1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 30 Ionawr 2019.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Trysorlys ynghylch ailddyrannu unrhyw arian gan neu i'r UE pan fydd y DU yn ymadael â'r UE? OAQ53310
Gyda fy swyddogion, rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion Trysorlys y DU mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion ariannol, gan gynnwys trafod goblygiadau'r sefyllfa bresennol o ran effaith Brexit ar wariant cyhoeddus a'n cyllideb.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae llawer ohonom wedi sôn lawer gwaith am y gronfa ffyniant gyffredin, gan na wyddom beth ydyw nac o ble y daw, ond mae'r gronfa honno'n canolbwyntio ar gronfeydd strwythurol Ewropeaidd ac arian y gronfa datblygu rhanbarthol. Y cwestiwn sydd gennyf yw hwn: a oes cronfeydd eraill yn Ewrop sy'n dod i sefydliadau yn y wlad hon? Rhoddaf enghraifft—codwyd hyn gyda'r grŵp trawsbleidiol ar ddur yr wythnos diwethaf—y gronfa ymchwil ar gyfer glo a dur, sydd mewn gwirionedd yn ariannu ymchwil ar ardaloedd dur i sicrhau bod gennym ddiwydiant dur cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, rhywbeth sy'n hanfodol i economi Cymru. Pan ofynasant y cwestiwn hwn i'r Trysorlys, dywedwyd wrthynt, yn y bôn, 'Bydd yn mynd yn ôl i'r pot', ac na fyddai'n cael ei glustnodi ar gyfer unrhyw beth, felly efallai na chawn gronfa ymchwil wedi'i chlustnodi ar gyfer dur a glo. Pan fyddwch yn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, a allwch godi'r mater fod unrhyw arian a ddaw yn ôl o Ewrop, neu a fyddai wedi'i ddyrannu i Ewrop ar gyfer pynciau penodol mewn ardaloedd penodol, yn parhau i fod yno iddynt fel y gallwn elwa o hynny? Oherwydd mae colli oddeutu £200 miliwn i £400 miliwn o gyllid hygyrch ar gyfer ymchwilio i ddur yn golled enfawr i'r wlad hon.
Yn sicr, ac mae'r Aelod yn ymwybodol iawn ein bod wedi cael addewid na fyddai Cymru'n colli'r un geiniog yn sgil Brexit, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dal Llywodraeth y DU at yr ymrwymiad hwnnw. Mae David Rees yn iawn: ceir cryn dipyn o ffocws ar y gronfa ffyniant gyffredin oherwydd ei phwysigrwydd i'n cymunedau, a'r buddsoddiad a wna, ond rydym yn elwa o gymaint o raglenni a chronfeydd eraill—felly, mae'r rhaglen ymchwil i ddur, a grybwyllwyd, yn un ohonynt, ond nifer o raglenni llai yn ogystal. Ac mae gwir angen inni sicrhau ein bod yn parhau i gael mynediad at amrywiaeth eang o raglenni, amrywiaeth eang o rwydweithiau, a'r ystod eang o gronfeydd arloesi sydd gennym ar hyn o bryd. Byddaf yn sicr yn pwysleisio hynny, fel y gwn y bydd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Brexit, yn y cyfarfodydd y mae'n eu mynychu'n rheolaidd iawn, a chyfarfodydd rheolaidd iawn, bellach, y Prif Weinidog gyda Phrif Weinidog y DU.
Ysgrifennydd cyllid, pa ddefnydd a wnaethoch o'r £31 miliwn a ddarparwyd gan y Trysorlys i Lywodraeth Cymru ar gyfer parodrwydd mewn perthynas â Brexit? Mae'r arian hwn wedi eich cyrraedd, ond pan holaf wahanol Weinidogion mewn sesiynau cwestiynau, maent yn edrych yn syn wrth glywed bod yr arian hwn yn llifo drwy Lywodraeth Cymru. Felly, a allwch ddweud yn benodol beth y mae'r £31 miliwn hwnnw wedi'i gyflawni, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn ar gyllid parodrwydd ar gyfer Brexit. Wrth gwrs, rydym wedi cyflwyno'r gronfa £50 miliwn ar gyfer parodrwydd ar gyfer Brexit ac mae Gweinidogion portffolio wedi gwneud nifer o ddatganiadau ynglŷn â sut y mae'r arian hwnnw wedi'i wario. Er enghraifft, yn ddiweddar, cyhoeddwyd cynllun cydnerthedd partneriaeth yr heddlu, cynllun cymorth Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer Brexit, a pharatoadau ar gyfer y trefniadau olynol ar gyfer y cynlluniau UE hynny, megis beth a ddaw'n gronfa ffyniant gyffredin ac ati.
