Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch, Weinidog. Rwy'n derbyn yn llwyr eich bod wedi dweud yn y gorffennol, a bod eich rhagflaenydd wedi dweud nad cynyddu'r dreth incwm yw'r bwriad, ond ymddengys bod y sefyllfa wedi newid i raddau yn hyn o beth. Yn sicr, mae'r ieithwedd wedi newid. Dywedodd y Prif Weinidog, yn fuan ar ôl dod i'r swydd, nad yw'n fwriad i wneud hynny. Rydych wedi dweud eto heddiw nad ydych yn bwriadu ei chodi, ond golyga hynny fod y drws yn cael ei adael ar agor. Pe bai'r sefyllfa economaidd yn newid dros y ddwy flynedd nesaf, a wnewch chi ddiystyru codi lefelau treth incwm yn gyfan gwbl cyn etholiad nesaf y Cynulliad, neu a ydych yn dweud bod y drws ar agor? Mae'n gwestiwn pwysig iawn i'w ateb, gan fod busnesau a'r cyhoedd yn pryderu ynglŷn â'r mater hwn.