrych yn fanwl ar rai o'r materion y mae'r tri sector yn eu hwynebu—tri sector sy'n bwysig i economi Cymru. Maen nhw hefyd yn adeiladu ar adroddiadau blaenorol y Pwyllgor. Er na fyddai hi'n bosib ystyried y materion i gyd yn yr amser sydd ar gael imi heddiw, rwy'n annog aelodau o bob rhan o'r Siambr i'w hastudio'n ofalus os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny.
Mae ein hadroddiad dilynol ar oblygiadau Brexit ar gyfer porthladdoedd yn ailystyried rhai o'r materion y daethom ni â nhw'n gyntaf i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Awst 2017. Cawsom dystiolaeth gan randdeiliaid sy'n ymwneud â rhedeg porthladdoedd Cymru, gan gludwyr nwyddau, ynghyd â chynrychiolwyr o'r sectorau awyrennau a thwristiaeth. Mae'n werth nodi bod porthladdoedd Cymru nid yn unig yn cyflawni swyddogaeth bwysig yn ein heconomi fodern, maen nhw mewn gwirionedd hefyd yn cefnogi dros 18,000 o swyddi yng Nghymru.
Y mater sylfaenol ym mhorthladdoedd Cymru ble mae fferïau cerbydau yn mynd a dod yw hyn: nad oes ganddyn nhw'r gallu materol na'r seilwaith i ymdopi â gwiriadau ffiniau a thollau newydd, ynghyd â'r gofynion parcio y byddai hynny i gyd yn ei olygu. Dyna pam ein bod ni'n galw ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau wrth gefn o ran rheoli traffig ym mhorthladdoedd Cymru pe byddai oedi a gwiriadau newydd yn angenrheidiol ar ôl 29 Mawrth 2019.
Er fy mod i'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn credu y gall fod rhai agweddau masnachol sensitif ynghlwm â gwneud hyn, rwy'n croesawu'r sicrwydd a roddwyd i mi er hynny gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y mater hwn. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Llywodraeth rannu'r wybodaeth hon gyda ni yn gyfrinachol.
O ran Brexit heb gytundeb, clywsom gan weithredwyr porthladdoedd a chludwyr nwyddau fod cyfnod pontio yn hanfodol wrth inni adael yr UE. Yn benodol, dywedodd y gymdeithas cludo nwyddau ar y ffyrdd wrthym ni nad yw, ac na fydd cludwyr ffyrdd y DU a'r UE, mwyafrif eu cwsmeriaid a'r drefn swyddogol yn barod am sefyllfa heb gytundeb a heb gyfnod pontio.
Fy wnaethon nhw ddweud wrthym ni hefyd bod y paratoadau cyfredol yn annigonol i osgoi tarfu trychinebus ar gadwyni cyflenwi mewn sefyllfa o'r fath.
Nodwyd hyn gennym ni yn ein hadroddiad am y cynigion ar gyfer y trefniadau o ran tollau yn y dyfodol os cawn ni Brexit trefnus. Mae pryderon cyffredin yn bodoli o hyd am yr amserlenni ar gyfer pontio i unrhyw system newydd. Nodwn hefyd yr anawsterau a all wynebu allforwyr os yw'n rhaid iddyn nhw weithredu dwy set gymhleth o systemau ar ôl Brexit. Mae'n ddefnyddiol yn hynny o beth bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sectorau allweddol yr economi i feithrin y cydnerthedd hwnnw.
Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfraniad a wnaeth Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos diwethaf, a atgoffodd bob un ohonom ni o'r holl heriau wrth geisio sicrhau trwyddedau cerbydau nwyddau trwm ar gyfer busnesau Cymru ac effaith bosib hynny ar ein cwmnïau cynhenid. Mae'r mater syml yr ydym ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol—y gallwn ni gludo ein nwyddau ar draws Ewrop heb unrhyw anhawster—erbyn hyn yn un y gallai peidio â chael cytundeb achosi niwed difrifol iddo.
Llywydd, wrth lunio ein hadroddiad ar y sector gofal iechyd a meddyginiaethau fe glywsom ni bryderon niferus gan sefydliadau yn y sector iechyd. Roedd y rhain yn cynnwys goblygiadau Brexit o ran cael cyflenwad parhaus o feddyginiaethau, gallu manteisio ar dreialon clinigol a chynnal y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd un o'r pryderon a fynegwyd inni ynglŷn â diffyg cyfathrebu a'r ansicrwydd sy'n dal i fod o ran Brexit. Er bod llawer o ansicrwydd o hyd, croesewir y cynnydd mewn cyfathrebu â staff rheng flaen, fel yr amlinellir yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei gyfraniad yr wythnos diwethaf.
O ran cyflenwi meddyginiaethau, dywedodd Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain wrthym ni mai'r prif ddyhead yw cytundeb lle caiff cydweithredu ei reoleiddio a lle mae modd symud a masnachu'n rhwydd ar draws ffiniau.
Rydym ni wedi clywed bod 45 miliwn o becynnau meddyginiaeth i gleifion yn symud o'r DU i'r UE bob mis, gyda 37 miliwn o becynnau yn symud i'r cyfeiriad arall. Cyn i rywun ddweud eu bod nhw ein hangen ni fwy nag y mae arnom ni eu hangen nhw, maen nhw'n feddyginiaethau gwahanol ac mae ganddyn nhw wahanol anghenion, felly nid yw hi mor hawdd nac mor syml ag y mae pobl yn credu.
Yn ein hargymhelliad 2 ni, fe wnaethom ni alw ar i Lywodraeth Cymru rannu manylion gyda ni o waith sydd ar y gweill i sicrhau parhad cyflenwad. Mae'n galonogol gweld cryn fanylder o ran gwneud cynnydd gyda'r trefniadau hyn yn ymateb y Gweinidog.
Llywydd, wrth edrych ar oblygiadau Brexit ar gyfer gofal iechyd a meddyginiaethau, lles cleifion sydd wedi bod yn flaenaf yn ein meddyliau. Yn benodol, mae ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn golygu y gall Cymru fanteisio ar yr ymchwil meddygol a'r treialon clinigol gorau posib. Os yw'r cynnydd cyson yr ydym ni wedi'i wneud i wella bywydau ac iechyd ein pobl i barhau ar ôl Brexit, mae'n hanfodol inni sicrhau bod cydweithio agos wedi ei reoleiddio ym maes gofal iechyd a meddyginiaethau.
