Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:36, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n gylch diddiwedd unwaith eto, Weinidog, gan fy mod am eich holi unwaith eto ynglŷn â'r dreth incwm gan ei fod yn fater mor bwysig a dybryd. Yr wythnos diwethaf, fe gyflwynom ni ddadl yn y Siambr ynghylch y mater dybryd hwnnw o ddatganoli'r dreth incwm, a gofynnodd nifer o Aelodau ar yr ochr hon i chi beth oedd eich bwriad mewn perthynas â'r cyfraddau hynny a'ch ymrwymiad i gadw cyfraddau treth fel y maent, yn gyson am y ddwy flynedd nesaf o leiaf. A allwch ailgadarnhau'r ymrwymiad hwnnw heddiw?