7. Dadl Plaid Cymru: Carchardai a Chyfiawnder Troseddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:37, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

—nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriadau, diolch—wedi'i achosi'n rhannol, wrth gwrs, gan fewnfudo ar raddfa fawr, ac wrth gwrs, oherwydd nad oes gan y Swyddfa Gartref lawer o ddewis mwyach dros bwy sy'n cael dod i ymgartrefu yn y wlad, mae llawer o droseddwyr tramor, yn enwedig o ddwyrain Ewrop, wedi bachu ar y cyfle i ymgartrefu yma a pharhau â'u gyrfaoedd troseddol yn y DU. Felly, mae gennym ffigur fod 11 y cant o'r holl garcharorion yng Nghymru a Lloegr bellach yn wladolion tramor.