– Senedd Cymru ar 30 Ionawr 2019.
Symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar gyfiawnder troseddol a charchardai. Galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig. Leanne.
Cynnig NDM6949 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau.
2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad.
4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar yn cael effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol.
5. Yn galw am:
a) datganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru;
b) diystyru adeiladu rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
c) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
d) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
e) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol;
f) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Diolch. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn yn enw Plaid Cymru yn dilyn cyhoeddi darn o ymchwil sy'n haeddu sylw difrifol. Dylai canfyddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru mai gan Gymru y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop fod yn destun cywilydd i ni i gyd. Mae'n destun pryder mawr hefyd fod y duedd hon wedi datblygu heb ei chanfod hyd nes i Ganolfan Llywodraethiant Cymru ddadgyfuno'r data. Dylai'r canfyddiadau hyn a'r darlun digalon ehangach y maent yn ei ddynodi ein hysgogi i ofyn cwestiynau treiddgar ynglŷn â beth rydym ei eisiau gan ein system gyfiawnder a sut y mae'n gwasanaethu'r nodau hynny. A dyna rwy'n gobeithio y gallwn ddechrau ei wneud gyda'r ddadl hon heddiw.
Y gwir amdani yw bod system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn gwneud cam â'n cymunedau. Mae gennym gyfradd garcharu uwch na Lloegr, er bod y gyfradd droseddu'n is. Mae menywod yn fwy tebygol o gael dedfryd uniongyrchol o garchar na dynion. Mae cyfraddau carcharu ymhlith cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn fwy anghymesur o gymharu â'r boblogaeth yng Nghymru na'r hyn ydynt yn Lloegr, ac mae hyd cyfartalog dedfrydau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn fwy. Felly, os ydych yn berson croendywyll yng Nghymru, rydych yn fwy tebygol o gael eich carcharu a hefyd o gael dedfryd hwy. Fodd bynnag, mae'r gyfran gyfartalog o bobl wyn yn llai.
Wrth edrych ar gyfraddau carcharu ar draws Cymru, rydym hefyd yn gwybod bod cyfraddau carcharu uwch yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae cysylltiad clir rhwng tlodi a throseddu a'r modd y mae'r llysoedd yn trin troseddwyr dosbarth gweithiol. Mae anghydraddoldeb wedi'i adeiladu'n rhan greiddiol o'n system gyfiawnder, boed yn anghydraddoldeb hiliol, rhywiol, dosbarth neu ddaearyddol, ac nid damwain yw hyn. Penderfyniadau gwleidyddol yn San Steffan gan y Torïaid a Llafur Newydd o'u blaenau sydd wedi dod â ni i'r fan hon.
Rwy'n cofio pan oeddwn yn gwasanaethu fel swyddog prawf ynghanol y 1990au, roedd poblogaeth y carchardai yn hanner yr hyn ydyw yn awr. Flynyddoedd yn ddiweddarach mae gennym wasanaeth prawf wedi'i breifateiddio, diffyg hyder ar ran y llysoedd mewn ymatebion cymunedol, ynghyd â thoriadau llym yn sgil y polisi cyni i gymorth cyfreithiol a methiant i gael mynediad at gyfiawnder, ac mae hyn oll wedi golygu bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu dedfrydu'n syth i garchar.
Yn ychwanegol at hyn, mae hanner yr holl lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr wedi cau ers 2010. Bellach rhaid i bobl deithio ymhellach i gael mynediad at gyfiawnder. Ceir cysylltiad clir rhwng cyni, preifateiddio'r gwasanaeth prawf, yr awydd am elw a pherfformiad gwael o ran goruchwylio a monitro. Wrth i atebion cymunedol gael eu difa gan Lywodraethau olynol, maent wedi trosglwyddo mwy a mwy o'r system gyfiawnder i ddwylo preifat, gyda charchardai'n cael eu rhedeg er elw gan gwmnïau preifat, megis G4S, sydd wedi'u cysylltu â chamweddau hawliau dynol difrifol.
Yn y cyfamser, mae'r amodau mewn carchardai wedi dirywio i lefel argyfyngus, fel y dangosodd ymchwil flaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Er bod nifer y carcharorion a garcharwyd yng Nghymru wedi cynyddu 23 y cant rhwng 2010 a 2017, cynyddodd nifer y digwyddiadau o hunan-niwed a gofnodwyd 358 y cant yn ystod yr un cyfnod. Yn 2017, roedd 2,132 o ddigwyddiadau o hunan-niwed mewn carchardai yng Nghymru. Mae'r ffigur yn cyfateb i bum digwyddiad unigol o hunan-niwed yng ngharchardai Cymru bob dydd. Ar gyfartaledd, mae carcharor yng Nghymru yn cyflawni hunanladdiad bob pedwar mis.
Mae lefelau trais hefyd ar gynnydd yn ein carchardai. Ers 2010, mae cyfanswm yr ymosodiadau gan garcharor ar garcharor yng Nghymru wedi cynyddu 156 y cant, o'i gymharu â 86 y cant o gynnydd yn nifer y digwyddiadau yng ngharchardai Lloegr. Mae ymosodiadau ar staff ac aflonyddu mewn carchardai hefyd wedi cynyddu yng Nghymru a Lloegr, a chafwyd nifer anghymesur o ddigwyddiadau o aflonyddu yng ngharchar y Parc, unig garchar preifat Cymru.
Mae ein carchardai'n orlawn, yn anniogel ac yn anaddas i ateb anghenion y system gyfiawnder fodern. Y gwir amdani yw nad yw carchar yn gweithio os mai ein nod yw creu cymdeithas gyfiawn, deg a diogel, neu os ydym am i bobl gael eu hadsefydlu fel nad ydynt yn dal ati i gyflawni troseddau dro ar ôl tro.
Yn San Steffan, mae'r Torïaid a Llafur Newydd o'u blaenau wedi mabwysiadu ymagwedd at gyfiawnder sy'n gosbedigol, yn annheg ac yn canolbwyntio ar gynhyrchu elw preifat o droseddoli a dioddefaint dynol. Gallem wneud pethau'n wahanol, a byddai datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn llawn yn caniatáu inni wneud hynny. Gellid dwyn gwasanaethau prawf yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus lawn, ochr yn ochr â sefydlu system garchar sy'n adsefydlu gyda ffocws penodol ar gynorthwyo pobl a'u helpu i dorri cylch dieflig o aildroseddu drwy gyrsiau a chynlluniau yn y cymuned gydag adnoddau da i'w cynnal.
Gallem hefyd ystyried cyfleoedd ehangach i ddad-droseddoli gweithredoedd nad ydynt yn achosi niwed i'n cymunedau. Byddai dad-droseddoli cyffuriau a thrin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn hytrach na mater cyfiawnder troseddol yn lleihau'r peryglon sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac yn sicrhau na wastreffir adnoddau ar erlyn pobl am fân droseddau anhreisgar, fel meddu ar gyffuriau neu ddwyn o siopau i fwydo teulu. Gallai'r system cyfiawnder troseddol ganolbwyntio ar sefydlu mentrau cyfiawnder sy'n seiliedig ar ddatrys problemau i geisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu ar oedran cynnar, a chanolbwyntio ar atal yn hytrach na dial ar ôl i drosedd gael ei chyflawni. Yn fwyaf arbennig, ni fyddai dedfrydau o garchar yn cael eu defnyddio ar gyfer menywod a phobl ifanc ac eithrio yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol. Ar gyfer y grwpiau hyn o bobl, yn amlach na pheidio, nid yw dedfryd o garchar ond yn gwneud pethau'n waeth, ac mae'r un peth yn wir wrth gwrs yn achos pobl â chyflyrau iechyd meddwl.
Nid yw ein ffocws presennol ar gosbi pobl yn mynd â ni i unman, ac nid yw ond yn arwain at fwy o deuluoedd yn cael eu chwalu, at gylchoedd o aildroseddu, camddefnyddio sylweddau, diweithdra, digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl. Byddai canolbwyntio ar adsefydlu llawn, dulliau cyfiawnder adferol a gwaith wedi'i lywio gan drawma gyda throseddwyr yn ein helpu i greu cymunedau mwy diogel. A dyna pam y mae Plaid Cymru hefyd o blaid rhoi'r hawl i garcharorion gael pleidleisio, er budd hawliau dynol ac adsefydlu. Yn fy marn i, ni ellir cyfiawnhau difreinio rhan gyfan o'r boblogaeth yn y modd hwn mewn democratiaeth fodern. Ac am neges gref y gallai Cymru ei rhoi drwy'r cynnig hwn ynglŷn â'n penderfyniad i adsefydlu carcharorion yn llawn fel dinasyddion.
Gan droi at y gwelliannau i'r cynnig, hoffwn yn gyntaf ymdrin â'r gwelliant gan y codwyr bwganod asgell dde, UKIP, y mae eu gwelliant yn ceisio cysylltu tarddiad ethnig neu genedligrwydd ag ymddygiad troseddol. Am beth gwarthus i'w wneud. Dyma ymdrech druenus arall gan UKIP i droi pobl yn erbyn ymfudwyr, a buaswn yn annog pawb i bleidleisio yn erbyn hwnnw.
