Denu Mwy o Ddigwyddiadau Mawr i Gymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:20, 30 Ionawr 2019

Wel, diolch, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei fuddsoddiad e yn y gemau yma? Dwi'n meddwl bod hwn yn gyfle. Mae'n gyfle mawr i Ynys Môn, dwi'n meddwl, sydd wedi gweld rhywfaint o broblemau yn ystod yr wythnosau diwethaf a byddai fe'n hyfryd i weld bod rhywbeth ar y gorwel o ran yr Island Games. Wrth gwrs, o ran egwyddor, rŷm ni'n gefnogol i'r gemau. Beth hoffwn i ei weld nawr yw fy nhîm i yn datblygu achos busnes dilys gyda llywodraeth leol, ac rŷm ni yn ymwybodol dros ben bod yn rhaid i hwn fod yn barod erbyn 8 Mawrth. Felly, mae'r syniad o symud yn gyflym yn un rŷm ni'n ei gymryd o ddifrif a bydd fy swyddogion i yn cydweithredu â llywodraeth leol i weld pa mor bell rŷm ni'n gallu mynd, ond dwi wir yn obeithiol y byddwn ni'n gallu cefnogi hwn.