Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 30 Ionawr 2019.
Rydym yn cydnabod yr angen i amddiffyn ein cymunedau rhag niwed a lle na allwn droi pobl oddi wrth droseddu yn y lle cyntaf, rhaid inni sicrhau bod popeth a wnawn yn digwydd mewn ffordd gyfannol a ffordd sy'n adsefydlu. Nid ydym yn credu mai adeiladu mwy o leoedd carchar yw'r ffordd gywir o ddatrys yr argyfwng yn ein system cyfiawnder troseddol. Mae'n amlwg fod gwahaniaeth rhwng dymuno mabwysiadu dull gwahanol o wella cyfleusterau a dymuno adeiladu cyfleusterau ychwanegol. Rydym am weld gwelliant yn safon a chyflwr yr ystâd ddiogeledd bresennol. Nid ydym am weld cynnydd yn nifer y carchardai na lleoedd carchar yng Nghymru.
Wrth gwrs, nid yw gwasanaethau'n dod i ben wrth giât y carchar pan fydd unigolyn yn gadael carchar, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl gefnogol i ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru. Mae camau calonogol ar y gweill mewn perthynas â'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, ond rhaid inni fynd ymhellach. Dyma ein cyfle i lywio cyfeiriad gwasanaethau prawf, ac mae angen iddynt fod yn hyblyg ac yn arloesol o ran eu dull o ateb anghenion unigolion, gan eu helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau a chynnal sefydlogrwydd o fewn eu cymunedau. Byddai Leanne Wood yn falch o glywed, rwy'n siŵr, y byddaf yn cyfarfod â Napo yfory i drafod y materion hyn, oherwydd eu bod mor berthnasol ac allweddol, ac mae'r ddadl hon, fel y dywedais, yn amserol iawn.
Ni allwn ddechrau mynd i'r afael â'r drws troi wrth i bobl ddychwelyd i garchar yn rheolaidd heb sicrhau bod modd darparu'r lefel gywir o gefnogaeth ar ôl eu rhyddhau—gan gynnwys tai priodol, darpariaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac anogaeth i gael mynediad at addysg a sgiliau er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd gwaith. Felly, hoffwn annog a chefnogi unrhyw gynigion i roi diwedd ar, neu gyfyngu ar y defnydd o ddedfrydau tymor byr. Nid oes fawr o bwrpas os o gwbl i brosesau costus mewn perthynas ag adsefydlu, ond fel y dywedais, gall gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl.
Gan droi at faterion polisi eraill yn y cynnig—hawl carcharorion i bleidleisio yn etholiadau Cymru. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ystyried opsiynau ar gyfer ymestyn hawliau i garcharorion gael pleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol Cymru ac rydym wedi ymgynghori ar becyn o gynigion o ran diwygio etholiadol gyda golwg ar gyflwyno Bil yn ddiweddarach eleni. Ond wrth gwrs, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dan gadeiryddiaeth John Griffiths, yn cynnal ymchwiliad ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Rwy'n falch fod y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried a ddylid rhoi'r hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru i bob carcharor neu a ddylid gwahaniaethu rhwng gwahanol gategorïau o garcharor. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o hawl i bleidleisio ar gyfer carcharorion ond mae'n aros i weld canfyddiadau'r pwyllgor.
Mae arnaf eisiau gwneud pwynt cryf hefyd ynglŷn â menywod a'r system cyfiawnder troseddol. Roedd yr ystadegau'n codi arswyd arnaf—a Helen Mary yn ogystal ag Alun Davies ac eraill ar y pwynt hwn. Rwy'n cefnogi'r egwyddor a nodir yn gryf, a bydd llawer ohonoch yn cofio adroddiad arloesol y Farwnes Jean Corston ar y mater hwn. Dros 10 mlynedd ers hynny, mae'r egwyddorion hyn a amlinellwyd ganddi yn aros yr un fath. Mae'n amlwg fod menywod yn cael eu hanfon i'r carchar am droseddau diannod lefel isel yn aml. Diolch i chi am eich sylwadau heddiw ar y mater hwn.
O ganlyniad, gall defnydd aneffeithiol o ddedfrydau byr o garchar i fenywod nad ydynt wedi cyflawni troseddau difrifol effeithio'n drychinebus arnynt hwy ac ar eu teuluoedd. Nid yw dedfrydau byr yn galluogi adsefydlu yn ei ystyr lawnaf, oherwydd, yn amlwg, yn aml nid ydynt yn y carchar yn ddigon hir i allu cwblhau rhaglenni neu ddechrau rhaglenni hyd yn oed a allai fod yn fuddiol o ran addysg ac adsefydlu.
Ar yr un pryd, bydd plant menywod sy'n bwrw dedfryd o garchar yn dioddef yn eu tro. Fel y mae adroddiad yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, 'What about me?', a gyhoeddwyd y llynedd yn ei ddweud, 5 y cant yn unig o'r plant sydd â mamau yn y carchar sy'n gallu aros yn y cartref teuluol. Mae effeithiau mwy hirdymor carcharu menywod yn bellgyrhaeddol ac mae'n rhaid eu hystyried o ddifrif. Felly, dylid croesawu unrhyw gynnig i leihau effaith carcharu ar fenywod.
Hefyd, hoffwn ddiolch i Alun Davies, fy rhagflaenydd, am y gwaith a wnaeth yn y maes polisi allweddol hwn, a'r ymrwymiad a wnaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn ar draws yr ystod lawn o agweddau sy'n codi yn y ddadl hon, ac sydd wedi cael croeso eang. Mae angen inni sicrhau, ar ran menywod Cymru, fod ganddynt gyfleusterau diogel sy'n addas at y diben, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu'r glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd yng Nghymru. Cafodd ei gyhoeddi gan Alun ym mis Rhagfyr y llynedd. Fe'i datblygwyd ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a bydd hwnnw'n helpu i nodi'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer darparu gwasanaethau system cyfiawnder priodol ar gyfer menywod yng Nghymru.
Felly, Lywydd, mae'n bwysig dweud wrth amlinellu ei brif flaenoriaethau ar gyfer diwygio—a gwnaeth hynny yn ei sesiwn gwestiynau gyntaf fel Prif Weinidog—fod y Prif Weinidog wedi nodi'r blaenoriaethau uniongyrchol fod cyfiawnder ieuenctid a throseddu ymysg menywod yn feysydd rydym yn gweithio arnynt gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, drwy'r glasbrintiau a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, er mwyn gweld pa gynnydd y gallwn ei wneud o fewn cyfyngiadau'r setliad datganoli presennol. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu'r comisiwn i gadarnhau ei barn ei hun; mae'n annibynnol ac mae ganddo arbenigedd mawr ym mhob un o'r meysydd y mae'n ymchwilio iddynt. Gosodwyd ein gwelliant er mwyn cydnabod gwaith pwysig comisiwn Thomas, ac wrth gwrs, mae pawb ohonom ar draws y Siambr yn edrych ymlaen at y casgliadau a'r argymhellion y bydd yn eu darparu.