Byddwn hefyd yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n ymddangos fel pe bai'n ymgais ganddynt i gladdu eu pennau yn y tywod ynglŷn ag effeithiau trychinebus cyni eu plaid a phreifateiddio. Rhaid i eiriau cynnes gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder am ffocws ar adsefydlu gael eu cefnogi gan gamau gweithredu o sylwedd i allu bod yn ystyrlon, a hyd yma, nid oes ganddynt hanes da o hynny.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru heddiw wedi cefnogi ein galwadau am system gyfiawnder decach sy'n gweithio. Cefais fy siomi yn ddiweddar er hynny wrth glywed y Prif Weinidog newydd yn dweud nad yw o blaid datganoli cyfiawnder i Gymru yn llawn, ac yn hytrach, ei fod yn ffafrio dull mwy tameidiog. Hoffwn ofyn iddo, os yw'n cytuno â'r hyn y galwn amdano, o ganolbwyntio ar adsefydlu i roi diwedd ar elw preifat o garchardai, pa reswm sydd dros aros?
Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y gwaith gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru sy'n ystyried y mater hwn, ond mae consensws eang eisoes ar draws y Siambr hon ac ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol y dylid datganoli cyfiawnder troseddol i Gymru. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi ein cynnig heddiw a'i gwneud yn glir eu bod o blaid datganoli llawn. Gadewch i ni fynnu'r arfau i wneud pethau ein hunain ac adeiladu system well. Byddai datganoli'r cyfrifoldeb am gyfiawnder troseddol yn ein galluogi i greu ein llwybr ein hunain yng Nghymru. Yn hytrach na chyrraedd brig y gynghrair o ran carcharu, a'r tlodi a'r diflastod sy'n gysylltiedig â hynny, gallem greu system decach, fwy gweddnewidiol a fyddai'n disgleirio dros gyfiawnder i bedwar ban byd. Beth sy'n ein rhwystro?
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Gareth Bennett i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw. Gareth Bennett.
Gwelliant 1—Gareth Bennett
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig.
2. Yn nodi ymhellach bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018, yn wladolion tramor, a'r mwyaf cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon a Rwmania.
3. Yn credu:
a) y dylid ariannu gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai;
b) y dylai pob carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan swyddogion y Goron fod yn atebol i Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau preifat;
c) y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i wyrdroi preifateiddio'r system garchardai;
d) y dylai troseddwyr o dramor gael eu halltudio i fwrw eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y dylai troseddwyr o'r fath gael eu gwahardd rhag dychwelyd i'r DU;
e) y dylai carchardai newydd gael eu hadeiladu fel y bo angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a gaiff eu dyfarnu'n euog o droseddau sy'n dwyn cosb o garchar.
Diolch, Lywydd, a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rhaid i mi ychwanegu nad ydym ni yma ar ochr UKIP i'r Siambr yn croesawu'r ddadl hon yn arbennig, gan mai ein barn ni yw mai mater i Lywodraeth y DU yw cyfiawnder troseddol, ac yn briodol felly. Nid ydym yn cytuno â dyheadau Plaid Cymru y dylid datganoli cyfiawnder troseddol. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cropian fesul modfedd tuag at safbwynt Plaid Cymru, felly rydym ni yn UKIP yn gwrthwynebu Llafur fwyfwy hefyd ynglŷn â llawer o faterion cyfiawnder troseddol.
Efallai y dylwn ddechrau gyda'r meysydd rydym yn cytuno arnynt. Nid yw UKIP yn gweld unrhyw rôl i gontractwyr preifat allu gweithio yn y sector cyfiawnder troseddol. Rydym yn credu mai rôl i'r wladwriaeth yw hon o reidrwydd, a hoffem delerau ac amodau da ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y system garchardai er mwyn sicrhau y cynhelir safonau uchel. Yn amlwg, nid yw cyfraddau uchel o hunanladdiad, trais a hunan-niwed ymhlith poblogaeth y carchardai yn beth da, ac mae'n rhaid inni ystyried y cyfraddau cynyddol o ymosodiadau gan garcharorion ar swyddogion carchar hefyd.
Gall fod problem gyda dedfrydau byr o garchar. I fod yn deg, cawsom dystiolaeth i'r perwyl hwn ar y pwyllgor cymunedau y llynedd, pan wnaethom ein hymchwiliad i ddigartrefedd. Mae rhai carcharorion ar ddedfrydau byr yn mynd yn ddigartref bron yn ddieithriad pan gânt eu rhyddhau am nad yw'r awdurdodau tai wedi cael amser i roi tenantiaeth ar waith ar eu cyfer, felly gall carcharor sy'n cael ei ryddhau ddisgyn i gylch o garchar a digartrefedd a mynd yn ôl i garchar am aildroseddu o bosibl ar ôl amser byr yn unig. Felly, mae yna broblemau'n codi o'r defnydd o ddedfrydau byr.
Y broblem gyda hyn yw nad yw dedfrydau cymunedol yn briodol mewn gwirionedd ar gyfer troseddwyr mynych, am fod eu hanes yn awgrymu y byddant yn aildroseddu yn ôl pob tebyg, sy'n golygu y bydd gennym ragor o ddioddefwyr troseddau yn sgil hynny. Ac mae'n broblem mai dwy ran o dair yn unig o ddedfrydau cymunedol sy'n cael eu cwblhau yng Nghymru a Lloegr. Mae gennym broblem gyda chael digon o swyddogion prawf i weithredu'r dedfrydau cymunedol yn iawn, felly ni allwch haeru'n gyffredinol fod rhaid inni ddiystyru dedfrydau byr. Weithiau, rhaid rhoi dedfryd fer o garchar i droseddwyr am nad oes unrhyw ddewis ymarferol arall.
Ceir problem gorlenwi mewn carchardai am fod poblogaeth y carchardai wedi codi'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n ymddangos bod Plaid Cymru a Llafur eisiau i ragor o garchardai gael eu hadeiladu; ymddengys mai dyma yw eu safbwynt, er eu bod yn dweud mai gwrthwynebu carchardai mawr yn benodol y maent ac nid carchardai fel y cyfryw. Mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod Llafur na Phlaid Cymru'n hoff o'r syniad o gael carchardai o gwbl. Un o achosion gorlenwi mewn carchardai yw'r boblogaeth sy'n cynyddu yng Nghymru a Lloegr yn gyffredinol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriadau, diolch—wedi'i achosi'n rhannol, wrth gwrs, gan fewnfudo ar raddfa fawr, ac wrth gwrs, oherwydd nad oes gan y Swyddfa Gartref lawer o ddewis mwyach dros bwy sy'n cael dod i ymgartrefu yn y wlad, mae llawer o droseddwyr tramor, yn enwedig o ddwyrain Ewrop, wedi bachu ar y cyfle i ymgartrefu yma a pharhau â'u gyrfaoedd troseddol yn y DU. Felly, mae gennym ffigur fod 11 y cant o'r holl garcharorion yng Nghymru a Lloegr bellach yn wladolion tramor.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriadau, Rhun. Diolch yn fawr. Wrth gwrs—
Hiliol.
[Anghlywadwy.]—mwy na thebyg eich bod ofn dadl.
Hiliol.
Wrth gwrs, gallwn geisio allgludo'r bobl hyn—
Hiliol.
—ond rydym yn gorfod gwrthsefyll heriau yn y llysoedd, ac mewn gwirionedd ni allwn gael gwared ar yr elfen dramor fawr yn ein carchardai—
Hiliol.
—nes ein bod y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a Llys Cyfiawnder Ewrop, ac yn ddelfrydol hefyd y tu allan i Lys Hawliau Dynol Ewrop.
Mae Llafur a Phlaid Cymru yn ymrwymo eu hunain heddiw i bleidlais i garcharorion. Mae hyn i'w weld yn rhyfedd braidd, gan ein bod yn cael ymchwiliad ar yr union bwnc hwn yn y pwyllgor cymunedau ar hyn o bryd, ond newydd gychwyn ar yr ymchwiliad hwn rydym ni, felly pam fod Llafur eisoes yn ymrwymo i safbwynt ar hyn, nid wyf yn gwybod. Wrth gwrs, fe arhosaf i glywed beth fydd gan lefarydd y Blaid Lafur i'w ddweud, ond mae'n ymddangos efallai fod y Llywodraeth yn dangos dirmyg tuag at y pwyllgor yma. Mae gennym aelod newydd nodedig o'r pwyllgor, sef Carwyn Jones, a oedd yn Brif Weinidog tan ychydig wythnosau yn ôl, ac ymddengys ei fod â gwir ddiddordeb yn yr ymchwiliad hwn ac yn bwrw iddi o ddifrif heb safbwynt rhagdybiedig. Oni chaiff arddel barn ystyrlon ar y mater am fod y Llywodraeth Lafur eisoes yn gosod ei safbwynt ar hyn? Ond fel rwy'n dweud, edrychaf ymlaen at glywed sut y mae'r Gweinidog Llafur yn egluro eu barn ar y mater hwn heddiw.
