1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 30 Ionawr 2019.
4. A wnaiff y Gweinidog nodi polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu mesurau trethiant? OAQ53314
Bydd polisi treth Cymru yn cael ei ddatblygu yn unol â'r egwyddorion a amlinellir yn ein fframwaith polisi trethi. Byddaf yn mabwysiadu ymagwedd ystyriol, yn ceisio codi refeniw'n deg, ac yn ymgysylltu'n eang â threthdalwyr a rhanddeiliaid eraill.
Weinidog, mae pwerau trethu yn rhoi cyfle i gyflwyno newid i'r system drethi er mwyn helpu i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Ar hyn o bryd, mae ysgolion preifat yn cynnal annhegwch ac anghydraddoldeb sefydliadol, ac yn gweithio yn erbyn symudedd cymdeithasol drwy atgyfnerthu anghydraddoldeb addysgol sy'n bwydo drwodd i yrfaoedd a chyfleoedd bywyd, gyda nifer anghymesur o gyn-ddisgyblion ysgolion preifat yn cyrraedd y brig mewn nifer o broffesiynau a busnesau. A wnewch chi roi ystyriaeth ofalus i roi diwedd ar y manteision treth a ddaw yn sgil statws elusennol ysgolion preifat er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb o ran cyfleoedd a chanlyniadau yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Wrth gwrs, tegwch yw ein hegwyddor bwysicaf o ran yr egwyddorion trethu sy'n ein llywio wrth inni ddatblygu ein polisi treth yng Nghymru. Gallaf gadarnhau fy mod yn bwriadu ymgynghori dros y 12 mis nesaf ar gynigion i sicrhau bod ysgolion annibynnol ac ysbytai preifat ar sail gyfartal â'u cymheiriaid yn y sector cyhoeddus mewn perthynas â thalu ardrethi annomestig. Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried diddymu rhyddhad ardrethi elusennol oddi ar ysgolion preifat ac ysbytai preifat os ydynt wedi'u cofrestru fel elusennau. Mae'n rhaid i ysgolion ac ysbytai gwladol, wrth gwrs, dalu ardrethi annomestig, fel pob talwr ardrethi arall, ac mae'n gyfraniad pwysig at gost y gwasanaethau lleol hanfodol a ddarperir yn ein cymunedau. Felly, mae hyn yn arwain at y cwestiwn ynghylch cydraddoldeb, a grybwyllwyd gennych, ochr yn ochr â thegwch—os byddwn yn newid cymhwystra'r sefydliadau hyn o ganlyniad i'r ymgynghoriad, bydd hynny'n eu rhoi ar sail gyfartal ag ysgolion ac ysbytai gwladol.
A fyddech yn cytuno, Weinidog, fod yn rhaid i bolisi Llywodraeth Cymru o ran cyfraddau treth incwm Cymru gynnwys ymrwymiad i ddarparu canllawiau cynhwysfawr a hygyrch i drethdalwyr Cymru, ac a allwch gadarnhau y bydd canllawiau'n cael eu darparu ar wefannau megis rhai Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru?
A fy mhwynt arall, Weinidog: os yw pobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru yn gweithio dros y ffin—gwyddom fod un unigolyn yn y Siambr hon yn byw yn Lloegr ac maent yma yn y rhan hon o'r byd—felly os oes gwahaniaeth mewn trethi rhwng y ddau ranbarth, y ddwy wlad, lle mae'r budd ar gyfer y dreth? A fydd modd iddo ef neu hi wneud cais a mynd am eu man preswylio yn hytrach na lle maent yn ennill yr arian?
Gallaf gadarnhau y bydd y rhan fwyaf o bobl yn talu trethi yn eu man preswylio. Fodd bynnag, mae eithriad yn y rheolau sy'n golygu y bydd holl Aelodau'r Cynulliad yn talu cyfraddau treth incwm Cymru ni waeth ble maent yn byw. Byddaf yn cadarnhau y bydd rhaglen gyfathrebiadau gynhwysfawr ar waith i sicrhau bod pobl yn gwbl ymwybodol o gyfraddau treth incwm Cymru a beth y gallai hynny ei olygu iddynt hwy, ac yn amlwg, i allu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.