Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd. Ar yr unfed ar ddeg o'r mis yma, mi atebodd y Gweinidog ddau gwestiwn ysgrifenedig a gafodd eu cyflwyno gen i ynglŷn â Barnett consequentials i Gymru yn sgil pecyn cyllido'r 10 Rhagfyr ar gyfer prosiect Crossrail. Mi ddywedwyd mewn ymateb i mi fod trafodaethau'n parhau rhwng swyddogion y Llywodraeth—swyddogion Llywodraeth Cymru, felly—a swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Oes yna ddiweddariad i ni gan y Llywodraeth am y trafodaethau hynny?