Rwy'n croesawu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio â'u cymheiriaid yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn San Steffan, fel yr amlinellir yn ymateb y Gweinidog. Fodd bynnag, mae angen mwy o sicrwydd arnom ni gan y Llywodraeth ar ddau ben yr M4, ac efallai y gall y Gweinidog fynd i'r afael â hyn yn ei gyfraniad at y ddadl heddiw, ac rwyf yn cyfeirio at y Gweinidog Brexit yn hynny o beth.
Mater terfynol mewn cysylltiad ag effaith Brexit ar ofal iechyd yng Nghymru yw hwnnw'n ymwneud â'r gweithlu gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae wedi'i drafod mewn sawl pwyllgor, y mater hwnnw. Yn ei thystiolaeth, dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru wrthym ni fod tua 6.5 y cant o feddygon yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn dod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Fodd bynnag, o ran y gweithlu ehangach, clywsom fod diffyg data cadarn, yn enwedig mewn cysylltiad â'r gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol cysylltiedig, yn llesteirio ymdrechion i baratoi ar gyfer Brexit. Rwyf yn ymwybodol bod Cydffederasiwn y GIG wedi cyhoeddi briff sy'n rhoi ychydig mwy o ffigurau ond nid oes unrhyw ddata gwirioneddol gadarn ar gael hyd yn hyn. Fel pwyllgor rydym ni'n croesawu'r gwaith ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd i asesu maint yr her ac yn edrych ymlaen at adeg ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
Roedd ein trydydd adroddiad a'r un terfynol yn edrych ar oblygiadau posib Brexit i'r sector bwyd a diod yng Nghymru, rhywbeth a amlygwyd ddoe gan nifer o gwmnïau mawr a oedd yn tynnu sylw at eu pryderon os ydym ni'n gadael heb gytundeb. Y neges allweddol i ni yn ein hymchwiliad oedd y gallai gadael yr UE heb gytundeb fydd yn sicrhau mynediad rhwydd i'r farchnad sengl fod yn drychinebus i'r sector yng Nghymru. Clywsom fod tua dwy ran o dair o fwyd a diod Cymru sy'n cael ei allforio ar hyn o bryd yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd ac, yn 2016, mai cyfanswm gwerth allforion oedd tua £335 miliwn.
Byddai masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd pe na byddai cytundeb yn arbennig o niweidiol i'r diwydiant cig coch yng Nghymru. Byddai'n gweld trethi newydd sylweddol ar allforio cig coch i'n cymdogion agosaf, sydd ar hyn o bryd yn cyfrif am tua 90 y cant o'n holl allforion cig coch. At hynny, clywsom y byddai'n anodd eithriadol gwneud iawn am y farchnad Ewropeaidd drwy fasnachu gyda gweddill y byd yn y tymor byr. Bydd yn cymryd ymdrech benodol dros nifer o flynyddoedd i weddill marchnadoedd y byd aeddfedu, ac mae'r pwyllgor yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru yn hynny o beth, ond mae'n ateb mwy hirdymor.
Yn olaf, o ran y sector bwyd a diod yng Nghymru, rydym ni wedi clywed am gynllun enwau bwyd gwarchodedig yr UE, sydd ar hyn o bryd yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol i 15 o gynhyrchion Cymreig rhag cael eu ffugio. Maen nhw'n cynnwys cig oen Cymru, cig eidion, halen môr Môn a thatws newydd cynnar Sir Benfro, dim ond i enwi ond ychydig. Mae'n hanfodol bwysig y caiff statws gwarchodedig ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod Cymru ei sicrhau ar ôl Brexit ac rwy'n croesawu'r ffordd y mae pob Llywodraeth yn y DU yn cydweithio ar gynllun olynol.
Mae hi yn hanfodol, gyda maint y newid yr ydym ni ar fin ei weld yn y sectorau amaethyddiaeth a bwyd o ganlyniad i Brexit, fod y Cynulliad hwn hefyd yn cael digon o gyfle i graffu ar y cynigion polisi yn fanwl. Rwy'n siŵr y bydd pob Gweinidog yn ystyried hyn yn ddwys wrth gamu i'r dyfodol, fel y gallwn ni fel deddfwrfa graffu mewn gwirionedd ar y polisïau sy'n cael eu cyflwyno i ni.
Llywydd, mae'n bwysig ein bod ni'n codi'r ymwybyddiaeth hon heddiw yn ein fforwm cenedlaethol. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae Brexit yn fater cymhleth sy'n effeithio ar sawl agwedd ar ein bywyd cenedlaethol. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiadau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau eraill heddiw a byddaf yn ymateb yn unol â hynny.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd, David Rees, am y ffordd y mae wedi arwain y pwyllgor? Rwy'n credu ei fod wedi gwneud hynny â pharodrwydd mawr. Mae hyn yn waith brys a difrifol iawn ac rwyf yn gwerthfawrogi'r ffordd yr ydych chi wedi cadeirio ein cyfarfodydd a cheisio cael consensws ymhlith aelodau'r Pwyllgor. Ond y peth cyntaf i'w bwysleisio yw, os byddwn yn gadael yr UE heb gyfnod pontio, yna mae'r tarfu yn debygol o fod yn ddifrifol, o leiaf yn y meysydd yr ydym ni'n eu canfod, ac mae hi'n bosib ein bod ni'n wynebu peryglon sylweddol, ac yn wir mae'n ymddangos bod rhai o'r peryglon hynny yn fwy difrifol yng Nghymru nag ydyn nhw mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, mae hwn yn waith difrifol iawn, iawn yn wir ac rwy'n wirioneddol—un peth sy'n codi fy nghalon yw ein bod ni wedi cael arweiniad a chefnogaeth ysgrifenyddiaeth wych o ran cynhyrchu a'n helpu ni i gynhyrchu'r adroddiadau hyn.
