Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn ar gyllid parodrwydd ar gyfer Brexit. Wrth gwrs, rydym wedi cyflwyno'r gronfa £50 miliwn ar gyfer parodrwydd ar gyfer Brexit ac mae Gweinidogion portffolio wedi gwneud nifer o ddatganiadau ynglŷn â sut y mae'r arian hwnnw wedi'i wario. Er enghraifft, yn ddiweddar, cyhoeddwyd cynllun cydnerthedd partneriaeth yr heddlu, cynllun cymorth Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer Brexit, a pharatoadau ar gyfer y trefniadau olynol ar gyfer y cynlluniau UE hynny, megis beth a ddaw'n gronfa ffyniant gyffredin ac ati.
Mae £10 miliwn arall o fewn y £31 miliwn hwnnw o gyllid nad yw wedi'i ddyrannu eto. Rwy'n trafod ar hyn o bryd gyda'r Prif Weinidog a swyddogion ar draws y Llywodraeth gyda'r bwriad o wneud cyhoeddiad pellach ynglŷn â sut y caiff yr arian hwnnw ei wario, ond mae'r drafodaeth honno'n mynd rhagddi ar hyn o bryd.