Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:44, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Gwyddom fod gwariant ar y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn bell ar ei hôl hi, yn sicr o gymharu â de-ddwyrain Lloegr ac ardal Llundain, ac yn wir, pe bai gwariant cyfalaf yma yng Nghymru wedi dal i fyny gyda gwariant cyfalaf y pen yn ne-ddwyrain Lloegr a Llundain, byddai £5.6 biliwn yn ychwanegol wedi'i wario yma yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr, yn fy marn i, mae hwnnw'n £5.6 biliwn a gollwyd. A fyddech yn cytuno bod hon yn enghraifft glasurol o Lywodraeth y DU yn tanariannu Cymru? A fyddech yn cytuno i'w gwneud yn flaenoriaeth i weld a oes ffynhonnell o arian yma? Ac a fyddech, efallai, yn ystyried bod hyn yn dangos methiant Llywodraeth Cymru i atal y bwlch hwnnw rhag cynyddu dros yr 20 mlynedd ers ichi ddod i rym ym 1999?