I grynhoi safbwynt UKIP, gwrthwynebwn gynnig Plaid Cymru, gwrthwynebwn welliannau Llafur, nid ydym yn hoff iawn o welliant y Ceidwadwyr, gan mai canolbwyntio'n unig ar adsefydlu a dedfrydau cymunedol a wnânt a dim arall, ac nid yw hynny'n cynnig ateb cyfannol neu ymarferol i'r problemau sy'n ein hwynebu yma, felly byddwn yn ymatal heddiw ar welliant y Ceidwadwyr. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Fel y clywsom, gwelodd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru' mai Cymru sydd â'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, ac er bod cyfanswm y dedfrydau o garchar yng Nghymru wedi codi rhwng 2010 a 2017, gwelwyd gostyngiad o 16 y cant yn Lloegr. Dywedodd awduron yr adroddiad fod angen ymchwil ehangach i esbonio'r gyfradd garcharu uchel yng Nghymru, ac mae hyn yn arbennig o berthnasol o gofio bod llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr a chyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu eisoes wedi'u datganoli. Mae'r gwahaniaeth mawr yn y dull o weithredu o fewn yr hyn sy'n system cyfiawnder troseddol a rennir yn rhoi rheswm arall pam na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli cyfiawnder troseddol. Mae'r galwadau hyn hefyd yn parhau i fethu cydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol a bod 40 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr a bod 90 y cant yn byw o fewn 50 milltir i'r ffin honno. Fel y nododd y cyn-Brif Weinidog hefyd, gallai troseddwyr peryglus ddal i gael eu hanfon ledled y DU ar ôl datganoli yn sgil y diffyg carchardai categori A yng Nghymru. O ddarllen cynnig rhithwir Plaid Cymru, ni fyddech yn gwybod bod Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU yn canolbwyntio ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau cyfraddau aildroseddu yng Nghymru a Lloegr. Felly rwy'n cynnig gwelliant 2.
Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn gyson fod y gyfran o garcharorion sy'n aildroseddu ar ôl eu rhyddhau yng Nghymru a Lloegr yn rhy uchel. Fis Awst diwethaf, bûm mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Wrecsam gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru i drafod y papur 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder', a fydd yn dod â'r holl wasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru o fewn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol o 2020 ymlaen. Bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru yn ystyried opsiynau ar gyfer comisiynu gwasanaethau adsefydlu megis ymyriadau a chynlluniau gwneud iawn â'r gymuned. Byddant yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddynt eisoes yng Nghymru drwy eu cyfarwyddiaeth carchardai a phrawf sefydledig a phartneriaethau lleol presennol llwyddiannus, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well.
Nid ymwneud â chynyddu capasiti y mae diwygiadau Llywodraeth y DU i'r system garchardai, ond yn hytrach ag adnewyddu carchardai sy'n heneiddio ac sy'n aneffeithiol drwy godi adeiladau addas ar gyfer gofynion heddiw. Nid un model o garchar mawr a geir. Carchar Berwyn Wrecsam yw'r cyfleuster carchar cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gael ei ddynodi'n garchar adsefydlu. Mae'n garchar hyfforddi ac adsefydlu sydd wedi'i rannu'n dri thŷ, gyda phob un wedi'i rannu'n wyth cymuned, yn ogystal ag uned gofal a chymorth. Yn dilyn ei ymweliad diweddar â Berwyn, dywedodd AS Llafur Wrecsam ei fod yn falch iawn fod yna arwyddion adeiladol ar gyfer y dyfodol.
Mae canllawiau dedfrydu eisoes yn datgan—[Torri ar draws.]—eisoes yn datgan na fydd dedfrydau o garchar ond yn cael eu rhoi i droseddwyr ifanc yn yr achosion mwyaf difrifol. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwrthod carchardai cymunedol ar gyfer menywod yng Nghymru a Lloegr ac yn lle hynny byddant yn treialu pum canolfan breswyl i helpu troseddwyr sy'n fenywod gyda materion fel dod o hyd i waith ac adsefydlu yn sgil troseddau cyffuriau yn y gymuned. Eisoes hefyd, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gweithio ar wahardd dedfrydau byr o garchar yng Nghymru a Lloegr, gyda Gweinidogion yn datgan bod cyfnodau byr o garchar yn llai effeithiol o ran lleihau aildroseddu na chosbau cymunedol, a bod dedfrydau o'r fath yn ddigon hir i niweidio a heb fod yn ddigon hir i wella.
Ni sonnir am alwad Plaid Cymru, a gaiff ei hadleisio gan Weinidogion Llafur, i garcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru yn y naill na'r llall o'u maniffestos yn 2016. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i hawliau pleidleisio ar gyfer carcharorion, a bydd unrhyw gefnogaeth i'r cynnig heddiw yn achub y blaen ar ein canfyddiadau. Yn nhrafodaeth ar-lein y pwyllgor, 24 y cant yn unig a oedd o'r farn y dylai'r holl garcharorion gael pleidleisio. Mewn arolwg YouGov yn 2017, 9 y cant yn unig o bobl Cymru a ddywedodd y dylai pob carcharor gael pleidleisio. Mae peidio â phleidleisio yn un o ffeithiau bywyd sy'n deillio o fod yn y carchar, gan adlewyrchu penderfyniad y gymuned nad yw'r unigolyn dan sylw yn addas i gymryd rhan ym mhroses y gymuned o wneud penderfyniadau.
Rhaid inni roi blaenoriaeth i hawliau dynol dioddefwyr sy'n dioddef dan law llofruddion, terfysgwyr, treiswyr a phedoffiliaid. Ni farnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop y dylid rhoi hawliau pleidleisio i bob carcharor, a derbyniwyd cyfaddawd gan Lywodraeth y DU ar hyn eisoes. Dylai unrhyw ystyriaeth y tu hwnt i hyn ganolbwyntio ar yr achos dros ganiatáu i garcharorion bleidleisio fel rhan o'u proses adsefydlu i baratoi ar gyfer ailymuno â'r gymdeithas ehangach. Yn hytrach na'r model o'r brig i lawr a argymhellir gan y cynnig hwn, dylid rhoi sylw cyson i'r hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd angen inni ei wneud yn wahanol er mwyn cynllunio'r system tuag yn ôl. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3 yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 3—Rebecca Evans
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn galw am:
a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac
e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Yn ffurfiol.
Diolch. Bethan Sayed.
Diolch. Mae'n bwysig iawn inni gadw'r mater hwn ar frig yr agenda wleidyddol a cheisio ei drafod mewn ffordd adeiladol, os oes modd—gan nad dyna a glywais o rai o'r cyfraniadau heddiw. Un o'r pethau roeddwn yn fwyaf awyddus i siarad amdano, a'i roi ar yr agenda pan gawsom yr ymgyrch ym Mhort Talbot yn erbyn carchar mawr newydd ym Maglan oedd y dylai'r ymgyrch ymwneud â mwy na 'Nid yn fy ngardd gefn i'. Tynnodd mater y carchar sylw at faterion llawer mwy pwysig i Gymru ac roedd angen archwilio a thrafod y rheini mewn ffordd adeiladol. Roedd y carchar arfaethedig yn ymwneud â llawer mwy na rhoi llety i garcharorion, ac roedd y dadleuon ynglŷn â charchar fel rhyw fath o fuddsoddiad economaidd bob amser yn brin o hygrededd, yn enwedig pan oedd y tir eisoes wedi'i ddynodi'n barc busnes, ac yn fy marn i, dylai fod wedi'i ddatblygu'n barc busnes flynyddoedd yn ôl.
Yn fy marn i, yr hyn roedd a wnelo'r carchar arfaethedig ym Mhort Talbot mewn gwirionedd oedd Llywodraeth yn San Steffan a oedd wedi methu buddsoddi yng Nghymru, a oedd wedi canslo prosiectau seilwaith mawr neu wedi methu cefnogi rhai eraill. Roedd yn enghraifft arall o Lywodraeth San Steffan yn credu y byddai Cymru, gyda'i heconomi wastad, yn bachu'r cyfle i gael y gobaith lleiaf o fuddsoddiad, ni waeth beth oedd y buddsoddiad hwnnw neu beth oedd ei oblygiadau. Rydym yn haeddu gwell na hynny nawr ac roeddem yn haeddu gwell pan oedd yr ymgyrch ar ei hanterth. Hefyd, rhaid imi ddweud bod Llywodraeth Cymru ar y dechrau wedi neidio at y posibilrwydd o garchar; rwy'n cofio geiriau Carwyn Jones pan oedd yn Brif Weinidog. Felly, rwy'n falch iawn fod Alun Davies, sy'n Aelod o'r meinciau cefn bellach, ond a oedd yn Weinidog ar y pryd, wedi newid ei feddwl ar hynny ac yn cyflwyno rhai syniadau blaengar iawn.
