Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn am gymryd ymyriad, a'i ddiben yw ychwanegu at y sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Flaenau Gwent sy'n eistedd y tu ôl ichi, mewn gwirionedd. Os yw'n uchelgais gwleidyddol go iawn gennych i symud tuag at ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yn llawn, na, nid ydych yn bwriadu ei wneud mewn ffordd sy'n ein bodloni o ran cyflymder y newid, ond pam na wnewch chi benderfynu cefnogi ein cynnig fel y mae ar y cam hwyr hwn er mwyn dangos bod undod yma ar y cyfeiriad teithio, a ble rydym eisiau cyrraedd yn y pen draw?