Fe hoffwn i hefyd ganmol Llywodraeth Cymru am fod ag, rwy'n credu, agwedd pur gyfrifol wrth geisio chwilio am ffyrdd ymarferol y gall y Cynulliad drafod gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ystod o gynlluniau wrth gefn yn barod. Rwyf yn croesawu hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n ffordd aeddfed o fynd ati.
Rwyf eisiau cyfeirio dim ond at rai o'r pryderon y mae ein Cadeirydd eisoes wedi cyfeirio atyn nhw, ond caniatewch imi ymhelaethu ar un neu ddau ohonyn nhw. O ran y porthladdoedd, mae angen inni wybod mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ymdopi â materion sy'n gysylltiedig â thraffig, yn enwedig yng Nghaergybi. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau gwneud hyn o ran porthladdoedd y sianel yn arbennig. Felly, y sensitifrwydd masnachol, nid wyf mor siŵr a ydyn nhw mor bwysig â hynny, a, beth bynnag, yr angen mwyaf yw inni gael peth gwybodaeth a dechrau cyfathrebu. Felly, rwyf yn gobeithio y gellir ailystyried hyn. Mater i Lywodraeth y DU y gall Llywodraeth Cymru roi pwysau yn ei gylch yw gallu ein porthladdoedd ar hyn o bryd i ymdrin â'r newidiadau yn y trefniadau rheoliadol a all fod yn berthnasol yn gyflym iawn, iawn. Mae hyn yn bryder mawr i'r rhanddeiliaid ac rwy'n credu, unwaith eto, bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni.
O ran gofal iechyd, fel sydd wedi'i grybwyll, mae nifer y meddyginiaethau sy'n dod i Brydain a'r nifer sy'n mynd ar draws Ewrop yn fater eithaf sylweddol mewn gwirionedd. Ac, unwaith eto, mae angen cydlynu hyn yn ofalus iawn, yn enwedig o ran y rhai sy'n dirywio'n gyflym, fel inswlin. Pwysleisiwyd hyn i ni. Rwy'n gwybod bod her barhaus am warysau. Roeddem ni eisoes yn eithaf agos at y capasiti mewn rhai agweddau fel rwy'n deall, yn arbennig gyda'r rhai y mae angen eu storio'n ofalus. Mae'r meddyginiaethau hyn yn aml eu hangen gan y mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, felly mae hynny'n broblem.
Mae'r goblygiadau staffio yn wirioneddol bwysig. Wnaf i ddim eu hailadrodd, heblaw dweud fy mod i'n credu bod Llywodraeth Cymru yn gobeithio adrodd ar hyn yn benodol ynglŷn â staffio yn y byd gofal iechyd a chymdeithasol, ac yn disgwyl cyflwyno adroddiad rywbryd ym mis Mawrth. Rwyf yn gobeithio y gall hi gyflwyno adroddiad cyn gynted â phosib. Rwyf yn sylweddoli nad ydych chi eto yn gwybod y sefyllfa wirioneddol y byddwn yn ei hwynebu, ond mae'n bwysig iawn inni gael rhywfaint o wybodaeth glir ac, unwaith eto, bod cyfathrebu ynglŷn â hynny.
Yn olaf, o ran bwyd a diod, pe gallem ni gael rhyw fath o ddiweddariad ar fater cyflenwad bwyd Tesco a'u cyhoeddiad eu bod yn poeni. Rwy'n credu bod hyn yn pwysleisio'r holl fater o adael y gymuned Ewropeaidd ar ôl 40 mlynedd, beth bynnag yw eich barn yn ei gylch. Mae patrymau economaidd a masnachu yn gadarn iawn. Rydym ni wedi cael ein Hewropeiddio yn sylweddol. Mae globaleiddio yn rhan o hyn. Mae'r cadwyni cyflenwi yn anhygoel o gymhleth, ac mae angen inni gadw hynny mewn cof, a bydd tarfu anochel os caiff y rhai hynny eu torri heb gytundeb a chyfnod pontio.
Yn olaf, rwyf yn credu bod yn rhaid inni bellach egluro'n fanwl beth sy'n debygol o ddigwydd i gig oen os nad oes gennym ni gytundeb. Byddwn yn wynebu tariff o 43 y cant. Dyna'r sefyllfa orau. Fe allem ni fod mewn sefyllfa waeth na hynny. Byddwn yn colli ein marchnadoedd dros nos yn Ewrop. Bydd llawer o'r gwledydd yna yn dechrau cynhyrchu mwy o gig oen. Nawr, bydd hynny'n cymryd peth amser iddyn nhw, ond nid yw Seland Newydd ond yn defnyddio hanner ei chwota ar hyn o bryd yn y farchnad Ewropeaidd. Mae hi'n bosib iawn y gall cystadleuydd fanteisio ar y diffyg a grëir oherwydd bod cig oen Cymru yn rhy ddrud, a gallai hyn ddinistrio ein diwydiant. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i bawb yn y Siambr hon sefyll ar eu traed mewn difrif mynd i'r afael â'r gwirioneddau hyn a'u cydnabod, oherwydd byddai gweld asgwrn cefn ein diwydiant da byw yn cael ei difrodi yn syfrdanol. Mae llawer ohonom ni yn y Siambr yn cofio digwyddiad Chernobyl a'r hyn a wnaeth hynny i lawer o'n cynhyrchiant cig oen, yn enwedig yn y gogledd. Byddai gweld dyblygu hynny ar raddfa fwy yn bosibilrwydd brawychus iawn mewn gwirionedd, a dyna pam mae angen cytundeb arnom ni.
Rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith y gwnaed rhybuddion yn y Siambr hon am yr ansicrwydd gwirioneddol yr ydym ni'n ei wynebu yn sgil unrhyw fath o Brexit, a'r peryglon enfawr sydd o'n blaenau pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb caled iawn neu hyd yn oed heb gytundeb o gwbl. Mae'n bwysig inni gofio'r cyd-destun y mae'r ddadl hon yn digwydd ynddo heddiw a'r hyn sy'n digwydd i lawr yr M4 yn Senedd y DU, ac fe ddylem ni wastad ymdrechu, ni waeth pa mor annhebygol y bo hi'n teimlo ar adegau, i obeithio y caiff ein neges a'n pryderon yma yn ein Senedd genedlaethol ni wrandawiad gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn San Steffan ac yn Whitehall.
