Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 30 Ionawr 2019.
Mae'n ymddangos i mi fod y difrifoldeb a ddangoswyd tuag at y refferendwm hwnnw, neu'r parch a roddwyd iddo, wedi'i adlewyrchu yn y ffaith ein bod wedi treulio dwy flynedd a hanner yn ceisio gweld a oes ffordd o ddod i gytundeb. Nid yw fel pe bai wedi cael ei anwybyddu; rydym wedi cyrraedd y pwynt ar ôl y negodi hwnnw ac yn gweld, 'Gwrandewch, dyma'r dewis arall', ac efallai na all gwleidyddion wneud y penderfyniad hwnnw. Dylai fod yn fater i'r bobl benderfynu yn ei gylch.