Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 30 Ionawr 2019.
Rydym yn bryderus iawn ynglŷn â chyn lleied o amser sydd ar ôl, gyda'r dyddiad gadael ar 29 Mawrth yn eglur iawn ar y gorwel. Ceir rhagdybiaeth yn San Steffan y gallwn fynd yn agos iawn at y dyddiad hwnnw a galw am estyniad i erthygl 50 wedyn. Mae hon yn rhagdybiaeth beryglus iawn. Po hwyaf yr arhoswn cyn gofyn am estyniad, y gwannaf oll y bydd safbwynt negodi'r Llywodraeth. Po agosaf yr awn i 29 Mawrth, y mwyaf o gonsesiynau y bydd aelod-wladwriaethau eraill yr UE yn eu ceisio gan y DU yn gyfnewid am sicrhau eu cytundeb. A pho agosaf yr awn at yr etholiadau Ewropeaidd, y mwyaf anodd fydd cysoni unrhyw beth mwy nag estyniad byr â'r trefniadau i ad-drefnu'r Senedd honno i adlewyrchu Brexit. Felly, mae angen inni ofyn am estyniad i erthygl 50 nawr, rhywbeth roedd yr UE yn dynodi neithiwr y byddai'n edrych yn gadarnhaol arno. Mae angen i Lywodraeth y DU wynebu'r ffaith nad yw bygythiadau a rhybuddion olaf yn arwain rywsut at wneud i'r UE fod yn barod i gydymffurfio oherwydd, er fy mod yn sicr nad oes neb yn yr UE eisiau i'r DU adael heb gytundeb, a allwn feio ein partneriaid Ewropeaidd os ydynt yn rhwystredig tu hwnt yn sgil yr hyn a welsant dros yr ychydig wythnosau diwethaf?
Ac er mai Brexit yw'r mater pwysicaf yng ngwleidyddiaeth Prydain mae'n siŵr, rydym yn twyllo ein hunain os ydym yn credu mai Brexit yw'r prif ffocws yn Ffrainc, yn yr Almaen, yn Sbaen, ym Mhortiwgal. Byddai unrhyw ddemocratiaeth aeddfed arall, wrth wynebu her o'r math a achosir gan Brexit wedi sicrhau bod y Llywodraeth yn ceisio adeiladu consensws eang ynglŷn â sut i symud ymlaen mewn amgylchiadau na ellir gwadu eu bod yn anodd. Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amlwg wedi methu estyn allan. Yn hytrach, mae wedi dechrau ar strategaeth bleidiol gul i uno'r Blaid Geidwadol, nid y wlad, strategaeth sy'n seiliedig ar linellau coch, ar derfynau amser a osodwyd ganddi hi ei hun ac ar anallu i wrando neu barchu buddiannau cyfreithlon y parti arall yn y negodiadau: 27 gwlad yr UE. Mae'n strategaeth sydd wedi methu gwneud unrhyw beth i bontio'r rhaniadau dwfn yn ein cymdeithas.
Er hynny, byddai'r grasfa hanesyddol ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol wedi arwain, ar unrhyw adeg arferol, at ymddiswyddiad y Prif Weinidog a newid cyfeiriad ar unwaith. Ond yn dilyn y grasfa honno, clywsom eiriau calonogol gan Brif Weinidog y DU am drafodaethau trawsbleidiol, estyn allan at y gweinyddiaethau datganoledig gyda bwriad i adeiladu consensws. Swniai fel pe bai'r Prif Weinidog o'r diwedd wedi dysgu o gamgymeriadau Llywodraeth y DU. Pan gyfarfu â Phrif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf, dywedodd Prif Weinidog Cymru yn glir fod Llywodraeth y DU ar groesffordd. Gallai Prif Weinidog y DU barhau i fynd i'r cyfeiriad y mae wedi bod yn symud iddo'n araf ers llinellau coch Lancaster House drwy groesawu undeb tollau yn awr a chyfranogiad yn y farchnad sengl ar draws yr economi gyfan, neu gallai gadw at ei chytundeb a cheisio glynu'n ystyfnig at lwybr a oedd eisoes wedi mynd â hi i cul-de-sac.