Yr hyn oedd y carchar hwn i ni, a'r hyn y daeth i olygu i lawer a gymerodd ran yn ymgyrch y carchar oedd sgwrs am ein dyfodol a sut rydym yn ymdrin â materion ehangach yn ymwneud â chyfiawnder troseddol. A yw'n iawn fod Gweinidog yn Lloegr yn penderfynu ar dynged carcharorion Cymru? A yw'n iawn, er gwaethaf 20 mlynedd o ddatganoli a chorff cynyddol o gyfraith Gymreig, nad oes gennym lais dros yr elfen bolisi enfawr a chynyddol bwysig hon? A yw'n iawn fod carcharorion Cymru'n cael eu hanfon i garchardai yn Lloegr a bod carcharorion Lloegr yn cael eu cadw yma yng Nghymru? Ac wrth gwrs, y cwestiwn ehangach: pam rydym yn dal i ddilyn trywydd o garcharu ar raddfa fawr yn hytrach na chael sgwrs ynglŷn â pham rydym yn anfon pobl i'r carchar yn y lle cyntaf, pwy ddylai fod yn y carchar mewn gwirionedd a sut y mae angen inni ganolbwyntio ar eu hanghenion adsefydlu? Cawsom lawer o'r trafodaethau hynny fel rhan o'r ymgyrch ym Mhort Talbot a dangoswyd, yn groes i'r hyn y byddai rhai pobl yn ei feddwl o bosibl, nad oes cefnogaeth mor eang i'r farn y mae UKIP yn ei harddel—yr ymagwedd 'taflu'r allwedd' a allai fod gan rai pobl. A yw pobl yn credu y dylai'r rheini a geir yn euog o drosedd gael eu cosbi? Ydynt. Ac rydym ni'n credu hynny hefyd; nid ydym yn credu mewn peidio â chael carchardai—byddai hynny'n gwbl hurt. Ond mae yna wir ddealltwriaeth ac awydd i sicrhau y rhoddir cyfle i rai a geir yn euog o droseddau llai difrifol allu newid eu bywydau a chywiro eu camgymeriadau mewn modd gweddus.
Rhaid inni fod yn wyliadwrus, er hynny, gan fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dal i ymchwilio i'r posibilrwydd o garchar mawr newydd yn ne Cymru. Mae'r ddadl yn aros, fel y gwnaeth ym Mhort Talbot, nad oes angen carchar arall yn ne Cymru. Ac rwy'n credu bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwneud cam â hi ei hun yn y modd y mae'n synied am wleidyddion Cymru, oherwydd nid yw symud i ardal arall o dde Cymru'n golygu nad ydym yn mynd i ymgyrchu, nid yw'n golygu nad ydynt yn mynd i wynebu gwrthwynebiad lleol; byddwn yn mynd â'r ymgyrch at y gymuned honno, lle bynnag y bo, ni waeth a fyddaf yn cynrychioli'r ardal honno ai peidio, oherwydd nid ydym eisiau'r carchar hwnnw yma yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn nodi hynny.
Rwy'n credu bod safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn yn seiliedig ar y syniad o fwy o'r un peth. Maent yn arddel safbwynt nad yw o ddifrif ynglŷn â diwygio, sy'n ceisio darparu cyfiawnder ac adsefydlu'n rhad, cloi pobl mewn carchardai mawr heb ddigon o adnoddau, ac maent yn gwneud hynny oherwydd mae'r staff yno wedi dweud wrthym. Mae chwythwyr chwiban wedi dod atom ac wedi dweud mai dyna beth sy'n digwydd. O dan yr amgylchiadau hynny, nid yw'n syndod fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried adeiladu mwy o garchardai.
Felly, mae ein safbwynt ni'n wahanol, fel y soniodd Leanne Wood yn gynharach, ac rydym yn dadlau'n gryf, drwy newid ffocws y ffordd rydym yn trin pobl a gafwyd yn euog, drwy drawsnewid cyfreithiau dedfrydu a pholisi cosbi a thrwy ailwladoli ac ailflaenoriaethu prawf ac adsefydlu, y gallwn dorri a lleihau'r galw am leoedd mewn carchardai. Nawr, nid oes llawer o amser gennyf yn weddill, ond hoffwn orffen drwy geisio ailddeall, efallai, beth y mae sgwrs ystyrlon â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei olygu mewn gwirionedd. Nid oeddwn yn ei ddeall o dan y Gweinidog arall ac rwy'n dal i fethu deall beth y mae'n ei olygu. Mae angen eglurhad ar—os mai'r polisi yw peidio â chael rhagor o garchardai yma yng Nghymru, pryd a beth fydd y sgyrsiau ystyrlon hynny â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i newid eich meddwl. Beth sydd ei angen i Lywodraeth Cymru newid eich meddwl ar rai o'r materion allweddol hyn o egwyddor mewn perthynas â'r hyn rydym am ei wneud â dyfodol ein system cyfiawnder troseddol? Os caf yr eglurder hwnnw yma heddiw, byddaf yn falch iawn, ond rwy'n ddiolchgar ein bod yn parhau gyda'r ddadl hon ac y gallwn ymdrin â rhai o'r materion hyn, gobeithio, mewn ffordd flaengar.
Cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedodd Leanne am gyflwr presennol y system garchardai fel rhywbeth sy'n destun cywilydd, yn ogystal â'r ffaith bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu carcharu nag unrhyw grŵp arall o ddinasyddion ar draws Ewrop gyfan, ond ceir rhai cwestiynau difrifol sydd angen eu gofyn er mwyn deall pam y mae hynny'n wir. Faint o hynny, y dedfrydau llymach hyn, sy'n ymwneud â'r ffaith bod barnwyr o Loegr yn dod i Gymru ac yn rhoi dedfrydau hwy a llymach nag y maent yn ei wneud i bobl a gafwyd yn euog o'r un drosedd yn Lloegr? Ni allaf ateb y cwestiwn hwnnw, ond mae'n un difrifol sy'n rhaid inni ei ofyn, ac wrth gwrs mae hynny'n bwydo i mewn i'r dadleuon ynglŷn â pham y gallai fod angen—pam y mae angen—datganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru. Fel arall, ai oherwydd bod lefelau uwch o amddifadedd yng Nghymru y gwelir cynnydd yn nifer y bobl sy'n troi at ladrata a dwyn a chyflawni troseddau treisgar fel dewis amgen yn lle cael swydd? Neu a yw'r heddlu yng Nghymru yn well am ganfod troseddau a dod o hyd i'r unigolion sy'n torri'r gyfraith?
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Efallai y gallaf eich helpu gyda rhai o'r cwestiynau rydych yn eu gofyn, oherwydd yn ddiweddar cyfarfûm â rhai o gynrychiolwyr Napo, fy hen undeb llafur, Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, ac roeddent yn dweud wrthyf mai'r hyn sy'n digwydd, yn amlwg, yw hyn: mae'r ffaith bod y gwasanaeth prawf wedi'i breifateiddio'n rhannol wedi golygu nad oes gan y llysoedd ffydd mwyach yn yr elfen o'r gwasanaeth prawf sydd wedi'i phreifateiddio. Felly, yn hytrach na gallu argymell dedfrydau yr arferem eu galw'n wasanaeth cymunedol, ac a elwir yn awr yn 'waith di-dâl', neu'n waith grŵp—roeddwn yn arfer rhedeg grwpiau rheoli dicter neu grwpiau yfed a gyrru, er enghraifft—nid yw swyddogion prawf yn gwneud yr argymhellion hynny bellach am nad oes ganddynt ffydd yn y system. A'r hyn sy'n fwy tebygol o fod yn digwydd wedyn yw bod pobl naill ai'n cael dirwy, neu rhaid iddynt fynd i'r carchar, ac mae mwy o bobl yn mynd i'r carchar yn eu barn hwy. Dyna'r esboniad y maent yn ei roi i mi am y gyfradd garcharu uwch yng Nghymru.
Iawn. Wel, rwy'n siŵr fod honno'n ystyriaeth bwysig iawn, ond ni fyddai'n egluro pam y mae mwy o bobl yn mynd i'r carchar yng Nghymru nag yn Lloegr, oherwydd mae gennych wasanaeth prawf wedi'i breifateiddio yn Lloegr hefyd. Yn ôl fy nealltwriaeth i, mae'n digwydd yn gyffredinol, ond os ydych yn gwybod rhywbeth mwy na hynny, yn amlwg gallwch ddod yn ôl. Beth bynnag, rwy'n credu mai dyma'r math o bethau rydym am i'r comisiwn ar gyfiawnder eu hateb, ac ar hyn o bryd, ni fyddant yn cyflwyno eu hadroddiad tan ddiwedd y flwyddyn. Felly, ni chredaf y gallwn ddyfalu beth y byddant yn ei ddweud.
Mae llawer iawn o'i le, ac mae'n amlwg fod lefelau troseddu parhaus yn drychineb llwyr. Mae'n costio mwy i roi rhywun yn y carchar nag y mae'n ei gostio i'w rhoi yn Claridge's neu rywle felly, ac eto ni ddylem synnu. Mae'r amgylchiadau gorlawn yn magu hunan-niwed, hunanladdiad, ymosodiadau ac anobaith. Mae hynny'n rhywbeth sy'n rhaid inni ei gydnabod. Rhaid inni gydnabod hefyd y gwaith da sy'n digwydd i geisio gostwng lefelau hunan-niweidio, gan gynnwys hunanladdiad, drwy'r sgyrsiau un i un rheolaidd rhwng carcharorion a'r swyddog dynodedig y clywsom amdano yn y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac fel y clywais hefyd, yng ngharchar Caerdydd, pan ymwelais â'r lle yr wythnos diwethaf. Os yw carcharor yn teimlo bod eu cwynion yn cael eu clywed, mae'n amlwg eu bod yn llai tebygol o droi at ffyrdd gwirioneddol anghynhyrchiol o fynegi'r rhwystredigaeth honno. Felly, credaf y dylem ganmol y gwasanaeth carchardai am sefydlu'r math hwnnw o beth.
