Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod cwestiynau sy'n gysylltiedig â hapchwarae wedi'u cynnwys o'r diwedd yn yr arolwg iechyd diwygiedig. Mae'n rhywbeth rydym wedi'i godi flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y Siambr hon, felly mae hwnnw'n gam ymlaen. Ond mae angen llawer mwy o ddata mewn gwirionedd o ran yr effaith o fewn addysg, yr effaith ar fyfyrwyr, yr effaith ar iechyd ac ati. Ymddengys i mi nad yw hyn ynddo'i hun yn rhywbeth y gallwn ddibynnu arno, ond mae'n hanfodol fod gennym broses strategol gynhwysfawr o goladu ddata i ddeall beth sy'n digwydd, oherwydd heb y data hwnnw, mae'n amhosibl datblygu strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â gamblo cymhellol. Tybed pa strategaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ran y data hwnnw ar hyn o bryd.