Nid yw hi'n gyfrinach fy mod i ymysg hanner y boblogaeth a oedd yn dymuno aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'n gyfrinach fy mod i'n gefnogwr balch o werth aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru—y gwerth i genedl fach o fod yn rhan o rwydweithiau Ewropeaidd. Rwyf eisiau gweld Cymru, fel y gwyddoch chi, yn genedl annibynnol o fewn rhwydweithiau ehangach: yr Undeb Ewropeaidd, Undeb Prydeinig newydd, efallai, Undeb Celtaidd—pwy a ŵyr? Felly, roedd unrhyw ymadawiad i mi yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru. Ac fe wnaethom ni, rwy'n difaru—ac rwy'n cymryd fy rhan i o'r bai amdano—fethu â phwysleisio hynny ddigon yn yr hyn a oedd, mewn gwirionedd, yn refferendwm Saesnig iawn, yn hytrach nag un Brydeinig. Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon, rwy'n credu, yn dweud hynny wrthym ni, ac nid oes gennyf fawr ddim ameuaeth y byddai gennym ni bellach ganlyniad gwahanol yng Nghymru nawr ein bod ni wedi cael amser i drafod y goblygiadau penodol i Gymru. Ond cynhaliwyd y refferendwm bron dair blynedd yn ôl.
Ond mae bod mewn sefyllfa bellach lle'r ydym ni'n wynebu'r Brexit mwyaf niweidiol posib yn sefyllfa lle bydd pawb yn dioddef, ble bynnag y bo nhw yn y DU, er bod arnaf ofn y byddai Cymru ymysg y mannau fydd yn dioddef fwyaf. Bydd imperialiwyr cocsio bach Prydain yn ymhyfrydu mae'n siŵr mewn ymgyrch wyrdroëdig o arwahanrwydd gogoneddus, lle gall arwahanrwydd gwirioneddol ddim ond cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer y tlawd, ar gyfer y mentrus, ar gyfer pobl ifanc, ar gyfer busnes, ar gyfer amaeth, ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, ar gyfer goddefgarwch, ar gyfer cydweithredu rhyngwladol—mae'r rhestr yn llawer hwy nag y byddai'r Llywydd yn caniatáu imi sôn amdani'n gynhwysfawr yn yr amser sydd ar gael.
Ond heddiw rydym ni'n nodi tri adroddiad sy'n gwneud rhagor o rybuddion—tri adroddiad gan y pwyllgor materion allanol. Mae'r Cadeirydd eisoes wedi ein hatgoffa'n huawdl o rai o'r rhybuddion a wnaeth y pwyllgor hwnnw ynglŷn ag effeithiau Brexit ar borthladdoedd, ar iechyd, ac ar y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion lu a wnaed ar gyfer y gwaith paratoi sydd ei angen, ac rwy'n falch eu bod wedi eu derbyn. Ond, wrth gwrs, ni ellir paratoi'n ddigonol, hyd yn oed pe cafwyd yr holl amser yn y byd, heb sôn am yr wyth wythnos sydd ar ôl, i'n rhoi ni mewn sefyllfa lle gallem ni edrych ymlaen, yn realistig, i fod ar yr un tir ag yr ydym ni arno hyn o bryd yn dilyn Brexit caled neu un heb gytundeb o gwbl.
Rydym ni heddiw, wrth gwrs, yn ymdrin ag effeithiau'r penderfyniadau a wnaed yn dilyn y refferendwm yn 2016, sef y penderfyniad i sbarduno Erthygl 50 mor gyflym, a oedd yn pennu dyddiad ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—dyddiad gyda thynged iddo heb unrhyw syniad ynghylch pa dynged yr oeddem ni mewn gwirionedd yn ei dymuno. Ac rwy'n falch iawn i fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru yn San Steffan bleidleisio yn erbyn sbarduno Erthygl 50 bryd hynny, ac efallai y gall hanes farnu a oedd Llafur a'r Ceidwadwyr yn iawn i frysio, fel a ddigwyddodd, i sbarduno hynny. Ond, mae'n amlwg i mi ac i'm cyd-Aelodau—rydym ni eisiau gohirio'r dyddiad hwnnw. Rwyf eisiau oedi gydag erthygl 50, i roi amser i'n hunain, efallai i geisio Brexit llai niweidiol, efallai gan ystyried rhai o'r rhybuddion a wnaed unwaith eto yn y tri adroddiad gan y pwyllgor Cynulliad hwn. Ond gellid defnyddio'r amser hyd yn oed yn well, yn ein barn ni, drwy ofyn i'r bobl unwaith eto ai dyma beth maen nhw, a phobl fel fy merch hynaf—Ewropead angerddol sydd bellach yn gymwys i bleidleisio ers y refferendwm hwnnw—yn dal i fod eisiau mewn gwirionedd.
Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un o'r tri adroddiad, ond cyn gwneud, gan fy mod i wedi ymuno â'r pwyllgor yn ddiweddar, a gaf i ganmol y gwaith y mae'r pwyllgor wedi ei wneud ar y tri adroddiad yma a pha mor drylwyr ydyn nhw, a'r ffaith eu bod nhw'n ymdrin â ffeithiau yn uniongyrchol iawn? Nid storïau brawychu neu ofn diangen mohonyn nhw; yr hyn y maen nhw'n ei wneud yw disgrifio'r gwahanol bosibiliadau, yn enwedig os nad oes cytundeb, ond hyd yn oed o ran ymadael gyda Brexit rheoledig, a beth y mae angen inni ei wneud. Ond maen nhw'n ein hatgoffa'n glir o'r hyn yr ydym yn ei wynebu.
