8. Dadl ar NNDM6958 — Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:14, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Edrychwch, nid wyf yn mynd i amddiffyn safbwynt y Blaid Lafur yn San Steffan am un eiliad. Roedd y bleidlais ddydd Llun ar y Bil mewnfudo yn anrhefn llwyr; roedd yn warthus. Dylai'r Blaid Lafur wynebu hyn ar sail ein gwerthoedd a'n hegwyddorion ac nid ar sail hwylustod, a chafwyd llawer gormod o hynny gan ein mainc flaen yn Llundain, ac rwy'n gresynu at hynny hefyd, ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny.

Felly, gadewch inni sicrhau ein bod yn symud ymlaen nawr i bleidlais, ein bod yn gallu atal erthygl 50 dros dro i'n galluogi i egluro'r safbwynt, a'n bod wedyn yn gallu cael dadl sy'n seiliedig ar ffeithiau a dealltwriaeth ac sy'n seiliedig ar opsiwn i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac i barhau'n rhan flaenllaw o un o'r sefydliadau rhyngwladol mwyaf pwerus yn y byd. Byddai hynny'n llawer gwell na chrebachu'n ôl i ryw ffantasi ymerodrol am y gorffennol. Rwyf am weld dyfodol lle gall pawb ohonom gymryd rhan mewn penderfyniadau Ewropeaidd a lle gall pawb ohonom edrych ymlaen at ddyfodol y bydd ein plant yn falch ohono heb gywilydd am ein bod wedi troi ein cefnau pan ddechreuodd pethau fynd yn anodd.