Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:46, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Tybed a oedd y Gweinidog yn ystyried bod cymryd cyfrifoldeb am gymhlethdodau cyllid llywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod yn un o nodweddion atyniadol ei swydd newydd, ac a yw'n cytuno â mi fod y fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol i'w gweld wedi dyddio bellach a bod angen ei diwygio. Yn benodol, un o'i diffygion yw ei bod hi'n ymddangos bod y mecanwaith sy'n rhan ohoni yn gorfodi cynghorau i godi'r dreth gyngor bron bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagfynegi gwariant cynghorau dros y flwyddyn nesaf, ac mae rhagfynegiad o angen mwy yn arwain at grant bloc mwy. Mae'r rhagfynegiad o angen yn seiliedig ar wariant cynghorau dros y blynyddoedd blaenorol, felly os oes gennych hanes blaenorol o drethi cyngor uchel, byddwch yn cael mwy o arian; os oes gennych drethi cyngor is, rydych yn cael llai o arian. Felly, mae angen i gynghorau gynyddu'r dreth gyngor bob blwyddyn i sicrhau amcangyfrifon uwch o angen ariannol a grantiau uwch gan Lywodraeth Cymru. Felly, nid oes unrhyw gymhelliad o gwbl yn y fformiwla ar hyn o bryd i gynghorau lleol gael gwell gwerth am arian neu gwtogi eu gwariant. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw cael fformiwla sy'n cael gwared ar y fath hurtrwydd.