Hefyd, hoffwn ganmol gwaith yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai yng ngharchar Caerdydd, i wneud y caffi, yr ardal lle mae carcharorion yn cyfarfod a'u teuluoedd, yn llawer mwy cyfeillgar ac yn lle mwy pleserus i fod ynddo, a fydd yn fanteisiol i deuluoedd ac yn fuddiol i'r carcharor. Gwyddom fod lefelau troseddu parhaus yn gostwng yn helaeth os yw carcharorion yn cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd. Ond credaf fod y math o ymatebion a glywsom gan Mark Isherwood yr un math o broblem ag a gawn gyda dadl synhwyrol am y system cyfiawnder troseddol, sy'n cael ei hybu gan y Daily Mail. Ni allwn barhau fel hyn. Ni allwn anfon pobl i'r carchar os na allwn sicrhau, ar yr un pryd, fod y gyfraith yn cael ei gorfodi yn y carchar. Mae'n gwbl annerbyniol fod carcharorion yn gweld eu heiddo'n cael ei ddwyn tra'u bod yn cael eu trosglwyddo o un carchar i'r llall. Mae hynny yn erbyn y gyfraith, a dylid cynnal y gyfraith, mewn carchardai ac—.
Credaf mai un o'r dadleuon mwyaf o blaid rhoi pleidlais i garcharorion yw ei fod yn gorfodi gwleidyddion sy'n gwneud y penderfyniadau am y system i gael llawer mwy o ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd mewn carchardai a'r ffyrdd y mae angen inni ymdrin â hynny er mwyn ei wneud yn rhywbeth llai eithriadol o ddrud nad yw'n cynhyrchu'r canlyniadau a ddymunwn, sef lleihau nifer y bobl sy'n aildroseddu ar ôl eu rhyddhau. Felly, credaf ei bod yn rhy gynnar i ni bleidleisio ar hyn o bryd ynglŷn â sut a pha bryd y dylai carcharorion gael y bleidlais am fod y pwyllgor llywodraeth leol ynghanol ymchwiliad ar y mater pwysig hwn. Ond rydym lle'r ydym, rydym yn cael y ddadl rydym yn ei chael, a chredaf ei bod yn un y mae angen i ni barhau i'w chael.
Yn fy nghyfraniad y prynhawn yma rwyf am dynnu sylw at dair agwedd benodol ar effeithiau'r system bresennol ar y rhai sydd ar hyn o bryd yng ngharchar a chanlyniadau hynny. Rwyf am edrych yn gyntaf ar y gwasanaethau a ddarperir—neu na ddarperir—ar gyfer carcharorion sy'n siarad Cymraeg. Bydd aelodau o'r Siambr wedi gweld adroddiad Comisiynydd y Gymraeg, 'Cymraeg yn y carchar'. Roedd yn ddarn trylwyr iawn o waith, ac roedd yn peri pryder mawr. Gallodd dynnu sylw at y ffaith nad yw'r ddarpariaeth yn gyson. Canfu hyd yn oed fod yna enghreifftiau o garcharorion yn cael gorchymyn i beidio â siarad Cymraeg â'u teuluoedd, ac rwyf wedi dod ar draws sefyllfaoedd yn bersonol lle dywedwyd wrth famau am beidio â siarad Cymraeg â'u plant sy'n siarad Cymraeg pan fydd y plant hynny mor ifanc fel nad ydynt yn siarad Saesneg am eu bod mor fach. Mae hynny'n amlwg yn dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y carcharorion hynny. Mae'n bwysicach yn wir, yn enwedig, fel y noda'r Comisiynydd, am fod gan gynifer o'n carcharorion anawsterau dysgu, efallai fod ganddynt lefelau addysgol isel, efallai fod ganddynt anableddau, ac mae gan lawer ohonynt broblemau iechyd meddwl.
Mae'n amlwg o ganfyddiadau'r adroddiad hwn fod y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i siaradwyr Cymraeg yn annigonol ac yn anghyson, ac o ran carcharorion benywaidd, sydd wedi'u carcharu y tu allan i Gymru, bob un ohonynt, yn aml iawn nid yw'r ddarpariaeth ar gael o gwbl. Rhaid mynd i'r afael â hyn, ac wrth gwrs, cyfrifoldeb cyfreithiol y Gweinidog cyfiawnder a Llywodraeth y DU yw mynd i'r afael â hyn. Mae'n amlwg i mi o adroddiad y comisiynydd eu bod yn methu gwneud hynny.
Lywydd, faint bynnag o unigolion sy'n gweithio yn y system—ac mae'r comisiynydd yn tynnu sylw at rai arferion da, mae'n rhaid dweud—sy'n ceisio diwallu anghenion y carcharorion hyn, nid wyf yn credu eu bod byth yn mynd i'w wneud, ac yn hytrach na cheisio trwsio system sydd wedi torri o dan reolaeth San Steffan, mae hon yn ddadl gref i mi fod angen i'r system cyfiawnder troseddol gael ei rheoli gan y gwleidyddion a etholir gan bobl sy'n siarad Cymraeg a'u teuluoedd, a ni yw'r rheini wrth gwrs. Mae angen datganoli'r system hon.
Rwyf am adeiladu ychydig ar y pwyntiau a wnaed eisoes gan fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, am fenywod sy'n garcharorion. Credaf yn gyntaf fod angen inni roi sylw i'r cwestiwn ynglŷn â pham y caiff menywod eu carcharu fel mater o drefn i'r fath raddau am droseddau y bydd dynion yn cael cosbau cymunedol amdanynt. Credaf ein bod yn gwybod yr ateb i hynny, a chredaf y gwyddom fod ymddygiad troseddol yn cael ei weld gan lawer yn fwy tramgwyddus pan gaiff ei wneud gan fenywod. Mae'n seiliedig ar wahaniaethu ar sail rhyw, ar dybiaethau rhywiaethol ynglŷn â beth sy'n ymddygiad derbyniol gan fenywod. Wyddoch chi, 'Bechgyn yw bechgyn', maent yn ymladd, maent yn cael cosb gymunedol. Mae merched yn ymladd, 'Mae hynny'n warthus; mae'n gwbl gamweddus', ac maent yn debygol o gael dedfryd o garchar. Ac wrth inni ymdrin â'r problemau sy'n ymwneud â'r modd y caiff menywod eu trin yn y system, rhaid inni ei seilio ar y ddealltwriaeth honno o wahaniaethu ar sail rhyw.
Rydym yn gwybod bod yna 227 o fenywod o Gymru ym mis Medi 2017—y ffigurau diweddaraf y gallwn eu cael—yn bwrw dedfryd mewn carchardai yn Lloegr. Mae'r rhan fwyaf o'r menywod hyn yn famau. Felly, dyna o leiaf 200 o deuluoedd Cymru sydd ymhell iawn oddi wrth eu mamau, a gwyddom y gall effeithiau carcharu menywod ar blant a theuluoedd fod yn ddinistriol.
Gwyddom hefyd nad yw'n gweithio, a bod menywod yn mynd yn ôl i garchar, yn aml iawn am beidio â thalu dirwyon, a rhaid rhoi diwedd ar hyn. Mae angen inni edrych ac archwilio agweddau o fewn y system sy'n arwain at garcharu menywod pan na wneir hynny yn achos dynion. Mae arnom angen cyfleusterau ar gyfer carcharorion sy'n fenywod yma yng Nghymru, yn agos at eu teuluoedd. Gwyddom fod hynny'n gwbl hanfodol o ran y tebygolrwydd o allu eu hadsefydlu a'u hailintegreiddio'n llwyddiannus yn y gymdeithas. Credaf fod angen inni drafod a oes arnom angen uned ddiogel fach—a oes arnom angen carchar bach i fenywod yma yng Nghymru ar gyfer y troseddwyr na ellir eu cynnal yn y gymuned. Ond ni ddylai mwyafrif helaeth ein carcharorion sy'n fenywod fod yn y carchar o gwbl, a dylid eu helpu, nid eu cosbi.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn siarad yn fyr am y system cyfiawnder ieuenctid. Rydym wedi trafod hyn yn y Siambr ar sawl achlysur. Rwyf am siarad o berspectif personol iawn, oherwydd bydd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cofio adeg pan oeddwn yn weithredol yn y maes, yn rhedeg prosiect cyfiawnder ieuenctid ar ran Barnardo's. Byddai'r holl bobl ifanc y gweithiem gyda hwy—a dynion ifanc oeddent yn bennaf—wedi cael eu carcharu pe na baent wedi dod atom ni. Ac un o'r pethau rwyf am roi diwedd arno yw'r syniad fod cosbau cymunedol yn rhai hawdd. Nid yw hynny'n wir. Ar nifer o achlysuron pan oeddwn yn gweithio gyda dynion ifanc, er enghraifft, yn dod â hwy wyneb yn wyneb â dioddefwyr eu troseddau, byddent yn gofyn i mi ddweud eu bod yn torri'r amodau a'u hanfon i'r carchar, oherwydd gwyddent sut i ymdopi â charchar. Roedd carchar yn gymharol hawdd. Roedd wynebu'r hyn a wnaethant o'i le a gwneud iawn amdano lawer iawn yn fwy heriol.
