Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch, Lywydd. Carwn ddiolch i'r holl Aelodau bron am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Nid wyf am roi sylw i ddadl UKIP, gan nad oedd y rhan fwyaf o'r pwyntiau'n gwneud unrhyw synnwyr nac wedi'u cefnogi gan ffeithiau—newyddion ffug oedd yn llywio'r rhan fwyaf ohonynt rwy'n credu. Os ydynt yn credu o ddifrif fod ethnigrwydd a chenedligrwydd yn gysylltiedig â chyfraddau troseddu, tybed a ydynt yn gweld paralelau hanesyddol safbwynt o'r fath. Roedd eich cyfraniad yn hiliol, hiliol, hiliol, hiliol.
Nid oeddwn yn synnu clywed y Torïaid yn ceisio cyfiawnhau eu polisi cyfiawnder troseddol trychinebus. Mae'r llinell wych honno, 'nid yw troseddu'n adnabod unrhyw ffiniau' yn enghraifft glasurol gan blaid Brexit. Pam na chawn ni heddlu Ewropeaidd felly, carchardai Ewropeaidd, system cyfiawnder troseddol Ewropeaidd? A na, nid ydym yn gwrthwynebu cael carchardai—rydym yn gwrthwynebu cael carchardai enfawr, rydym yn gwrthwynebu cael lleoedd carchar nad oes mo'u hangen ar ein gwlad. Wrth gwrs bod angen moderneiddio ein hystâd carchardai, ond rydym yn dadlau o blaid datganoli'r system cyfiawnder troseddol fel y gallwn wneud carchardai mewn ffordd wahanol—mwy o adsefydlu, unedau llai o faint ar gyfer y bobl a ddylai fod yno. Ond yn gyffredinol, dylai fod yn nod polisi gennym i leihau poblogaeth y carchardai a defnyddio dedfrydau sy'n fwy cymunedol, ac sy'n ennyn hyder pawb ohonom.
Disgrifiodd Bethan Sayed beth yn union oedd yr ymgyrch yn erbyn carchar ym Maglan. Gosododd y mater yng nghyd-destun blaenoriaethau buddsoddi mewn seilwaith ehangach hefyd. Mae pobl ym Mhort Talbot wedi cymryd rhan yn y ddadl ynglŷn â sut y dylid datblygu ein system cyfiawnder troseddol yn y dyfodol. Nawr, mae angen i Gymru gyfan gymryd rhan yn y ddadl. Oherwydd yr hyn a wyddom yw bod dioddefwyr torseddau, pan ofynnir iddynt beth y maent eu eisiau, dro ar ôl tro yn dweud eu bod am atal y troseddwr rhag aildroseddu. A beth yw'r ffordd orau o wneud hynny? Rhoi mwy o bobl yn y carchar? Na, mae'n well adsefydlu yn y gymuned, ac mae'r ymchwil yn gwbl glir ar y pwynt hwnnw.
Gofynnodd Jenny Rathbone am y rhesymau dros y ffigurau carcharu uchel ar gyfer Cymru, ac rwyf wedi esbonio beth yw eglurhad Napo ar hynny. Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod lefelau uwch o amddifadedd yng Nghymru yn effeithio ar hynny hefyd.
Ar fater pleidleisiau i garcharorion, rydym yn falch fod Llafur yn cefnogi'r alwad hon. Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei rhwymedigaethau hawliau dynol yn y maes hwn yn unol â safonau rhyngwladol. Rydym yn cytuno gyda dyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop nad oes unrhyw le i ddifreinio pob carcharor yn awtomatig. Gellir rhoi ystyriaeth bellach i'r angen am osod cyfyngiadau ar hyn, ac edrychaf ymlaen at barhau gyda'r ymchwiliad ac ystyried y pwynt hwnnw ymhellach.
Diolch i Helen Mary am amlinellu mor glir anghenion siaradwyr Cymraeg a'r gwahaniaethu sy'n wynebu menywod yn y system. Rhaid inni newid yr hyn a wnawn gyda'r holl droseddwyr, ond i fenywod a phobl ifanc, mae bellach yn fater o frys. Yn fy marn i, nid oes angen carchar i fenywod yng Nghymru. Mae angen inni fabwysiadu agwedd gwbl wahanol os ydym am weld canlyniadau gwahanol, a gwnaeth y pwynt yn rymus y gall dedfrydau cymunedol fod yn llym. Gallant fod yn llym iawn. Yn fy mhrofiad i fel swyddog prawf, roedd gweld cleientiaid yn crio yn yr ystafell yn erfyn am gael eu hanfon yn ôl i'r carchar yn cyd-fynd yn llwyr â'r pwynt a wnaeth, ond mae'n dangos pa mor galed y gall dedfrydau cymunedol fod.
Ydy, Alun Davies, mae'r system yn methu ac yn methu'n wael a dyna pam y bu Plaid Cymru'n ymgyrchu dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd ers degawdau bellach. Ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ymuno â ni. Ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn llawn, oherwydd fel y nodwyd gennych, mae gwelliant y Llywodraeth yn dileu'r rhan honno o'n cynnig. A mawr obeithiaf y bydd yr Aelodau Llafur sydd am weld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli'n llawn yn pleidleisio'n unol â hynny heddiw. Gadewch i ni weld.
Mae'n siomedig, er hynny, na chawsom esboniad digonol gan y Gweinidog ynglŷn â pham na allent ein cefnogi ar y pwynt hwn, yn enwedig yng ngoleuni cyfraniad Alun Davies. Nid yw'n welliant adeiladol na defnyddiol, Weinidog, a chredaf y dylech bleidleisio yn ei erbyn.
Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedoch chi am y gwasanaeth prawf, ac edrychaf ymlaen at drafod hynny ymhellach gyda chi. Mae'n rhaid inni roi diwedd ar breifateiddio gwaith di-dâl a gwaith grŵp, yn ogystal â goruchwyliaeth un i un. Deallaf nad yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eisiau ailwladoli'r elfennau hynny, a'u bod am eu cadw mewn dwylo preifat, felly rwy'n gobeithio y gallwch gael rhywfaint o ddylanwad ar y pwynt hwnnw.
Mae'n amlwg o'r ddadl hon fod y rhan fwyaf o'r Aelodau yn derbyn bod y system yn gwneud cam â phawb. Rhaid inni fod yn barod i wneud pethau'n wahanol, ac ni allwn wneud hynny heb fod gennym reolaeth dros yr ysgogiadau polisi perthnasol. Ni allwn barhau i ohirio hyn.