Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 30 Ionawr 2019.
Lywydd, er gwaethaf y geiriau calonogol a ddilynodd y grasfa a gafodd bythefnos yn ôl, mae'n eithaf clir bellach fod y Prif Weinidog yn troi mewn cylchoedd yn ei cul-de-sac, yn ailadrodd y safbwyntiau llinell goch, yn methu gweld yr angen i ymestyn erthygl 50 ar frys ac yn methu diystyru 'dim cytundeb'—yn fyr, mae'n parhau ar y ffordd i unman. A all unrhyw beth fod yn fwy chwerthinllyd na'r Prif Weinidog yn gosod chwip ar ei Haelodau Seneddol ei hun i'w cael i'w chyfarwyddo i fynd i wneud rhywbeth y dywedodd ei fod yn amhosibl gwta bythefnos yn ôl? Yn hytrach na cheisio uno'r Senedd ar ffordd ymlaen sy'n gyson â'r weledigaeth ar gyfer perthynas ôl-Brexit â'r UE sy'n parhau i gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol, mae'r Prif Weinidog wedi dewis cadarnhau ei hymrwymiad i'r ddarpariaeth wrth gefn, er bod yr UE wedi dweud, ac wedi ailadrodd eto neithiwr, nad yw'r ddarpariaeth wrth gefn yn agored i'w ailnegodi tra bo'i llinellau coch hi yn parhau yn eu lle. Ac os caf ddweud, Lywydd, rydym yn cefnogi'r pryderon dilys a fynegir gan ein cymdogion yng Ngweriniaeth Iwerddon a'r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â'r risgiau y mae Brexit yn eu hachosi i'r heddwch a'r ffyniant y mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith wedi'i ddwyn i ynys Iwerddon? Mae'r Prif Weinidog ar fin mynnu bod Iwerddon a'r UE-27 arall yn ailagor cytundeb y mae hi wedi dweud mor ddiweddar ei fod yn derfynol, wedi'i wneud, yr unig gytundeb ar y bwrdd. Os ydynt yn gwrthod ildio'r sicrwydd pendant, a allwn eu beio am wrthod gwneud hynny'n gyfnewid am honiad y DU y gellir ymddiried ynddi i anrhydeddu eu cytundebau?
Felly, er ei bod bob amser yn amhosibl bod yn sicr ynglŷn â'r dyfodol gyda Brexit, mae'n edrych yn debyg fod taith frysiog nesaf y Prif Weinidog i Frwsel wedi'i thynghedu i fethu. A hyd yn oed os daw â rhai consesiynau neu sicrwydd symbolaidd yn ôl gyda hi, pwy all fod yn sicr y byddai'n bodloni'r dyrnaid bach o Brexiteers cyfeiliornus sy'n credu'n ddiffuant na fydd gadael heb gytundeb yn ddim mwy nag anghyfleustra bach?
Gadewch inni fod yn glir: mae'r Prif Weinidog yn mynd i fod angen sicrhau cefnogaeth barhaus i'w dull o weithredu ar Brexit. Bydd ceisio adeiladu strategaeth ar gytundebau ar yr ymyl gyda'r DUP a'r consesiynau i'r grŵp diwygio Ewropeaidd yn gwanhau safbwynt y Llywodraeth yn y wlad hon wrth iddynt geisio pasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol yn yr wythnosau nesaf. Felly, rydym yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu gweld yr angen i sefydlu tir cyffredin ar draws y pleidiau gwleidyddol ar Brexit ar gyfer y tymor hir. Mewn cyferbyniad â'r strategaeth rhannu a rheoli a welwyd yn San Steffan, o'r cychwyn cyntaf mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio adeiladu consensws, rhywbeth a nodweddir yn ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gytunwyd ar y cyd â Phlaid Cymru. Yn y Papur Gwyn hwnnw, roeddem yn glir ynglŷn â'r cyfaddawdau y byddai eu hangen pe baem yn anrhydeddu canlyniadau'r refferendwm. Roeddem yn cydnabod nad oedd pobl wedi pleidleisio dros wneud eu hunain yn dlotach ac na allai Cymru fforddio'r costau economaidd enfawr yn sgil torri mynediad at y farchnad sengl a bod y tu allan i'r undeb tollau, a bod hyn yn golygu y byddai'n rhaid inni dderbyn dyfodol lle byddai gennym lai o reolaeth, fel Norwy, dros ein hamgylchedd rheoleiddio nag sydd gennym fel aelod-wladwriaeth.
Mae ein dull o weithredu'n seiliedig ar dystiolaeth yn parhau i olygu bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gallu cytuno ar safbwyntiau mwyafrifol i wrthod cytundeb Llywodraeth y DU a nodi'r ffurf ar Brexit, gyda chyfranogiad yn y farchnad sengl ac undeb tollau, a fyddai'n ennyn ein cefnogaeth, cytundeb ar yr angen i ymestyn proses erthygl 50, a chytundeb i ddiystyru'r posibilrwydd y bydd y DU yn gadael heb gytundeb. Mae ein gallu yma i ddod o hyd i dir cyffredin yn ein rhoi mewn sefyllfa gref yn y Cynulliad hwn pan geisiwn ddylanwadu ar Lywodraeth y DU drwy fod yn glir beth sydd, a beth nad yw'n dderbyniol i Gymru.
Neithiwr, methodd Tŷ'r Cyffredin gefnogi unrhyw ffordd gydlynol ymlaen ac eithrio ymgais sy'n peri pryder i gicio'r can i lawr y lôn. Mae'n ymddangos yn fwyfwy amlwg mai'r dewis y bydd y wlad yn ei wynebu yn y pen draw yn wir fydd dim cytundeb, cytundeb gwael nad yw'n gallu hawlio mwyafrif sefydlog yn y Senedd, neu roi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl. Nid yw pleidlais gyhoeddus arall yn llwybr hawdd; ceir llawer o rwystrau ar y ffordd o ran egwyddor ac ymarferoldeb. Ond er y byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn parhau i annog y Senedd i ymuno i gefnogi cytundeb ymadael a datganiad gwleidyddol wedi'i ailysgrifennu sy'n adlewyrchu Brexit mwy credadwy, mwy sefydlog, tebyg i Norwy+—sydd, gyda llaw, yn dileu'r angen am ddarpariaeth wrth gefn—rydym hefyd yn gwybod bod amser yn brin, a bellach, rhaid dechrau'r gwaith o baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus.