Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 30 Ionawr 2019.
Wrth edrych ar gyfraddau carcharu ar draws Cymru, rydym hefyd yn gwybod bod cyfraddau carcharu uwch yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae cysylltiad clir rhwng tlodi a throseddu a'r modd y mae'r llysoedd yn trin troseddwyr dosbarth gweithiol. Mae anghydraddoldeb wedi'i adeiladu'n rhan greiddiol o'n system gyfiawnder, boed yn anghydraddoldeb hiliol, rhywiol, dosbarth neu ddaearyddol, ac nid damwain yw hyn. Penderfyniadau gwleidyddol yn San Steffan gan y Torïaid a Llafur Newydd o'u blaenau sydd wedi dod â ni i'r fan hon.
Rwy'n cofio pan oeddwn yn gwasanaethu fel swyddog prawf ynghanol y 1990au, roedd poblogaeth y carchardai yn hanner yr hyn ydyw yn awr. Flynyddoedd yn ddiweddarach mae gennym wasanaeth prawf wedi'i breifateiddio, diffyg hyder ar ran y llysoedd mewn ymatebion cymunedol, ynghyd â thoriadau llym yn sgil y polisi cyni i gymorth cyfreithiol a methiant i gael mynediad at gyfiawnder, ac mae hyn oll wedi golygu bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu dedfrydu'n syth i garchar.
Yn ychwanegol at hyn, mae hanner yr holl lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr wedi cau ers 2010. Bellach rhaid i bobl deithio ymhellach i gael mynediad at gyfiawnder. Ceir cysylltiad clir rhwng cyni, preifateiddio'r gwasanaeth prawf, yr awydd am elw a pherfformiad gwael o ran goruchwylio a monitro. Wrth i atebion cymunedol gael eu difa gan Lywodraethau olynol, maent wedi trosglwyddo mwy a mwy o'r system gyfiawnder i ddwylo preifat, gyda charchardai'n cael eu rhedeg er elw gan gwmnïau preifat, megis G4S, sydd wedi'u cysylltu â chamweddau hawliau dynol difrifol.
Yn y cyfamser, mae'r amodau mewn carchardai wedi dirywio i lefel argyfyngus, fel y dangosodd ymchwil flaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Er bod nifer y carcharorion a garcharwyd yng Nghymru wedi cynyddu 23 y cant rhwng 2010 a 2017, cynyddodd nifer y digwyddiadau o hunan-niwed a gofnodwyd 358 y cant yn ystod yr un cyfnod. Yn 2017, roedd 2,132 o ddigwyddiadau o hunan-niwed mewn carchardai yng Nghymru. Mae'r ffigur yn cyfateb i bum digwyddiad unigol o hunan-niwed yng ngharchardai Cymru bob dydd. Ar gyfartaledd, mae carcharor yng Nghymru yn cyflawni hunanladdiad bob pedwar mis.
Mae lefelau trais hefyd ar gynnydd yn ein carchardai. Ers 2010, mae cyfanswm yr ymosodiadau gan garcharor ar garcharor yng Nghymru wedi cynyddu 156 y cant, o'i gymharu â 86 y cant o gynnydd yn nifer y digwyddiadau yng ngharchardai Lloegr. Mae ymosodiadau ar staff ac aflonyddu mewn carchardai hefyd wedi cynyddu yng Nghymru a Lloegr, a chafwyd nifer anghymesur o ddigwyddiadau o aflonyddu yng ngharchar y Parc, unig garchar preifat Cymru.
Mae ein carchardai'n orlawn, yn anniogel ac yn anaddas i ateb anghenion y system gyfiawnder fodern. Y gwir amdani yw nad yw carchar yn gweithio os mai ein nod yw creu cymdeithas gyfiawn, deg a diogel, neu os ydym am i bobl gael eu hadsefydlu fel nad ydynt yn dal ati i gyflawni troseddau dro ar ôl tro.
Yn San Steffan, mae'r Torïaid a Llafur Newydd o'u blaenau wedi mabwysiadu ymagwedd at gyfiawnder sy'n gosbedigol, yn annheg ac yn canolbwyntio ar gynhyrchu elw preifat o droseddoli a dioddefaint dynol. Gallem wneud pethau'n wahanol, a byddai datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn llawn yn caniatáu inni wneud hynny. Gellid dwyn gwasanaethau prawf yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus lawn, ochr yn ochr â sefydlu system garchar sy'n adsefydlu gyda ffocws penodol ar gynorthwyo pobl a'u helpu i dorri cylch dieflig o aildroseddu drwy gyrsiau a chynlluniau yn y cymuned gydag adnoddau da i'w cynnal.
