Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd. Mae digwyddiadau neithiwr yn Nhŷ’r Cyffredin yn hytrach nag egluro materion wedi cymhlethu pethau ymhellach. Wrth gwrs, rŷm ni’n croesawu’r ffaith fod Tŷ’r Cyffredin wedi dweud yn glir nad yw ymadael heb gytundeb yn ganlyniad derbyniol i’r trafodaethau Brexit, safbwynt a fynegwyd gan y Cynulliad hwn bythefnos yn ôl, sy’n dangos grym penderfyniadau yn y Cynulliad i lunio barn. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrando ar hyn ac fel dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf i ddweud yn glir nad yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn. Dydw i ddim am ailadrodd trafodaethau’r wythnos diwethaf, ond byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus. Does dim modd i unrhyw Lywodraeth gredadwy barhau i wrthod dweud yn bendant nad yw hynny’n opsiwn.
Y cam cyntaf fyddai i’r Llywodraeth gyflyno is-ddeddfwriaeth angenrheidiol i ddiddymu’r cyfeiriad at 29 Mawrth fel diwrnod ymadael. Ond dydy’r camau hyn ddim yn ddigon wrth eu hun. Mewn un ffordd o leiaf, roedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gywir wrth fynnu nad oes modd i ni wrth ein hunain gael gwared â’r cleddyf Damocles sy’n hofran uwch ein pennau—y perygl o ymadael heb gytundeb ar 29 Mawrth. Er bod y mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin, yn y Cynulliad hwn, ac yn Senedd yr Alban, yn ogystal â’r undebau llafur a’r gymuned fusnes bron yn gyfan yn credu bod ymadael heb gytundeb yn annerbyniol, dydy’r ffaith honno ddim yn golygu ei fod yn amhosib. A hyd yn oed os byddai Senedd y Deyrnas Unedig yn ailddiffinio’r diwrnod ymadael, oni bai fod pob un o’r 27 aelod-wladwriaeth arall yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn cytuno i ymestyn y terfyn o ddwy flynedd a osodwyd gydag erthygl 50, ni fydd hyn yn digwydd.