Mae £10 miliwn arall o fewn y £31 miliwn hwnnw o gyllid nad yw wedi'i ddyrannu eto. Rwy'n trafod ar hyn o bryd gyda'r Prif Weinidog a swyddogion ar draws y Llywodraeth gyda'r bwriad o wneud cyhoeddiad pellach ynglŷn â sut y caiff yr arian hwnnw ei wario, ond mae'r drafodaeth honno'n mynd rhagddi ar hyn o bryd.
Tynnaf sylw'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, fel cadeirydd pwyllgor monitro'r rhaglen sy'n ymwneud â chyllid Ewropeaidd. A gaf fi gytuno â'r sylwadau a wnaed gan David Rees, fy nghymydog yn etholaeth Aberafan a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y llinellau coch a dynnwyd gan y Llywodraeth, o ran y cyllid yn ei gyfanrwydd, a allai fod yn fwy, mewn gwirionedd, yn ôl yr hyn a ddeallwn, yn seiliedig ar gyfrifiadau presennol yr UE, na'r £680 miliwn presennol a ddylai ddod i Gymru, ond hefyd y dulliau ar gyfer gwneud y penderfyniadau ynglŷn â sut y dyrannwn ac y dosbarthwn yr arian hwnnw, efallai mewn ffordd wahanol, ar ôl Brexit hefyd? Ymddengys bod mwy a mwy o frys ar ôl y bleidlais neithiwr, unwaith eto.
Fel arfer, mae'r Trysorlys yn tueddu i fod—ar hyn o bryd, yn sicr—yn geidwadol yn ariannol, ond ceidwadol gydag 'c' fach o ran eu hymagwedd tuag at ddatganoli hefyd. Felly, a gaf fi ailbwysleisio'r pwynt a wnaeth David, sef: pa drafodaethau y mae hi a'i swyddogion yn eu cael gyda swyddogion y Trysorlys, sef y rhai, yn y pen draw, a fydd yn eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet, nid yn unig i helpu i ddylanwadu ond hefyd i wneud y penderfyniad ynglŷn ag a fydd llinellau coch Llywodraeth Cymru yn cael eu parchu, a bod yr arian yn cael ei basio'n ôl i Gymru yn ogystal â'r grym i wneud fel y dymunwn ag ef?
Diolch yn fawr iawn am godi'r pwynt pwysig nad swm yr arian yn unig sy'n bwysig, er bod hynny'n amlwg yn bwysig—ond sut y caiff yr arian hwnnw ei ddarparu inni i'w ddyrannu yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ni allwn weld 20 mlynedd o ddatganoli yn cael eu dad-wneud drwy ymdrechion gan Lywodraeth y DU i gipio grym yn y maes hwn. Mae cynigion megis senario debyg i fargen ddinesig ar gyfer defnyddio'r arian hwnnw yn hollol amhriodol.
Nid oes rôl yma i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae hwn yn arian y mae angen i Lywodraeth Cymru ei ddyrannu i gyd-fynd â'n blaenoriaethau yn ein cymunedau, gan fod gennym y wybodaeth leol, y ddealltwriaeth a'r rhwydweithiau angenrheidiol i sicrhau ein bod yn gwneud defnydd effeithiol o gyllid o'r fath yma yng Nghymru.
Rydym wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid cynyddu llinell sylfaen grant bloc Llywodraeth Cymru bob blwyddyn yn unol â lefel y cyllid a gawn gan yr UE bob blwyddyn ar hyn o bryd, heb unrhyw adfachu neu frigdorri'r cyllid hwnnw chwaith. Dywedaf ar goedd eto ein bod yn teimlo'n rhwystredig iawn oherwydd y diffyg manylion gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin.