Datblygu Mesurau Trethiant

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:58, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae pwerau trethu yn rhoi cyfle i gyflwyno newid i'r system drethi er mwyn helpu i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Ar hyn o bryd, mae ysgolion preifat yn cynnal annhegwch ac anghydraddoldeb sefydliadol, ac yn gweithio yn erbyn symudedd cymdeithasol drwy atgyfnerthu anghydraddoldeb addysgol sy'n bwydo drwodd i yrfaoedd a chyfleoedd bywyd, gyda nifer anghymesur o gyn-ddisgyblion ysgolion preifat yn cyrraedd y brig mewn nifer o broffesiynau a busnesau. A wnewch chi roi ystyriaeth ofalus i roi diwedd ar y manteision treth a ddaw yn sgil statws elusennol ysgolion preifat er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb o ran cyfleoedd a chanlyniadau yng Nghymru?