Nawr, roedd hwnnw'n brosiect a ymchwiliwyd yn drwyadl iawn, wedi'i ariannu gan Barnardo's a'i ymchwilio gan brifysgolion. Un o bob 10 o'r bobl ifanc hynny a aildroseddodd o gwbl, ac roedd aildroseddau'r rhai a wnaeth lawer yn llai difrifol. Roedd yn ddrud, ond roedd yn llawer rhatach na'u carcharu. Lywydd, rydym wedi gwybod ers 25 mlynedd fod troseddwyr ifanc yn droseddwyr ifanc fel arfer am eu bod yn bobl ifanc mewn trafferthion, ac unwaith eto mae angen inni ymyrryd yn eu bywydau mewn ffordd sy'n eu cefnogi. Oherwydd gwn o brofiad personol—a gallaf weld wynebau'r bobl ifanc hynny heddiw—os ydym yn ymyrryd mewn modd sy'n eu cefnogi, nid yn unig y gallwn newid eu bywydau er gwell, ond gallwn eu hatal rhag aildroseddu. Mae arnom angen dull Cymreig o ymdrin â'n pobl ifanc cythryblus iawn, ac unwaith eto, mae angen inni wneud y penderfyniadau hynny yma.
Rwy'n credu bod pawb ohonom yn rhannu diolch i Ganolfan Llywodraethiant Cymru am y gwaith y maent yn ei wneud yn yr adroddiadau a'r dadansoddiadau a gyhoeddwyd ganddynt, ond hefyd am gyhoeddi ystadegau ar gyfer Cymru a dealltwriaeth o'r ystâd ddiogeledd, a sut y mae'r gwasanaeth carchardai a phrawf yn gweithio ac yn gwasanaethu Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r holl waith hwn yn disgrifio system sy'n methu. Mae'r system yn methu, a'n gwaith ni yma heddiw ac yma yn y lle hwn yw datrys hynny. Rhaid inni ofyn y cwestiwn sylfaenol: pam y mae'r system yn methu a pham y mae'n methu mor gyson a dros amser? Fy ateb i'r cwestiwn hwnnw yw am fod gennym setliad sydd wedi torri. Hyd nes y caiff y setliad ei drwsio, ni allwn ddatrys y problemau sy'n endemig yn y system cyfiawnder troseddol.
Mae awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn perthyn i hanes. Dyna y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yn ei thystiolaeth i Gomisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae'n disgrifio sut y mae'r system—gwaddol derfynol y Deddfau Uno, y Deddfau Uno Tuduraidd—sut y mae heddiw'n creu system sy'n gwneud cam â phobl yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru yn glir iawn, yn y dystiolaeth a roddais i gomisiwn Thomas, yn y dystiolaeth a roddodd y cyn-Brif Weinidog i'r comisiwn, a'r dystiolaeth a roddodd y Cwnsler Cyffredinol, sydd yn ei sedd heddiw, i'r comisiwn—fod y system yn gwneud cam â Chymru, mae'n gwneud cam â phobl Cymru, a bod yn rhaid datganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru. Roeddem yn glir iawn ynglŷn â hynny.
Mae angen inni ddeall gwir oblygiadau hyn. Pe bai awdurdodaeth, a phe bai polisi cyfiawnder troseddol, yn ddim mwy na rhyw fath o bwnc academaidd llychlyd, a dweud y gwir ni fyddai gennyf gymaint â hynny o ddiddordeb yn ei ddatganoli. Oherwydd ei effaith ddynol ar bobl heddiw y cefais fy narbwyllo nad mater pwysig yn unig ydyw, ond mater sy'n rhaid ei ddatrys ar frys. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.
Diolch i Alun Davies. Er eglurder, a gaf fi fod yn glir ein bod yn sôn yma am y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd?
Ydym. Nid wyf yn credu fy mod wedi amodi fy ngeiriau mewn unrhyw ffordd o gwbl. Yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru wedi amodi ei geiriau o gwbl. Yr hyn a ddywedodd Llywodraeth Cymru yw bod yn rhaid gwneud hyn fel rhan o broses. Nid yw wedi amodi ei chefnogaeth i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol.
Mae angen inni ddatganoli ac uno'r maes polisi wedyn. Mae angen inni sicrhau bod gennym ystâd ddiogeledd, fod gennym gefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol, a'n bod yn gallu darparu ymagwedd gyfannol tuag at gyfiawnder troseddol, ac ni allwn wneud hynny ar hyn o bryd. Mae'n debyg mai dyma'r unig faes polisi lle nad yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni eu huchelgeisiau polisi yng Nghymru. Mae'n dipyn o gamp i'r ddwy Lywodraeth fethu cyflawni eu hamcanion polisi.
Roeddwn yn gresynu at naws a chynnwys yr araith gan y llefarydd Ceidwadol yn y ddadl hon y prynhawn yma. Hoffwn ddweud wrtho fod y sgyrsiau a gefais gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gweinidogion y Swyddfa Gartref yn llawer mwy adeiladol nag y cafodd wybodaeth amdanynt o bosibl. Mae'r Gweinidogion yn Llundain—yn San Steffan—yn ymwybodol iawn o ddiffygion y system yng Nghymru ac yn ymwybodol o'r rhesymau am fethiannau'r system hon.
Oni chlywsoch chi fi'n rhoi'r rhan fwyaf o fy araith i restru'r cynlluniau a lansiwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros y blynyddoedd diwethaf i adlewyrchu'r union ganfyddiad hwnnw, nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd?
Maent wedi lansio nifer o gynlluniau dros nifer o flynyddoedd, ond maent yn cydnabod na allant gyflawni eu hamcanion polisi drwy'r cynlluniau hynny yng Nghymru am nad oes gennym setliad sy'n eu galluogi i wneud hynny. Maent yn ymwybodol iawn na ellir cyrraedd eu hamcanion o dan y setliad presennol—maent yn ymwybodol iawn o hynny.
Felly, mae angen inni ddylunio system sy'n diwallu anghenion Cymru. Mae angen inni sicrhau bod iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn rhan o'r hyn a wnawn ar draws y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd. Mae angen inni fynd i'r afael â'r sefyllfa warthus sy'n wynebu menywod a phobl ifanc, ond mae angen inni fynd i'r afael â'r ystâd ar gyfer dynion yn ogystal. Fel y mae ar hyn o bryd, nid yw'r ystâd yn addas at y diben, ac mae angen inni ddeall bod angen inni fuddsoddi yn yr ystâd gyfan. Mae angen inni greu carchardai bach lleol gydag adsefydlu ac ailadeiladu bywydau yn ganolog iddynt. Mae angen inni sicrhau bod y penderfyniadau a wneir heddiw ynglŷn â'r gwasanaeth prawf yn cael eu gweithredu yn y dyfodol.
Ond nid oes dim o hyn yn bosibl heb ddatganoli'r system. Rwy'n gresynu at y ffaith bod y Llywodraeth wedi ceisio diwygio cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma—credaf fod hynny'n gamgymeriad. Byddai wedi bod yn well i'r Llywodraeth gefnogi cynnig Plaid Cymru. Rwy'n awyddus i glywed esboniad y Gweinidog ynglŷn â pham ei bod yn ceisio newid y cynnig heddiw. Fe fyddaf yn glir iawn hefyd: nid wyf am gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, oherwydd credaf ei fod yn creu amwysedd mewn maes lle mae'r Llywodraeth wedi bod yn glir iawn.
Hoffwn orffen drwy ddweud hyn:
Mae pob ymgeisydd ar gyfer rôl y Prif Weinidog yn cytuno y dylid datganoli cyfiawnder. Dyma farn y grŵp Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae fy nghyd-Aelodau'n rhannu'r un farn â mi.
Dyna Carwyn Jones, fel Prif Weinidog Cymru, yn rhoi tystiolaeth i'r comisiwn cyfiawnder ym mis Tachwedd y llynedd. Gobeithio y bydd y Gweinidog yr un mor bendant yn ei hymateb y prynhawn yma, oherwydd rydym yn gwneud cam â phobl heddiw ac rydym yn gwneud cam â phobl yfory. Oni fyddwn yn barod i wneud y penderfyniadau anodd a buddsoddi ym mhobl y wlad hon yn y system cyfiawnder troseddol, byddwn ninnau hefyd yn euog o'r un methiannau y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn llywyddu drostynt. Nid wyf yn dymuno bod yn rhan o hynny. Fel Gweinidog yn y Llywodraeth hon, ceisiais fabwysiadu ymagwedd radical tuag at sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i bawb. Ni allwn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol oni bai ein bod yn cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol ac yn buddsoddi yn y bobl sy'n rhan o'r system honno.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwif i gyfrannu—Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl ar y materion pwysig hyn. Mae cyhoeddi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru', yn amserol iawn, ac yn adeiladu ar eu hadroddiad cynharach, a gyhoeddwyd yn yr haf y llynedd, sef 'Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau'. Wrth gwrs, bydd canfyddiadau'r adroddiad hwn gan y ganolfan llywodraethiant yn ein cynorthwyo i sefydlu darlun cliriach eto o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.
Mae'r adroddiad wedi tynnu sylw pellach hefyd at bwysigrwydd yr angen am ddata sy'n benodol i Gymru er mwyn deall polisi ac ymarfer cyfiawnder. Trafodais hynny gyda Dr Robert Jones pan gyfarfûm ag ef ar ôl cyhoeddi ei adroddiad. Roeddwn yn eu cymeradwyo—y ganolfan a Robert Jones—am eu gwaith ac am yr ymgysylltiad parhaus sydd gan y ganolfan llywodraethiant â Llywodraeth Cymru. Achubais ar y cyfle hefyd i ddweud fy mod yn gwerthfawrogi'r briff ar y gwaith pwysig y bu'n ei wneud, gan gynnwys briff ar fy nghyfer ar yr ymchwil y maent yn ei wneud ar gyfer y comisiwn cyfiawnder.