Dim ond i ymateb i sylw David ynghylch defaid ac ŵyn yng Nghymru, rydym ni'n aml yn meddwl am y gwynfydau bugeiliol hynny yn y canolbarth neu'r gogledd—cig oen ysgafn ac yn y blaen—ond, wrth gwrs, nid yw cyd-Aelodau yma sy'n eistedd ar y meinciau hyn sy'n cynrychioli Cymoedd y De, fel fy un i—. Nid ydyn nhw'n aruthrol o annhebyg i fy un i. Mae 40 y cant o ardal diriogaethol fy etholaeth i yn dir ffermydd mynydd. Roedd y ffermwyr hynny yn draddodiadol mewn gwirionedd wedi goroesi nid yn unig drwy ffermio'r mynydd, ond drwy fod y cwmni cludo nwyddau, bod y sgaffaldiwr neu redeg y becws. Dyna'r unig ffordd maen nhw wedi gallu ei wneud. Maen nhw'n gwybod yn dda iawn beth yw'r peryglon yn awr o dorri'r cysylltiadau o fynediad di-dariff i Ewrop, beth bynnag, mae'n rhaid imi ddweud, o'r posibilrwydd ehangach sydd yna, oherwydd mae gennym ni gysylltiadau bellach â gwledydd y dwyrain canol, gyda Dubai, Qatar ac ati. A dim ond un sylw ynglŷn â hynny: Mae'n seiliedig ar safon aur ein cynnyrch—safonau lles anifeiliaid uchel, y safonau lladd uchel sydd gennym ni. Felly, un peth y mae angen inni ei wneud wrth baratoi ar gyfer Brexit yw gwneud yn siŵr nad ydym ni mewn unrhyw fodd yn peryglu'r safonau hynny, oherwydd, yn rhyfedd iawn, mae'r hyn sydd wedi ei feirniadu o'r blaen fel y safon aur, goreuro ein rheoliadau a'r ffordd yr ydym ni'n gwneud hynny, dyna mewn gwirionedd yw'r union safon pam mae hi'n bosib i'n marchnadoedd allforio dyfu hyd yn oed ar ôl Brexit ac ymadael. Ond ni allwn ni golli'r farchnad Ewropeaidd honno oherwydd byddwn ni wedyn yn y pen draw yn ôl yn y sefyllfa, yng Nghymoedd y De, lle bydd gennych chi ffermwyr yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Byddwch chi wedi cefnu ar ffermio mynydd yn ucheldiroedd y de, ac mae hynny nid yn unig yn bwysig yn economaidd, mae'n bwysig yn ddiwylliannol hefyd.
Ond rwyf eisiau troi at yr adroddiad da iawn yma am barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae'n dechrau gyda'r sylw na allwn ni mo'i ailadrodd yn rhy aml: pob un ohonom ni, yn ein hetholaethau, mai un o'r cyflogwyr mwyaf o ran gweithgynhyrchu a chynhyrchu bwyd sylfaenol yw bwyd, pa un a yw hynny'n gwneud platiau ffoil tin a deunydd pacio ar gyfer awyrennau neu a ydyn nhw'n ffermwyr neu beth bynnag—cynhyrchu bwyd a gweithgynhyrchu yw hynny.
Ond fe hoffwn i grybwyll un neu ddau o bwyntiau penodol yn y fan yma, ac rwy'n croesawu'r ffaith y derbyniodd y Llywodraeth yr holl argymhellion a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad hwn ar fwyd. Yn gyntaf oll, a oes gennym ni, Gweinidog, unrhyw hyder y bydd gennym ni gytundebau masnach wedi'u cymeradwyo erbyn y daw 31 Mawrth ar ein gwarthaf? Rydym ni'n dal i aros i weld. Rydym ni'n gobeithio y bydd gennym ni gytundebau masnachu ar waith. Dywedir wrthym ni ein bod ni ar fin llofnodi ac y bu llawer o baratoi, ond nid ydym ni wedi gweld unrhyw beth eto. A yw'n gwybod a oes gennym ni unrhyw gytundebau yn barod i'w gweithredu?
A gaf i holi ynglŷn â swyddogaeth swyddfeydd Cymru dramor a'r presenoldeb mewn llysgenadaethau a swyddfeydd is-genhadon? Oherwydd mae'r marchnadoedd allforio posib hynny yn mynd i ddibynnu ar beth gwaith trylwyr, deheuig ac ar ddiplomyddiaeth dringar yn ogystal â chytundebau a allai gael eu negodi. Felly, beth fydd swyddogaeth ein personél yma yn Llywodraeth Cymru ond hefyd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y DU hefyd?
Soniais am y bygythiad o safonau is ar gyfer mewnforio, ond dyna'r bygythiad hefyd, fel y soniodd David, o waredu. Ers tro bu hyn yn fygythiad sef y byddem ni'n canfod ein hunain yn sydyn wedi ein gorfodi i sefyllfa o gyfaddawd ble byddai'n rhaid inni, er mwyn cadw bwyd ar y silffoedd, yn y bôn dderbyn beth bynnag a oedd ar gael. Ni allwn ni wneud hynny; does fiw inni wneud hynny. Ond dyna wirionedd plaen rhywbeth sydd bellach yn ein hwynebu ni.
A gaf i droi hefyd at y mater o fwydydd gyda statws gwarchodedig? Rwy'n croesawu'n fawr iawn y gwaith sydd wedi'i wneud ynglŷn â chynlluniau dynodiad daearyddol y DU ar ôl Brexit, y cydweithio sy'n digwydd i edrych ar hynny a'r cydgyfnewidioldeb gyda'r UE. Felly, gwneir hynny ar sail: os ydym ni'n bwrw ymlaen gyda'n henwau bwyd gwarchodedig yna byddwn wrth gwrs yn croesawu enwau bwyd yr UE, gyda rhai yn enwau sydd gennym ni eisoes. Ond fy nghwestiwn i ynglŷn â hynny, Gweinidog, fyddai: beth yw ein barn ynglŷn ag a allwn ni mewn gwirionedd gynyddu bellach nifer y cynhyrchion bwyd sy'n dod o Gymru sy'n dod o dan yr enwau bwyd gwarchodedig presennol neu newydd? Oherwydd rydym ni wedi cael rhai llwyddiannau da, ond rydym ni wedi bod yn araf iawn yn cynyddu nifer y cynhyrchion mewn gwirionedd. Felly, efallai y gallem ni wneud mwy o hynny ac yn gyflymach.
