Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 30 Ionawr 2019.
Yn fy marn i, yr hyn roedd a wnelo'r carchar arfaethedig ym Mhort Talbot mewn gwirionedd oedd Llywodraeth yn San Steffan a oedd wedi methu buddsoddi yng Nghymru, a oedd wedi canslo prosiectau seilwaith mawr neu wedi methu cefnogi rhai eraill. Roedd yn enghraifft arall o Lywodraeth San Steffan yn credu y byddai Cymru, gyda'i heconomi wastad, yn bachu'r cyfle i gael y gobaith lleiaf o fuddsoddiad, ni waeth beth oedd y buddsoddiad hwnnw neu beth oedd ei oblygiadau. Rydym yn haeddu gwell na hynny nawr ac roeddem yn haeddu gwell pan oedd yr ymgyrch ar ei hanterth. Hefyd, rhaid imi ddweud bod Llywodraeth Cymru ar y dechrau wedi neidio at y posibilrwydd o garchar; rwy'n cofio geiriau Carwyn Jones pan oedd yn Brif Weinidog. Felly, rwy'n falch iawn fod Alun Davies, sy'n Aelod o'r meinciau cefn bellach, ond a oedd yn Weinidog ar y pryd, wedi newid ei feddwl ar hynny ac yn cyflwyno rhai syniadau blaengar iawn.
Yr hyn oedd y carchar hwn i ni, a'r hyn y daeth i olygu i lawer a gymerodd ran yn ymgyrch y carchar oedd sgwrs am ein dyfodol a sut rydym yn ymdrin â materion ehangach yn ymwneud â chyfiawnder troseddol. A yw'n iawn fod Gweinidog yn Lloegr yn penderfynu ar dynged carcharorion Cymru? A yw'n iawn, er gwaethaf 20 mlynedd o ddatganoli a chorff cynyddol o gyfraith Gymreig, nad oes gennym lais dros yr elfen bolisi enfawr a chynyddol bwysig hon? A yw'n iawn fod carcharorion Cymru'n cael eu hanfon i garchardai yn Lloegr a bod carcharorion Lloegr yn cael eu cadw yma yng Nghymru? Ac wrth gwrs, y cwestiwn ehangach: pam rydym yn dal i ddilyn trywydd o garcharu ar raddfa fawr yn hytrach na chael sgwrs ynglŷn â pham rydym yn anfon pobl i'r carchar yn y lle cyntaf, pwy ddylai fod yn y carchar mewn gwirionedd a sut y mae angen inni ganolbwyntio ar eu hanghenion adsefydlu? Cawsom lawer o'r trafodaethau hynny fel rhan o'r ymgyrch ym Mhort Talbot a dangoswyd, yn groes i'r hyn y byddai rhai pobl yn ei feddwl o bosibl, nad oes cefnogaeth mor eang i'r farn y mae UKIP yn ei harddel—yr ymagwedd 'taflu'r allwedd' a allai fod gan rai pobl. A yw pobl yn credu y dylai'r rheini a geir yn euog o drosedd gael eu cosbi? Ydynt. Ac rydym ni'n credu hynny hefyd; nid ydym yn credu mewn peidio â chael carchardai—byddai hynny'n gwbl hurt. Ond mae yna wir ddealltwriaeth ac awydd i sicrhau y rhoddir cyfle i rai a geir yn euog o droseddau llai difrifol allu newid eu bywydau a chywiro eu camgymeriadau mewn modd gweddus.
Rhaid inni fod yn wyliadwrus, er hynny, gan fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dal i ymchwilio i'r posibilrwydd o garchar mawr newydd yn ne Cymru. Mae'r ddadl yn aros, fel y gwnaeth ym Mhort Talbot, nad oes angen carchar arall yn ne Cymru. Ac rwy'n credu bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwneud cam â hi ei hun yn y modd y mae'n synied am wleidyddion Cymru, oherwydd nid yw symud i ardal arall o dde Cymru'n golygu nad ydym yn mynd i ymgyrchu, nid yw'n golygu nad ydynt yn mynd i wynebu gwrthwynebiad lleol; byddwn yn mynd â'r ymgyrch at y gymuned honno, lle bynnag y bo, ni waeth a fyddaf yn cynrychioli'r ardal honno ai peidio, oherwydd nid ydym eisiau'r carchar hwnnw yma yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn nodi hynny.
Rwy'n credu bod safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn yn seiliedig ar y syniad o fwy o'r un peth. Maent yn arddel safbwynt nad yw o ddifrif ynglŷn â diwygio, sy'n ceisio darparu cyfiawnder ac adsefydlu'n rhad, cloi pobl mewn carchardai mawr heb ddigon o adnoddau, ac maent yn gwneud hynny oherwydd mae'r staff yno wedi dweud wrthym. Mae chwythwyr chwiban wedi dod atom ac wedi dweud mai dyna beth sy'n digwydd. O dan yr amgylchiadau hynny, nid yw'n syndod fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried adeiladu mwy o garchardai.
Felly, mae ein safbwynt ni'n wahanol, fel y soniodd Leanne Wood yn gynharach, ac rydym yn dadlau'n gryf, drwy newid ffocws y ffordd rydym yn trin pobl a gafwyd yn euog, drwy drawsnewid cyfreithiau dedfrydu a pholisi cosbi a thrwy ailwladoli ac ailflaenoriaethu prawf ac adsefydlu, y gallwn dorri a lleihau'r galw am leoedd mewn carchardai. Nawr, nid oes llawer o amser gennyf yn weddill, ond hoffwn orffen drwy geisio ailddeall, efallai, beth y mae sgwrs ystyrlon â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei olygu mewn gwirionedd. Nid oeddwn yn ei ddeall o dan y Gweinidog arall ac rwy'n dal i fethu deall beth y mae'n ei olygu. Mae angen eglurhad ar—os mai'r polisi yw peidio â chael rhagor o garchardai yma yng Nghymru, pryd a beth fydd y sgyrsiau ystyrlon hynny â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i newid eich meddwl. Beth sydd ei angen i Lywodraeth Cymru newid eich meddwl ar rai o'r materion allweddol hyn o egwyddor mewn perthynas â'r hyn rydym am ei wneud â dyfodol ein system cyfiawnder troseddol? Os caf yr eglurder hwnnw yma heddiw, byddaf yn falch iawn, ond rwy'n ddiolchgar ein bod yn parhau gyda'r ddadl hon ac y gallwn ymdrin â rhai o'r materion hyn, gobeithio, mewn ffordd flaengar.