Hoffwn wneud sylwadau ar yr amrywiaeth eang o bwyntiau polisi a godir yn y cynnig heddiw. Rwyf innau hefyd yn gweld yr angen am fath gwahanol o system cyfiawnder troseddol yng Nghymru sydd wedi'i wreiddio mewn adsefydlu ac yn y gymuned, fel y dynoda'r cynnig ac fel a fynegwyd yn y Siambr heddiw. Mae angen inni gael gwell dealltwriaeth o pam y mae pobl yn cael eu carcharu a beth y gallem ei wneud i'w hatal rhag mynd i'r carchar, am ddedfrydau byr yn aml, sydd, fel y dywedwyd, yn gallu cael effaith ddinistriol ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd a'u cymunedau.
Rydym yn cydnabod yr angen i amddiffyn ein cymunedau rhag niwed a lle na allwn droi pobl oddi wrth droseddu yn y lle cyntaf, rhaid inni sicrhau bod popeth a wnawn yn digwydd mewn ffordd gyfannol a ffordd sy'n adsefydlu. Nid ydym yn credu mai adeiladu mwy o leoedd carchar yw'r ffordd gywir o ddatrys yr argyfwng yn ein system cyfiawnder troseddol. Mae'n amlwg fod gwahaniaeth rhwng dymuno mabwysiadu dull gwahanol o wella cyfleusterau a dymuno adeiladu cyfleusterau ychwanegol. Rydym am weld gwelliant yn safon a chyflwr yr ystâd ddiogeledd bresennol. Nid ydym am weld cynnydd yn nifer y carchardai na lleoedd carchar yng Nghymru.
Wrth gwrs, nid yw gwasanaethau'n dod i ben wrth giât y carchar pan fydd unigolyn yn gadael carchar, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl gefnogol i ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru. Mae camau calonogol ar y gweill mewn perthynas â'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, ond rhaid inni fynd ymhellach. Dyma ein cyfle i lywio cyfeiriad gwasanaethau prawf, ac mae angen iddynt fod yn hyblyg ac yn arloesol o ran eu dull o ateb anghenion unigolion, gan eu helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau a chynnal sefydlogrwydd o fewn eu cymunedau. Byddai Leanne Wood yn falch o glywed, rwy'n siŵr, y byddaf yn cyfarfod â Napo yfory i drafod y materion hyn, oherwydd eu bod mor berthnasol ac allweddol, ac mae'r ddadl hon, fel y dywedais, yn amserol iawn.
Ni allwn ddechrau mynd i'r afael â'r drws troi wrth i bobl ddychwelyd i garchar yn rheolaidd heb sicrhau bod modd darparu'r lefel gywir o gefnogaeth ar ôl eu rhyddhau—gan gynnwys tai priodol, darpariaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac anogaeth i gael mynediad at addysg a sgiliau er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd gwaith. Felly, hoffwn annog a chefnogi unrhyw gynigion i roi diwedd ar, neu gyfyngu ar y defnydd o ddedfrydau tymor byr. Nid oes fawr o bwrpas os o gwbl i brosesau costus mewn perthynas ag adsefydlu, ond fel y dywedais, gall gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl.
Gan droi at faterion polisi eraill yn y cynnig—hawl carcharorion i bleidleisio yn etholiadau Cymru. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ystyried opsiynau ar gyfer ymestyn hawliau i garcharorion gael pleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol Cymru ac rydym wedi ymgynghori ar becyn o gynigion o ran diwygio etholiadol gyda golwg ar gyflwyno Bil yn ddiweddarach eleni. Ond wrth gwrs, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dan gadeiryddiaeth John Griffiths, yn cynnal ymchwiliad ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Rwy'n falch fod y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried a ddylid rhoi'r hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru i bob carcharor neu a ddylid gwahaniaethu rhwng gwahanol gategorïau o garcharor. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o hawl i bleidleisio ar gyfer carcharorion ond mae'n aros i weld canfyddiadau'r pwyllgor.
Mae arnaf eisiau gwneud pwynt cryf hefyd ynglŷn â menywod a'r system cyfiawnder troseddol. Roedd yr ystadegau'n codi arswyd arnaf—a Helen Mary yn ogystal ag Alun Davies ac eraill ar y pwynt hwn. Rwy'n cefnogi'r egwyddor a nodir yn gryf, a bydd llawer ohonoch yn cofio adroddiad arloesol y Farwnes Jean Corston ar y mater hwn. Dros 10 mlynedd ers hynny, mae'r egwyddorion hyn a amlinellwyd ganddi yn aros yr un fath. Mae'n amlwg fod menywod yn cael eu hanfon i'r carchar am droseddau diannod lefel isel yn aml. Diolch i chi am eich sylwadau heddiw ar y mater hwn.
O ganlyniad, gall defnydd aneffeithiol o ddedfrydau byr o garchar i fenywod nad ydynt wedi cyflawni troseddau difrifol effeithio'n drychinebus arnynt hwy ac ar eu teuluoedd. Nid yw dedfrydau byr yn galluogi adsefydlu yn ei ystyr lawnaf, oherwydd, yn amlwg, yn aml nid ydynt yn y carchar yn ddigon hir i allu cwblhau rhaglenni neu ddechrau rhaglenni hyd yn oed a allai fod yn fuddiol o ran addysg ac adsefydlu.
Ar yr un pryd, bydd plant menywod sy'n bwrw dedfryd o garchar yn dioddef yn eu tro. Fel y mae adroddiad yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, 'What about me?', a gyhoeddwyd y llynedd yn ei ddweud, 5 y cant yn unig o'r plant sydd â mamau yn y carchar sy'n gallu aros yn y cartref teuluol. Mae effeithiau mwy hirdymor carcharu menywod yn bellgyrhaeddol ac mae'n rhaid eu hystyried o ddifrif. Felly, dylid croesawu unrhyw gynnig i leihau effaith carcharu ar fenywod.
Hefyd, hoffwn ddiolch i Alun Davies, fy rhagflaenydd, am y gwaith a wnaeth yn y maes polisi allweddol hwn, a'r ymrwymiad a wnaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn ar draws yr ystod lawn o agweddau sy'n codi yn y ddadl hon, ac sydd wedi cael croeso eang. Mae angen inni sicrhau, ar ran menywod Cymru, fod ganddynt gyfleusterau diogel sy'n addas at y diben, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu'r glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd yng Nghymru. Cafodd ei gyhoeddi gan Alun ym mis Rhagfyr y llynedd. Fe'i datblygwyd ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a bydd hwnnw'n helpu i nodi'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer darparu gwasanaethau system cyfiawnder priodol ar gyfer menywod yng Nghymru.
Felly, Lywydd, mae'n bwysig dweud wrth amlinellu ei brif flaenoriaethau ar gyfer diwygio—a gwnaeth hynny yn ei sesiwn gwestiynau gyntaf fel Prif Weinidog—fod y Prif Weinidog wedi nodi'r blaenoriaethau uniongyrchol fod cyfiawnder ieuenctid a throseddu ymysg menywod yn feysydd rydym yn gweithio arnynt gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, drwy'r glasbrintiau a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, er mwyn gweld pa gynnydd y gallwn ei wneud o fewn cyfyngiadau'r setliad datganoli presennol. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu'r comisiwn i gadarnhau ei barn ei hun; mae'n annibynnol ac mae ganddo arbenigedd mawr ym mhob un o'r meysydd y mae'n ymchwilio iddynt. Gosodwyd ein gwelliant er mwyn cydnabod gwaith pwysig comisiwn Thomas, ac wrth gwrs, mae pawb ohonom ar draws y Siambr yn edrych ymlaen at y casgliadau a'r argymhellion y bydd yn eu darparu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun.
Diolch yn fawr iawn am gymryd ymyriad, a'i ddiben yw ychwanegu at y sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Flaenau Gwent sy'n eistedd y tu ôl ichi, mewn gwirionedd. Os yw'n uchelgais gwleidyddol go iawn gennych i symud tuag at ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yn llawn, na, nid ydych yn bwriadu ei wneud mewn ffordd sy'n ein bodloni o ran cyflymder y newid, ond pam na wnewch chi benderfynu cefnogi ein cynnig fel y mae ar y cam hwyr hwn er mwyn dangos bod undod yma ar y cyfeiriad teithio, a ble rydym eisiau cyrraedd yn y pen draw?
Wel, rwy'n credu bod diben ein gwelliant yn gyfan gwbl gadarnhaol ac adeiladol yn fy marn i o ran cydnabod y bydd yn llywio'r cyfeiriad teithio, a chredaf ein bod yn gytûn ar hwnnw; rydym wedi cefnogi cymaint o'r pwyntiau yn eich cynnig. Ond a gaf fi ddweud, Rhun, o ran y comisiwn, fel y dywedodd Alun Davies, ein bod wedi cyflwyno corff sylweddol o dystiolaeth—roedd Alun yn rhan o'r tîm gweinidogol—fe gynhyrchwyd papur trosolwg o'r dystiolaeth gennym, ac wrth gwrs, caiff ei ategu gan bapurau eraill, a llwyddasom i edrych ar yr ystod gyfan—cyfiawnder teuluol, y sector cyfreithiol, awdurdodaeth. Mae hyn yn cwmpasu'r holl bwyntiau hynny, a hefyd addysg a chyflogaeth dioddefwyr a throseddwyr—ystod eang o dystiolaeth.