Gallem hefyd ystyried cyfleoedd ehangach i ddad-droseddoli gweithredoedd nad ydynt yn achosi niwed i'n cymunedau. Byddai dad-droseddoli cyffuriau a thrin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn hytrach na mater cyfiawnder troseddol yn lleihau'r peryglon sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac yn sicrhau na wastreffir adnoddau ar erlyn pobl am fân droseddau anhreisgar, fel meddu ar gyffuriau neu ddwyn o siopau i fwydo teulu. Gallai'r system cyfiawnder troseddol ganolbwyntio ar sefydlu mentrau cyfiawnder sy'n seiliedig ar ddatrys problemau i geisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu ar oedran cynnar, a chanolbwyntio ar atal yn hytrach na dial ar ôl i drosedd gael ei chyflawni. Yn fwyaf arbennig, ni fyddai dedfrydau o garchar yn cael eu defnyddio ar gyfer menywod a phobl ifanc ac eithrio yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol. Ar gyfer y grwpiau hyn o bobl, yn amlach na pheidio, nid yw dedfryd o garchar ond yn gwneud pethau'n waeth, ac mae'r un peth yn wir wrth gwrs yn achos pobl â chyflyrau iechyd meddwl.
Nid yw ein ffocws presennol ar gosbi pobl yn mynd â ni i unman, ac nid yw ond yn arwain at fwy o deuluoedd yn cael eu chwalu, at gylchoedd o aildroseddu, camddefnyddio sylweddau, diweithdra, digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl. Byddai canolbwyntio ar adsefydlu llawn, dulliau cyfiawnder adferol a gwaith wedi'i lywio gan drawma gyda throseddwyr yn ein helpu i greu cymunedau mwy diogel. A dyna pam y mae Plaid Cymru hefyd o blaid rhoi'r hawl i garcharorion gael pleidleisio, er budd hawliau dynol ac adsefydlu. Yn fy marn i, ni ellir cyfiawnhau difreinio rhan gyfan o'r boblogaeth yn y modd hwn mewn democratiaeth fodern. Ac am neges gref y gallai Cymru ei rhoi drwy'r cynnig hwn ynglŷn â'n penderfyniad i adsefydlu carcharorion yn llawn fel dinasyddion.
Gan droi at y gwelliannau i'r cynnig, hoffwn yn gyntaf ymdrin â'r gwelliant gan y codwyr bwganod asgell dde, UKIP, y mae eu gwelliant yn ceisio cysylltu tarddiad ethnig neu genedligrwydd ag ymddygiad troseddol. Am beth gwarthus i'w wneud. Dyma ymdrech druenus arall gan UKIP i droi pobl yn erbyn ymfudwyr, a buaswn yn annog pawb i bleidleisio yn erbyn hwnnw.
Byddwn hefyd yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n ymddangos fel pe bai'n ymgais ganddynt i gladdu eu pennau yn y tywod ynglŷn ag effeithiau trychinebus cyni eu plaid a phreifateiddio. Rhaid i eiriau cynnes gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder am ffocws ar adsefydlu gael eu cefnogi gan gamau gweithredu o sylwedd i allu bod yn ystyrlon, a hyd yma, nid oes ganddynt hanes da o hynny.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru heddiw wedi cefnogi ein galwadau am system gyfiawnder decach sy'n gweithio. Cefais fy siomi yn ddiweddar er hynny wrth glywed y Prif Weinidog newydd yn dweud nad yw o blaid datganoli cyfiawnder i Gymru yn llawn, ac yn hytrach, ei fod yn ffafrio dull mwy tameidiog. Hoffwn ofyn iddo, os yw'n cytuno â'r hyn y galwn amdano, o ganolbwyntio ar adsefydlu i roi diwedd ar elw preifat o garchardai, pa reswm sydd dros aros?
Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y gwaith gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru sy'n ystyried y mater hwn, ond mae consensws eang eisoes ar draws y Siambr hon ac ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol y dylid datganoli cyfiawnder troseddol i Gymru. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi ein cynnig heddiw a'i gwneud yn glir eu bod o blaid datganoli llawn. Gadewch i ni fynnu'r arfau i wneud pethau ein hunain ac adeiladu system well. Byddai datganoli'r cyfrifoldeb am gyfiawnder troseddol yn ein galluogi i greu ein llwybr ein hunain yng Nghymru. Yn hytrach na chyrraedd brig y gynghrair o ran carcharu, a'r tlodi a'r diflastod sy'n gysylltiedig â hynny, gallem greu system decach, fwy gweddnewidiol a fyddai'n disgleirio dros gyfiawnder i bedwar ban byd. Beth sy'n ein rhwystro?