Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 29 Ionawr 2019.
Rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith y gwnaed rhybuddion yn y Siambr hon am yr ansicrwydd gwirioneddol yr ydym ni'n ei wynebu yn sgil unrhyw fath o Brexit, a'r peryglon enfawr sydd o'n blaenau pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb caled iawn neu hyd yn oed heb gytundeb o gwbl. Mae'n bwysig inni gofio'r cyd-destun y mae'r ddadl hon yn digwydd ynddo heddiw a'r hyn sy'n digwydd i lawr yr M4 yn Senedd y DU, ac fe ddylem ni wastad ymdrechu, ni waeth pa mor annhebygol y bo hi'n teimlo ar adegau, i obeithio y caiff ein neges a'n pryderon yma yn ein Senedd genedlaethol ni wrandawiad gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn San Steffan ac yn Whitehall.
Nid yw hi'n gyfrinach fy mod i ymysg hanner y boblogaeth a oedd yn dymuno aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'n gyfrinach fy mod i'n gefnogwr balch o werth aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru—y gwerth i genedl fach o fod yn rhan o rwydweithiau Ewropeaidd. Rwyf eisiau gweld Cymru, fel y gwyddoch chi, yn genedl annibynnol o fewn rhwydweithiau ehangach: yr Undeb Ewropeaidd, Undeb Prydeinig newydd, efallai, Undeb Celtaidd—pwy a ŵyr? Felly, roedd unrhyw ymadawiad i mi yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru. Ac fe wnaethom ni, rwy'n difaru—ac rwy'n cymryd fy rhan i o'r bai amdano—fethu â phwysleisio hynny ddigon yn yr hyn a oedd, mewn gwirionedd, yn refferendwm Saesnig iawn, yn hytrach nag un Brydeinig. Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon, rwy'n credu, yn dweud hynny wrthym ni, ac nid oes gennyf fawr ddim ameuaeth y byddai gennym ni bellach ganlyniad gwahanol yng Nghymru nawr ein bod ni wedi cael amser i drafod y goblygiadau penodol i Gymru. Ond cynhaliwyd y refferendwm bron dair blynedd yn ôl.
Ond mae bod mewn sefyllfa bellach lle'r ydym ni'n wynebu'r Brexit mwyaf niweidiol posib yn sefyllfa lle bydd pawb yn dioddef, ble bynnag y bo nhw yn y DU, er bod arnaf ofn y byddai Cymru ymysg y mannau fydd yn dioddef fwyaf. Bydd imperialiwyr cocsio bach Prydain yn ymhyfrydu mae'n siŵr mewn ymgyrch wyrdroëdig o arwahanrwydd gogoneddus, lle gall arwahanrwydd gwirioneddol ddim ond cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer y tlawd, ar gyfer y mentrus, ar gyfer pobl ifanc, ar gyfer busnes, ar gyfer amaeth, ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, ar gyfer goddefgarwch, ar gyfer cydweithredu rhyngwladol—mae'r rhestr yn llawer hwy nag y byddai'r Llywydd yn caniatáu imi sôn amdani'n gynhwysfawr yn yr amser sydd ar gael.
Ond heddiw rydym ni'n nodi tri adroddiad sy'n gwneud rhagor o rybuddion—tri adroddiad gan y pwyllgor materion allanol. Mae'r Cadeirydd eisoes wedi ein hatgoffa'n huawdl o rai o'r rhybuddion a wnaeth y pwyllgor hwnnw ynglŷn ag effeithiau Brexit ar borthladdoedd, ar iechyd, ac ar y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion lu a wnaed ar gyfer y gwaith paratoi sydd ei angen, ac rwy'n falch eu bod wedi eu derbyn. Ond, wrth gwrs, ni ellir paratoi'n ddigonol, hyd yn oed pe cafwyd yr holl amser yn y byd, heb sôn am yr wyth wythnos sydd ar ôl, i'n rhoi ni mewn sefyllfa lle gallem ni edrych ymlaen, yn realistig, i fod ar yr un tir ag yr ydym ni arno hyn o bryd yn dilyn Brexit caled neu un heb gytundeb o gwbl.
Rydym ni heddiw, wrth gwrs, yn ymdrin ag effeithiau'r penderfyniadau a wnaed yn dilyn y refferendwm yn 2016, sef y penderfyniad i sbarduno Erthygl 50 mor gyflym, a oedd yn pennu dyddiad ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—dyddiad gyda thynged iddo heb unrhyw syniad ynghylch pa dynged yr oeddem ni mewn gwirionedd yn ei dymuno. Ac rwy'n falch iawn i fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru yn San Steffan bleidleisio yn erbyn sbarduno Erthygl 50 bryd hynny, ac efallai y gall hanes farnu a oedd Llafur a'r Ceidwadwyr yn iawn i frysio, fel a ddigwyddodd, i sbarduno hynny. Ond, mae'n amlwg i mi ac i'm cyd-Aelodau—rydym ni eisiau gohirio'r dyddiad hwnnw. Rwyf eisiau oedi gydag erthygl 50, i roi amser i'n hunain, efallai i geisio Brexit llai niweidiol, efallai gan ystyried rhai o'r rhybuddion a wnaed unwaith eto yn y tri adroddiad gan y pwyllgor Cynulliad hwn. Ond gellid defnyddio'r amser hyd yn oed yn well, yn ein barn ni, drwy ofyn i'r bobl unwaith eto ai dyma beth maen nhw, a phobl fel fy merch hynaf—Ewropead angerddol sydd bellach yn gymwys i bleidleisio ers y refferendwm hwnnw—yn dal i fod eisiau mewn gwirionedd.