Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch, Lywydd. Fel y clywsom, gwelodd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru' mai Cymru sydd â'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, ac er bod cyfanswm y dedfrydau o garchar yng Nghymru wedi codi rhwng 2010 a 2017, gwelwyd gostyngiad o 16 y cant yn Lloegr. Dywedodd awduron yr adroddiad fod angen ymchwil ehangach i esbonio'r gyfradd garcharu uchel yng Nghymru, ac mae hyn yn arbennig o berthnasol o gofio bod llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr a chyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu eisoes wedi'u datganoli. Mae'r gwahaniaeth mawr yn y dull o weithredu o fewn yr hyn sy'n system cyfiawnder troseddol a rennir yn rhoi rheswm arall pam na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli cyfiawnder troseddol. Mae'r galwadau hyn hefyd yn parhau i fethu cydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol a bod 40 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr a bod 90 y cant yn byw o fewn 50 milltir i'r ffin honno. Fel y nododd y cyn-Brif Weinidog hefyd, gallai troseddwyr peryglus ddal i gael eu hanfon ledled y DU ar ôl datganoli yn sgil y diffyg carchardai categori A yng Nghymru. O ddarllen cynnig rhithwir Plaid Cymru, ni fyddech yn gwybod bod Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU yn canolbwyntio ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau cyfraddau aildroseddu yng Nghymru a Lloegr. Felly rwy'n cynnig gwelliant 2.
Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn gyson fod y gyfran o garcharorion sy'n aildroseddu ar ôl eu rhyddhau yng Nghymru a Lloegr yn rhy uchel. Fis Awst diwethaf, bûm mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Wrecsam gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru i drafod y papur 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder', a fydd yn dod â'r holl wasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru o fewn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol o 2020 ymlaen. Bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru yn ystyried opsiynau ar gyfer comisiynu gwasanaethau adsefydlu megis ymyriadau a chynlluniau gwneud iawn â'r gymuned. Byddant yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddynt eisoes yng Nghymru drwy eu cyfarwyddiaeth carchardai a phrawf sefydledig a phartneriaethau lleol presennol llwyddiannus, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well.
Nid ymwneud â chynyddu capasiti y mae diwygiadau Llywodraeth y DU i'r system garchardai, ond yn hytrach ag adnewyddu carchardai sy'n heneiddio ac sy'n aneffeithiol drwy godi adeiladau addas ar gyfer gofynion heddiw. Nid un model o garchar mawr a geir. Carchar Berwyn Wrecsam yw'r cyfleuster carchar cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gael ei ddynodi'n garchar adsefydlu. Mae'n garchar hyfforddi ac adsefydlu sydd wedi'i rannu'n dri thŷ, gyda phob un wedi'i rannu'n wyth cymuned, yn ogystal ag uned gofal a chymorth. Yn dilyn ei ymweliad diweddar â Berwyn, dywedodd AS Llafur Wrecsam ei fod yn falch iawn fod yna arwyddion adeiladol ar gyfer y dyfodol.
Mae canllawiau dedfrydu eisoes yn datgan—[Torri ar draws.]—eisoes yn datgan na fydd dedfrydau o garchar ond yn cael eu rhoi i droseddwyr ifanc yn yr achosion mwyaf difrifol. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwrthod carchardai cymunedol ar gyfer menywod yng Nghymru a Lloegr ac yn lle hynny byddant yn treialu pum canolfan breswyl i helpu troseddwyr sy'n fenywod gyda materion fel dod o hyd i waith ac adsefydlu yn sgil troseddau cyffuriau yn y gymuned. Eisoes hefyd, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gweithio ar wahardd dedfrydau byr o garchar yng Nghymru a Lloegr, gyda Gweinidogion yn datgan bod cyfnodau byr o garchar yn llai effeithiol o ran lleihau aildroseddu na chosbau cymunedol, a bod dedfrydau o'r fath yn ddigon hir i niweidio a heb fod yn ddigon hir i wella.
Ni sonnir am alwad Plaid Cymru, a gaiff ei hadleisio gan Weinidogion Llafur, i garcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru yn y naill na'r llall o'u maniffestos yn 2016. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i hawliau pleidleisio ar gyfer carcharorion, a bydd unrhyw gefnogaeth i'r cynnig heddiw yn achub y blaen ar ein canfyddiadau. Yn nhrafodaeth ar-lein y pwyllgor, 24 y cant yn unig a oedd o'r farn y dylai'r holl garcharorion gael pleidleisio. Mewn arolwg YouGov yn 2017, 9 y cant yn unig o bobl Cymru a ddywedodd y dylai pob carcharor gael pleidleisio. Mae peidio â phleidleisio yn un o ffeithiau bywyd sy'n deillio o fod yn y carchar, gan adlewyrchu penderfyniad y gymuned nad yw'r unigolyn dan sylw yn addas i gymryd rhan ym mhroses y gymuned o wneud penderfyniadau.
Rhaid inni roi blaenoriaeth i hawliau dynol dioddefwyr sy'n dioddef dan law llofruddion, terfysgwyr, treiswyr a phedoffiliaid. Ni farnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop y dylid rhoi hawliau pleidleisio i bob carcharor, a derbyniwyd cyfaddawd gan Lywodraeth y DU ar hyn eisoes. Dylai unrhyw ystyriaeth y tu hwnt i hyn ganolbwyntio ar yr achos dros ganiatáu i garcharorion bleidleisio fel rhan o'u proses adsefydlu i baratoi ar gyfer ailymuno â'r gymdeithas ehangach. Yn hytrach na'r model o'r brig i lawr a argymhellir gan y cynnig hwn, dylid rhoi sylw cyson i'r hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd angen inni ei wneud yn wahanol er mwyn cynllunio'r system tuag yn ôl. Diolch yn fawr.