Diolch i chi. Roedd y dystiolaeth a gynigiodd Llywodraeth Cymru i gomisiwn Thomas yn glir iawn. Roedd yn ystyried bod yr awdurdodaeth yn grair o'r adegau a fu ac yn rhwystr rhag cyflawni cyfiawnder cymdeithasol yn y wlad hon heddiw. A wnewch chi ddatgan yn ddigamsyniol yn awr eich bod yn glynu wrth y dystiolaeth honno—tystiolaeth y Cwnsler Cyffredinol, y dystiolaeth a roddais fel Ysgrifennydd Cabinet, tystiolaeth y cyn-Brif Weinidog? Rhaid imi ddweud—rwy'n ailadrodd—mai camgymeriad oedd y gwelliant gan y Llywodraeth. Fel plaid ac fel grŵp rydym yn cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol. Nid wyf yn deall pam y mae'r Llywodraeth yn ceisio dileu'r un frawddeg honno o'r cynnig y prynhawn yma. A wnewch chi ddatgan yn ddiamwys eich bod yn cefnogi datganoli cyfiawnder troseddol?
Wel, Alun, fel roeddwn yn ailadrodd dyfnder ac ehangder y dystiolaeth a roesoch fel rhan o'r tîm hwnnw a roddodd y dystiolaeth, gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r cyn-Brif Weinidog—wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn glynu wrth y dystiolaeth a roesoch. Rwy'n rhoi fy ymrwymiad i chi ar hynny, ond wrth gwrs, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar y comisiwn cyfiawnder. Roedd ein gwelliant i fod yn adeiladol a defnyddiol i'n symud ymlaen, oherwydd mae'r materion a godwyd yn y cynnig gan Blaid Cymru yn hollbwysig, ond credaf eu bod yn ffurfio rhan o ddarlun ehangach roedd yr Arglwydd Thomas yn chwilio amdano.
Felly, i gloi, rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae'n ddadl y gobeithiaf y byddwn yn cael llawer iawn mwy ohonynt, a byddant yn ddadleuon ac yn ddatganiadau a gyflwynir gan y Llywodraeth er mwyn inni ddatblygu'r daith hon rydym arni gyda'n gilydd o ran datganoli cyfiawnder troseddol. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig am y ddadl hon—gadewch inni fynd yn ôl at pam rydym yn gwneud—
Na, na, gadewch i ni beidio â mynd yn ôl—
Un gair yn unig—
Rwyf wedi bod yn oddefgar iawn. Mae angen i chi ddod i ben.
A gawn ni groesawu adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar ddedfrydu a dalfa fel adroddiad pwysig iawn i ni yma yng Nghymru heddiw?
Leanne Wood i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Carwn ddiolch i'r holl Aelodau bron am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Nid wyf am roi sylw i ddadl UKIP, gan nad oedd y rhan fwyaf o'r pwyntiau'n gwneud unrhyw synnwyr nac wedi'u cefnogi gan ffeithiau—newyddion ffug oedd yn llywio'r rhan fwyaf ohonynt rwy'n credu. Os ydynt yn credu o ddifrif fod ethnigrwydd a chenedligrwydd yn gysylltiedig â chyfraddau troseddu, tybed a ydynt yn gweld paralelau hanesyddol safbwynt o'r fath. Roedd eich cyfraniad yn hiliol, hiliol, hiliol, hiliol.
Nid oeddwn yn synnu clywed y Torïaid yn ceisio cyfiawnhau eu polisi cyfiawnder troseddol trychinebus. Mae'r llinell wych honno, 'nid yw troseddu'n adnabod unrhyw ffiniau' yn enghraifft glasurol gan blaid Brexit. Pam na chawn ni heddlu Ewropeaidd felly, carchardai Ewropeaidd, system cyfiawnder troseddol Ewropeaidd? A na, nid ydym yn gwrthwynebu cael carchardai—rydym yn gwrthwynebu cael carchardai enfawr, rydym yn gwrthwynebu cael lleoedd carchar nad oes mo'u hangen ar ein gwlad. Wrth gwrs bod angen moderneiddio ein hystâd carchardai, ond rydym yn dadlau o blaid datganoli'r system cyfiawnder troseddol fel y gallwn wneud carchardai mewn ffordd wahanol—mwy o adsefydlu, unedau llai o faint ar gyfer y bobl a ddylai fod yno. Ond yn gyffredinol, dylai fod yn nod polisi gennym i leihau poblogaeth y carchardai a defnyddio dedfrydau sy'n fwy cymunedol, ac sy'n ennyn hyder pawb ohonom.
Disgrifiodd Bethan Sayed beth yn union oedd yr ymgyrch yn erbyn carchar ym Maglan. Gosododd y mater yng nghyd-destun blaenoriaethau buddsoddi mewn seilwaith ehangach hefyd. Mae pobl ym Mhort Talbot wedi cymryd rhan yn y ddadl ynglŷn â sut y dylid datblygu ein system cyfiawnder troseddol yn y dyfodol. Nawr, mae angen i Gymru gyfan gymryd rhan yn y ddadl. Oherwydd yr hyn a wyddom yw bod dioddefwyr torseddau, pan ofynnir iddynt beth y maent eu eisiau, dro ar ôl tro yn dweud eu bod am atal y troseddwr rhag aildroseddu. A beth yw'r ffordd orau o wneud hynny? Rhoi mwy o bobl yn y carchar? Na, mae'n well adsefydlu yn y gymuned, ac mae'r ymchwil yn gwbl glir ar y pwynt hwnnw.
Gofynnodd Jenny Rathbone am y rhesymau dros y ffigurau carcharu uchel ar gyfer Cymru, ac rwyf wedi esbonio beth yw eglurhad Napo ar hynny. Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod lefelau uwch o amddifadedd yng Nghymru yn effeithio ar hynny hefyd.
Ar fater pleidleisiau i garcharorion, rydym yn falch fod Llafur yn cefnogi'r alwad hon. Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei rhwymedigaethau hawliau dynol yn y maes hwn yn unol â safonau rhyngwladol. Rydym yn cytuno gyda dyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop nad oes unrhyw le i ddifreinio pob carcharor yn awtomatig. Gellir rhoi ystyriaeth bellach i'r angen am osod cyfyngiadau ar hyn, ac edrychaf ymlaen at barhau gyda'r ymchwiliad ac ystyried y pwynt hwnnw ymhellach.
Diolch i Helen Mary am amlinellu mor glir anghenion siaradwyr Cymraeg a'r gwahaniaethu sy'n wynebu menywod yn y system. Rhaid inni newid yr hyn a wnawn gyda'r holl droseddwyr, ond i fenywod a phobl ifanc, mae bellach yn fater o frys. Yn fy marn i, nid oes angen carchar i fenywod yng Nghymru. Mae angen inni fabwysiadu agwedd gwbl wahanol os ydym am weld canlyniadau gwahanol, a gwnaeth y pwynt yn rymus y gall dedfrydau cymunedol fod yn llym. Gallant fod yn llym iawn. Yn fy mhrofiad i fel swyddog prawf, roedd gweld cleientiaid yn crio yn yr ystafell yn erfyn am gael eu hanfon yn ôl i'r carchar yn cyd-fynd yn llwyr â'r pwynt a wnaeth, ond mae'n dangos pa mor galed y gall dedfrydau cymunedol fod.
Ydy, Alun Davies, mae'r system yn methu ac yn methu'n wael a dyna pam y bu Plaid Cymru'n ymgyrchu dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd ers degawdau bellach. Ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ymuno â ni. Ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn llawn, oherwydd fel y nodwyd gennych, mae gwelliant y Llywodraeth yn dileu'r rhan honno o'n cynnig. A mawr obeithiaf y bydd yr Aelodau Llafur sydd am weld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli'n llawn yn pleidleisio'n unol â hynny heddiw. Gadewch i ni weld.
Mae'n siomedig, er hynny, na chawsom esboniad digonol gan y Gweinidog ynglŷn â pham na allent ein cefnogi ar y pwynt hwn, yn enwedig yng ngoleuni cyfraniad Alun Davies. Nid yw'n welliant adeiladol na defnyddiol, Weinidog, a chredaf y dylech bleidleisio yn ei erbyn.
Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedoch chi am y gwasanaeth prawf, ac edrychaf ymlaen at drafod hynny ymhellach gyda chi. Mae'n rhaid inni roi diwedd ar breifateiddio gwaith di-dâl a gwaith grŵp, yn ogystal â goruchwyliaeth un i un. Deallaf nad yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eisiau ailwladoli'r elfennau hynny, a'u bod am eu cadw mewn dwylo preifat, felly rwy'n gobeithio y gallwch gael rhywfaint o ddylanwad ar y pwynt hwnnw.
Mae'n amlwg o'r ddadl hon fod y rhan fwyaf o'r Aelodau yn derbyn bod y system yn gwneud cam â phawb. Rhaid inni fod yn barod i wneud pethau'n wahanol, ac ni allwn wneud hynny heb fod gennym reolaeth dros yr ysgogiadau polisi perthnasol. Ni allwn barhau i ohirio hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.