Ambell sylw wedyn o ran y gwaith sy'n cael ei wneud i liniaru effeithiau Brexit heb gytundeb ar ddiogelwch a pharhad cyflenwadau bwyd yng Nghymru. Mae un o'r rheini yn ymwneud â'r mater o ddiogelwch bwyd a diogelu'r cyflenwad bwyd. Nid yw'r adroddiad, nid wyf yn credu, yn sôn am hynny. Rwy'n troi at fy nghyd-Aelod ar y chwith, ac mae David yn ysgwyd ei ben. Rydym ni wedi dysgu er methiant inni yn y Deyrnas Unedig ar ôl y sgandal cig ceffyl—mae amser yn mynd yn drech na fi. Rydym ni wedi dysgu er methiant inni, mewn gwirionedd, am bwysigrwydd diogelwch rhyngwladol. Cig ceffyl, cig ceffyl wedi ei halogi, aeth cig nad oedd yn gig ceffyl drwy 20 o wledydd gwahanol. Wrth inni fynd drwy Brexit, yn enwedig gyda chytundeb caled, a ydym ni'n mynd i gyfaddawdu ar hynny?
A'm sylw olaf—y sylw olaf, olaf, olaf; rwy'n addo brysio drwy'r holl bethau sy'n weddill—yw argymhelliad nad yw yno yn gyfan. Mae wedi bod yn canolbwyntio ar edrych tuag allan o ran yr hyn y byddem yn ei wneud yn achos ymadael â'r UE, ac mae hynny'n ddealladwy iawn. Byddwn yn dweud mai un o'n hargymhellion wrth gamu i'r dyfodol yw bod angen inni adeiladu rhwydweithiau bwyd lleol. Pan rydym ni'n sôn am ddiogelu'r cyflenwad bwyd a mewnforion ac allforion, rwy'n deall hynny a dyna lle'r ydym ni arni gyda Brexit. Ond mae'n rhaid i ran o'r cydnerthedd, wrth gamu i'r dyfodol, fod ynglŷn ag adeiladu'r rhwydwaith bwyd lleol hwnnw lle'r ydym ni'n cynhyrchu a lle'r ydym ni'n gwerthu yn ein hardaloedd ein hunain, yn ein rhanbarthau ein hunain, yn y dyfodol, hefyd. Diolch.
Weithiau, pan rwy'n eistedd yma, nid wyf i mewn gwirionedd yn sylwi bod yr amser wedi dod i ben ar gyfer y siaradwr, ond mae hi bob amser yn ddefnyddiol, wedyn, i'r siaradwr sylwi ar hynny ei hun a thynnu fy sylw at y ffaith i amser fynd yn drech nag ef.[chwerthin.]
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i ymateb i'r ddadl yma—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Cyn dechrau, rwyf am ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am y tri adroddiad yn edrych ar baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. A diolch, hefyd, am y cyfle i ymateb i’r drafodaeth hon. Rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, yn ein hymateb ffurfiol, wedi derbyn pob un o'r argymhellion ym mhob un o’r adroddiadau.
Wrth gwrs, mae’r sefyllfa o ran bob un o’r materion hyn yn newid yn gyflym, fel y soniodd David Rees, ac rwy’n croesawu’r cwestiynau a’r sylwadau ychwanegol rydyn ni wedi’u clywed heddiw. Dwi ddim wir am roi amser heddiw i drafod y ffordd druenus mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymdrin â’r negodiadau Brexit a’r argyfwng sy’n wynebu ein gwlad o ganlyniad i hynny; bydd cyfle arall i edrych ar y sefyllfa yfory. Ond, mae’n rhaid imi ddweud, unwaith eto, fel yr ydw i ac Aelodau eraill o’r Cabinet wedi pwysleisio dro ar ôl tro, bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn drychinebus, fel y soniodd Rhun ap Iorwerth ac eraill. Ac ar y funud olaf hon hyd yn oed, rydyn ni’n annog Prif Weinidog y Deyrnas Unedig i sicrhau cytundeb sydd er budd Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyfan.
Yr wythnos diwethaf yn y Cynulliad, neilltuwyd diwrnod cyfan o Gyfarfod Llawn i amlinellu’r effeithiau ymadael heb gytundeb ar draws gwahanol sectorau. Mae hyn yn dangos mor sylweddol, yn ein barn ni, yw’r peryglon i Gymru os byddwn yn ymadael heb gytundeb, ac mor ddifrifol yw’r neges i Lywodraeth y Deyrnas Unedig: mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau cytundeb. Roedd y datganiadau’n tynnu sylw at rai o’r effeithiau mwyaf difrifol a allai godi o ganlyniad i ymadael heb gytundeb, ac mae’r rhain i’w gweld yn yr adroddiadau a osodwyd gan y pwyllgor. Does dim modd i mi osod ymateb Llywodraeth Cymru i’r holl argymhellion o fewn yr amser sydd ar gael, ond gallaf ddweud yn fras beth yw’n hymateb i’r materion pwysig. Mae nifer o effeithiau posib ymadael heb gytundeb yn deillio o oedi wrth y ffiniau. Rwyf am bwysleisio mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gwbl gyfrifol am reoli ffiniau’r Deyrnas Unedig. Rŷn ni’n gweithio gyda nhw i ddeall a lleddfu effaith y newidiadau ar ein seilwaith drafnidiaeth, ein busnesau a’n pobl, ond does dim modd i ni, ein hunain, benderfynu ar y trefniadau tollau.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu peidio â gosod gwiriadau ychwanegol ar nwyddau o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, dros dro o leiaf, pe byddem yn ymadael heb gytundeb. Ond dydy hyn ddim yn gwarantu y bydd y nwyddau’n llifo mor rhydd ag y maen nhw ar hyn o bryd. Os byddwn ni’n ymadael heb gytundeb, bydd Iwerddon yn gorfod trin nwyddau o’r Deyrnas Unedig fel rhai o drydedd wlad, gan gynnwys yr holl wiriadau angenrheidiol, a gallai hynny achosi oedi ym mhorthladdoedd Cymru.
