Denu Mwy o Ddigwyddiadau Mawr i Gymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:19, 30 Ionawr 2019

Mae yna un digwyddiad mawr iawn ar y gorwel i ni yn Ynys Môn, sef y cyfle i ni gynnal Gemau'r Ynysoedd yn 2025. Mae pwyllgor gweithredol Gemau'r Ynysoedd yn rhyngwladol wedi bod yn gefnogol iawn i'n cynlluniau ni, a dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am hynny, ac mi fyddwn ni'n cyflwyno ein cais terfynol iddyn nhw mewn mater o wythnosau, felly mae hwn yn amser tyngedfennol. Dŷn ni'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth sydd wedi cael ei ddangos i ni gan yr awdurdod lleol a gan dîm digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru o dan Weinidogion blaenorol a dŷn ni'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth efo chi dros y blynyddoedd nesaf, tan 2025.

Ydych chi, fel Gweinidog sy'n newydd i'r portffolio yma, yn cytuno efo fi bod hwn yn gyfle amhrisiadwy i Fôn, fydd yn hwb economaidd, yn dda i chwaraeon, i ffitrwydd ac i iechyd, a fydd yn gadael gwaddol am flynyddoedd lawer, ac yn cytuno ei fod o'n ddigwyddiad y gall Llywodraeth Cymru fod yn falch iawn o'i gefnogi?