Yn y rhan fwyaf o’n porthladdoedd, byddai modd rheoli effaith yr oedi o fewn y gofod sydd ar gael yn y porthladdoedd eu hunain, ond byddai Caergybi’n ei chael hi’n anoddach i ddygymod. Fel y dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ddydd Mawrth diwethaf—ac rwy’n cyfeirio Aelodau at ei ddatganiad ar hyn, a oedd yn gallu amlinellu ychydig yn fwy nag ymateb ffurfiol y Llywodraeth i’r pwyllgor, oherwydd gallu cyfeirio at rai o’r elfennau cyfrinachedd oedd yn gymwys ar y pryd—er bod gwaith modelu’n awgrymu ei bod yn debygol y gellid cadw’r traffig a fyddai’n oedi yng Nghaergybi o fewn y porthladd, rŷn ni’n datblygu cynlluniau wrth gefn i amharu cyn lleied â phosib ar yr ardal leol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar nifer o safleoedd y gellid eu defnyddio fel gofod wrth gefn ar gyfer lorïau os bydd oedi wrth y ffin.
Rwy'n falch, felly, i allu dweud ein bod ni'n gweithio'n ddygn yn y maes hwn, a'n bod ni'n weddol ffyddiog na fydd tarfu ar ein porthladdoedd yn arwain at broblemau difrifol ar ein rhwydwaith ffyrdd. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn lleihau'r risg y bydd anhrefn ar y ffin yn effeithio'n andwyol ar ein busnesau a'n dinasyddion, gydag anhrefn posib yn Dover yn fygythiad mwy difrifol o lawer yn hyn o beth. Yn benodol, gallai anawsterau posib yn y porthladdoedd effeithio ar y gallu i ddod â chyflenwad digonol o feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol i'r wlad, fel y nodwyd gan y pwyllgor yn ei adroddiad ynglŷn â pharodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y byddai Brexit heb gytundeb yn achosi niwed difrifol ac anochel i'n gwasanaethau iechyd a gofal. Fel yr amlinellodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cyfarfod Llawn, rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r GIG, awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol a chynrychiadol i gynllunio a pharatoi lle bo hynny'n bosib, ac rydym ni wedi cydweithio â nhw i ddeall y peryglon a sut y gellir eu lleihau. Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod cyflenwad o feddyginiaethau, dyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol os bydd Brexit heb gytundeb. O ran meddyginiaethau, unwaith eto, Llywodraeth y DU sy'n bennaf gyfrifol. Ond i gydnabod sylw David Rees, rydym ni wedi bod yn gwneud, ac yn parhau i wneud, popeth a allwn ni i sicrhau bod y sicrwydd y mae Gweinidogion y DU yn ei roi ynghylch gallu'r gofynion byffer a roddir ar gwmnïau fferyllol, y storfeydd ychwanegol a'r llwybrau trafnidiaeth amgen, gan gynnwys llwybrau awyr ar gyfer radioisotopau, yn rhesymol. O ran dyfeisiau meddygol a nwyddau traul, fel yr amlinellodd y Gweinidog iechyd, byddwn yn defnyddio trefniadau'r DU os mai dyna yw'r peth priodol i'w wneud, ond rydym ni eisoes yn cymryd camau ychwanegol, gan gynnwys o ran capasiti storio, lle mae gennym ni feysydd sy'n peri pryder neu lle'r ydym ni'n teimlo y gallwn ni ddarparu sicrwydd ychwanegol yng Nghymru.
Gan droi at y sector bwyd a diod, sydd, fel y nododd Huw Irranca-Davies, yn rhan hanfodol o economi Cymru, ac yn un a allai wynebu newid sylweddol pe byddid yn gadael heb gytundeb, fel y cyfeiriodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ato yn ei datganiad yn y Siambr yr wythnos diwethaf, lle bu'n ymdrin â'r perygl i'r hyn y cyfeiriodd David Melding yn rymus iawn ato fel 'asgwrn cefn ein sector amaethyddol'. Rydym ni'n cefnogi busnesau bwyd a diod o ran sut i wirio eu bod yn barod ac yn deall y goblygiadau ar gyfer eu cadwyni cyflenwi pe na byddai cytundeb trwy ein porth Brexit a thrwy'r prosiect cydnerthedd busnesau a chig coch, a ariennir drwy ein cronfa bontio'r UE. Er gwaethaf ein gwahaniaethau barn cryf â Llywodraeth y DU, rydym ni'n gweithio'n agos gyda nhw a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar faterion fel y dangosyddion daearyddol yr holodd Huw Irranca-Davies yn eu cylch, ac, yn y cyd-destun hwn, i sicrhau bod yna gynllun wrth gefn ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd gyda golwg ar gynnal cyflenwad bwyd i'r cyhoedd hyd yn oed pe byddai'r sefyllfaoedd gwaethaf posib yn digwydd. A gwelwn mor hanfodol yw hyn, o ystyried cynnwys y llythyr yr wythnos hon i Aelodau Seneddol gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain, y cyfeiriodd David Melding ac eraill ato. Rydym ni mewn proses barhaus o sicrwydd ynghylch y camau gweithredu ar y gweill.
Yn olaf, fe hoffwn i gydnabod bod adroddiadau'r pwyllgor i gyd yn cyfeirio at bwysigrwydd cyfathrebu effeithiol gyda'r cyhoedd, busnesau a phartneriaid. Mae Llywodraeth Cymru o'r un farn â'r pwyllgor, ac mae ein gwefan, Paratoi Cymru, yn ffynhonnell unigol, gynhwysfawr o wybodaeth i bobl Cymru ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i baratoi ar gyfer effaith sylweddol Brexit heb gytundeb. Mae'n nodi canllawiau a chyngor i ddinasyddion, sefydliadau, ac amrywiaeth o sectorau ledled Cymru, am yr hyn sydd angen ei wneud i baratoi ar gyfer y canlyniad hwn, ac rwy'n gofyn am eich cymorth yn y Siambr hon i sicrhau bod pobl Cymru yn gwneud defnydd llawn o'r adnodd hwn.
David Rees i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a'r Cwnsler Cyffredinol am ymateb ar ran Llywodraeth Cymru.
Cyfrannodd David Melding, unwaith eto, yn feddylgar ac yn ddiffuant iawn, gan geisio sicrhau ein bod ni'n barod am unrhyw ganlyniad, fel y bu erioed yn y pwyllgor. Mae wedi bod yn llais cryf iawn i'r diwydiant ffermio defaid a chig oen Cymru, ac amlygodd bryderon am y niwed y gallai hynny ei wneud i economi Cymru os nad ydym ni'n datrys hynny. Dywedodd hefyd, yn amlwg iawn, bod 'diffygion yno i'w llenwi' os nad ydym ni'n ofalus. Soniodd hefyd am un peth nad yw efallai wedi'i adlewyrchu fel arall: gallu cadw meddyginiaethau mewn warysau a storfeydd. Nawr, rwy'n deall y prynwyd llawer o oergelloedd gan gwmnïau amrywiol ar gyfer storio'r meddyginiaethau hynny. Nawr, dim ond, er enghraifft—dim i'w wneud â Brexit—ond nid gymaint â hynny yn ôl, roedd gennym ni broblem gydag EpiPens, dim ond oherwydd diffygion cynhyrchu—dim i'w wneud â Brexit, ond diffygion cynhyrchu—ac fe allem ni weld y canlyniadau ar y gadwyn gyflenwi a'r difrod i gleifion a'r anawsterau a fu i gleifion Cymru oherwydd prinder Epi-Pens. Nawr, os nad ydym ni'n ofalus, bydd hyn yn digwydd gyda mwy nag un cynnyrch penodol. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hyn a'n bod yn paratoi ar eu cyfer.
Cawsom ein hatgoffa gan Rhun am werth aelodaeth o'r UE i Gymru—y cyflwynodd ac y mae'n credu ynddo. Bydd llawer yn y Siambr hon fwy na thebyg yn cytuno ag ef, a bydd eraill nad ydynt yn cytuno ag ef. Dyna natur ein democratiaeth. Atgoffodd ni hefyd ein bod ni bellach yn wynebu dyfodol ansicr yn awr ac nad ydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn—fe ddylem ni mewn gwirionedd fod mewn sefyllfa well bellach i wybod beth sydd ar y gorwel, ac nid ydym ni. Caiff ei ddadl ar refferendwm arall, mae'n siŵr gen i, ei thrafod yfory mewn dadl arall, oherwydd rwy'n ceisio canolbwyntio ar ein hadroddiadau a chadw at hynny.
Atgoffodd Huw ni bod yr adroddiadau, mewn gwirionedd, yn effeithio ar lawer mwy o bobl nag—. Mae pobl yn sôn am ffermio defaid ac ŵyn; nid yw hynny'n berthnasol dim ond i'r canolbarth, y gogledd neu'r gorllewin. Mae'n berthnasol i gymunedau'r ucheldir yn y Cymoedd mewn gwirionedd hefyd. Mae'n berthnasol i Gymru gyfan: gwledig, trefol, y cwbl. A bu iddo hefyd ein hatgoffa ni o'r cyfleoedd hynny fydd mewn gwirionedd yn dod i'n rhan drwy adeiladu cydnerthedd yn ein rhwydweithiau bwyd lleol a datblygu'r rheini yn rhai cryfion iawn.
Cwnsler Cyffredinol, diolch am eich ymatebion. Fe wnaethoch chi ddal sylw ar yr hyn a ddywedwyd i raddau helaeth iawn yr wythnos diwethaf ac fe wnaethoch chi atgoffa pawb eto, mewn gwirionedd, bod y cytundeb yn hollbwysig ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU hefyd fynd i'r afael â'r materion hyn, ond mae'n rhaid i ni o hyd i fynd i'r afael â phwy fyddai'n talu'r gost ychwanegol os ydym ni'n defnyddio llwybrau awyr; pwy fydd yn talu'r gost ychwanegol o storio a meddyginiaethau? Mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei ddatrys gyda Llywodraeth y DU. Ac mae llawer eto i'w ddatrys mewn cyfnod byr iawn o amser, ac rwy'n wirioneddol eisiau ichi fynd â'r neges honno yn ôl i gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) pryd bynnag maen nhw'n penderfynu cwrdd eto yn y dyfodol.
A gaf i hefyd ddiolch ar goedd i'r tîm clercio a'r tystion a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor? Oherwydd heb y grwpiau hynny ni fyddem ni'n gallu cynhyrchu ein hadroddiadau a chyflwyno i'r Aelodau yr ystyriaethau ynghylch rhai o'r pryderon y mae angen inni roi sylw iddyn nhw er mwyn sicrhau y caiff Cymru a'i phobl eu gwasanaethu orau ag y gallwn ni eu gwasanaethu. Mae Brexit wedi ei gymharu gan rai â'r gorchwyl o gynnal y Gemau Olympaidd. Mae Sefydliad y Llywodraeth, fodd bynnag, wedi mynd ymhellach ac awgrymu bod yr ansicrwydd parhaus yn ei gwneud hi'n debyg i gynnal gemau Olympaidd heb wybod y flwyddyn, y lleoliad, neu ai gemau'r haf neu'r gaeaf ydyn nhw. Nawr, felly, mae gan holl lywodraethau'r DU, a'r UE, orchwyl anodd wrth baratoi y llu o sefydliadau a sectorau a gaiff, o bosib, eu heffeithio gan Brexit. Rydym ni'n gobeithio drwy ganolbwyntio ar ein gwaith a rhai o'r sectorau allweddol hynny sy'n bwysig i Gymru y bydd modd inni ddwyn sylw Llywodraeth Cymru at y materion hyn a gofyn i Lywodraeth Cymru, 'Gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi ar gyfer sefyllfaoedd—pob sefyllfa'. Wyddom ni ddim beth fydd y canlyniadau. Rwy'n dal i gredu na fyddwn ni'n gwybod bore yfory beth fydd y canlyniadau, oherwydd os derbynnir gwelliant Brady, dywedwyd wrthym ni eisoes gan yr UE a Senedd Ewrop nad oes ots oherwydd dydyn nhw ddim yn mynd i newid y cytundeb. Felly, mae yna bryderon dybryd beth fydd pen draw hyn ac, felly, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod ein paratoadau yn gadarn. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiadau'r pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.